Mae Dysgu a Gwaith Cymru wedi agor yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2020 – byddwch yn rhan o ddathliad dysgu gydol oes sydd yn ysbrydoli. Dyddiad cau 31 Ionawr 2020
Mae Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2020 ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae Dysgu a Gwaith yn croesawu enwebiadau ar gyfer unigolion, teuluoedd, prosiectau cymunedol a sefydliadau yng Nghymru sydd wedi dangos angerdd eithriadol, ymrwymiad ac ysgogiad i wella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle trwy ddysgu.
Enwebwch unigolyn, teulu, prosiect cymunedol neu sefydliad y bydd eu cyflawniadau dysgu yn ysbrydoli eraill i ddechrau neu ddychwelyd i ddysgu – pobl sydd wedi gwella eu bywydau a / neu fywydau pobl eraill ac wedi cael profiad cadarnhaol neu brofiad sydd wedi newid eu bywyd trwy addysg oedolion.
Gwobrau unigol
- Mewn i Waith
- Oedolyn Ifanc
- Newid Bywyd a Chynnydd
- Iechyd a Llesiant
- Heneiddio’n Dda
- Dechrau Arni – Dechreuwyr Cymraeg
- Gorffennol Gwahanol – Rhannu Dyfodol
Gwobrau Prosiect/Sefydliad
- Prosiect Cymunedol
- Sgiliau Gwaith
- Cau’r Bwlch
Cyn i chi ddechrau ar eich enwebiad, darllenwch drwy ein dogfen canllawiau a chategorïau a sicrhau eich bod yn cyflawni’r holl feini prawf.
Ar-lein: Y ffordd rwyddaf a chyflymaf i gyflwyno eich enwebiad yw drwy lenwi a chyflwyno ffurflen enwebu ar-lein.
Drwy e-bost neu’r post: E-bostiwch eich ffurflen enwebu wedi’i llenwi ar ffurf dogfen Word at:
inspire@learningandwork.org.uk neu ei hanfon drwy’r post at: Sefydliad Dysgu a Gwaith, 3ydd Llawr, 35 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9HB.
Lawrlwythwch y dogfennau islaw:
• Dalen Canllawiau a Chategorïau
• Ysbrydoli! awgrymiadau enwebiadau
• Ffurflen enwebu Gwobrau Ysbrydoli!
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Gwener 31 Ionawr 2020
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am broses enwebu Ysbrydoli! cysylltwch â
inspire@learningandwork.org.uk