Grŵp o bobl ifanc mewn cae yn plannu coeden

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Cyhoeddwyd : 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Rydyn ni’n ymuno ag elusennau a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol o bob rhan o’r DU i hyrwyddo rhoddion mewn ewyllysiau yr Wythnos Cofio Elusen hon.

Fis medi yma, rydym yn falch o ddweud y byddwn yn ymuno â channoedd o fudiadau gwirfoddol, cynghorwyr proffesiynol a phartneriaid ar hyd a lled y DU i ddathlu’r *Wythnos Cofio Elusen.

HYRWYDDWYR ELUSENNOL

Byddwn ni, fel Hyrwyddwr Elusennol, yn codi ymwybyddiaeth o’r opsiwn i roi i elusen yn eich Ewyllys, ochr yn ochr â gofalu am anwyliaid. Gan gynnig cymhellion treth hael, mae’r ffurf hwn o roi i elusennau ar gynnydd ac yn rhoi cyllid hanfodol i wasanaethau tyngedfennol ledled y wlad – nawr ac i genedlaethau i ddod.

Yn wir, daw oddeutu £3 o bob £10 a roddir i elusen drwy roddion mewn ewyllysiau. Mae’r rhoddion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr, ac ni fyddai rhai o elusennau anwylaf y DU yn bodoli heb roddion o’r fath.

YR YMGYRCH ‘EWYLLYSGAREDD’

Diolch i weithredoedd hael pobl bob dydd, mae ymgyrch ‘Ewyllysgaredd’ y DU yn parhau i dyfu – gydag oddeutu 100 o bobl y diwrnod nawr ledled y DU yn dewis gadael rhodd i elusen yn eu hewyllys. Drwy weithio gyda’n gilydd gyda *Remember A Charity, rydym yn gobeithio ysbrydoli mwy fyth o bobl i ystyried beth maen nhw eisiau cael eu cofio amdano.

WYTHNOS COFIO ELUSEN

Mae Wythnos Cofio Elusen (9-15 Medi 2024) yn ddathliad blynyddol o bŵer ac effaith rhoi trwy gymynrodd. Trwy gydol yr wythnos, bydd partneriaid, cyfreithwyr, ysgrifenwyr ewyllysiau, elusennau a phobl eraill yn hyrwyddo’r neges i adael cymynrodd, gan annog pobl ledled y wlad i helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair drwy adael rhodd yn eu hewyllys.

Am ragor o wybodaeth, ewch i *www.rememberacharity.org.uk/week

CYMORTH CYLLID TRWY GYMYNRODD YNG NGHYMRU

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am godi arian drwy gymynrodd, gallwch hefyd edrych ar yr adnodd Codi Arian – Cymynroddion ar ein Hwb Gwybodaeth gyda rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Yma, byddwch hefyd yn dod o hyd i adnoddau a dysgu ar amrediad eang o bynciau sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/03/24 | Categorïau: Cyllid |

Mae cynllun Cymru ac Affrica nawr ar agor

Darllen mwy