Dyn a dynes yn edrych yn feddylgar ar sgrin gliniadur

Yr hyn sydd angen i chi wybod am Brexit a Chronfeydd yr UE gan CGGC

Cyhoeddwyd : 14/02/20 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Wrth i’r DU ddechrau ar y broses o adael yr UE, edrychwn ar beth fydd hyn yn ei olygu i brosiectau a ariennir gan yr UE yma yng Nghymru.

Ar ddydd Gwener, 31 Ionawr 2020, gwnaeth y DU adael yr UE. Yma yn CGGC, rydym yn rhedeg nifer o wahanol brosiectau a ariennir gan yr UE, ac mae ond yn naturiol i bobl ddechrau gofyn sut bydd y rhain yn parhau ar ôl Brexit.

Yn syml: Ni fydd Brexit yn cael unrhyw effaith ar sut mae CGGC yn cyflawni ein rhaglen gyfredol o brosiectau a ariennir gan yr UE.

Mae’r drysau yn parhau ar agor os ydych chi’n meddwl bod gennych chi brosiect a allai gael budd o gyllid Ewropeaidd.  Mae’n bosibl y gall prosiectau redeg tan 2022/23, ac felly mae amser ar gael o hyd i chi gymryd rhan.  Mae’r holl gefnogaeth yn parhau ar gael i’ch helpu chi i ddod o hyd i gyllid perthnasol a’ch arwain chi drwy’r broses ymgeisio, p’un ai yw trwom ni yn y tîm 3-SET neu’r Timau Ymgysylltu Rhanbarthol (TYRh).  Felly, os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect, cysylltwch â’r tîm 3-SET trwy e-bostio 3set@wcva.cymru er mwyn trafod sut y gallech chi gael budd o’r cyllid.

Mae beth a fydd yn digwydd ar ôl i’r cyllid orffen yn parhau yn anhysbys, ond chwiliwch yn ystod yr wythnosau i ddod am ddiweddariadau ynglŷn â’r gwaith y mae CGGC wedi bod ynghlwm ag ef, er mwyn helpu i sicrhau bod y trydydd sector yn bartner allweddol wrth gynllunio a dylunio cynlluniau buddsoddi yn y dyfodol.  Mae llwyddiant ein holl brosiectau yn rhoi achos inni ddangos pa mor hanfodol yw’r math hwn o gyllid er mwyn rhoi budd i rai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Byddem wrth ein bodd yn eich helpu chi i ddathlu eich llwyddiannau, ac felly rhannwch eich straeon gyda ni neu cysylltwch â ni ar gyfer derbyn cefnogaeth i adrodd amdanyn nhw.

Ein ffocws ar gyfer gweddill y rhaglen gyllid yw parhau i

  • Gefnogi’r holl mudiadau gwirfoddol sydd â diddordeb mewn cyflawni cyllid Ewropeaidd gael mynediad at y ffynonellau arian perthnasol
  • Cefnogi’r holl mudiadau gwirfoddol i gyflawni prosiectau CGE a CDRhE i wneud hynny mewn ffordd sy’n cydymffurfio, er mwyn helpu i sicrhau eu llwyddiant
  • Dathlu llwyddiant y mudiadau gwirfoddol drwy ddefnyddio Cyllid Ewropeaidd i ddarparu budd i’n cymunedau mwyaf difreintiedig drwy Gymru
  • Helpu’r trydydd sector i gynllunio ar gyfer olynu ac etifeddu’r rhaglenni cyllid Ewropeaidd presennol

Wrth gwrs, rydym hefyd yn sylweddoli nad yw’r ffaith ein bod wedi gadael yr UE yn golygu y bydd ein gwaith o ran Brexit a’i effeithiau ar y sector gwirfoddol yng Nghymru’n dod i ben.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut y bydd Brexit yn effeithio’r sector gwirfoddol yng Nghymru, mae Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn brosiect sy’n cysylltu sefydliadau’r trydydd sector ac arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant er mwyn ysgogi dadl a thrafodaeth ddeallus, rhannu gwybodaeth a chydlynu’r sector.

Partneriaeth yw’r prosiect rhyngom ni a Phrifysgol Caerdydd ac rydym wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau ac wedi cynhyrchu sawl cyhoeddiad er mwyn darparu gwell gwybodaeth ar gyfer y sector.  Os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth, ewch i https://www.brexitforumwales.org/home neu cysylltwch â Charles Whitmore (WhitmoreCD@cardiff.ac.uk) os gwelwch yn dda.

Byddwn yn parhau i gysylltu â’r sector yn ystod y misoedd nesaf ac yn cynnal digwyddiadau, fel y digwyddiadau rhanbarthol, ‘Pobl anabl a Brexit: Beth nesaf?’ sy’n cael eu trefnu yng Nghonwy a Chaerfyrddin.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy