Merch yn home start Caerphilly yn chwarae gyda Duplo

Yr elusen genedlaethol gyda chalon leol, yn cefnogi teuluoedd ar hyd a lled Cymru

Cyhoeddwyd : 06/05/20 | Categorïau: Cyllid |

Mae’n anochel fod y cyfyngiadau symud yn anodd i ni i gyd, ond gall y rheini â theuluoedd ifanc i’w cefnogi a all hefyd fod yn wynebu colli incwm ar ben holl bryderon eraill COVID-19 fod yn wynebu anawsterau unigryw. Fel rhai o’r rhai cyntaf i dderbyn arian gan Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, mae Home-Start Cymru yn gobeithio y gallan nhw gynnig help llaw.

Daeth Home-Start Cymru i fod pan unwyd saith Home-Start lleol llai o faint yn 2019. Maen nhw’n gweithio gyda theuluoedd a phlant ifanc drwy fodel cymorth ymweliadau cartref dan arweiniad gwirfoddolwyr, sy’n cyfuno rhwydwaith o wirfoddolwyr mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru ag arbenigedd proffesiynol.

Mae bod yn rhiant yn her ar y gorau, ac mae teuluoedd dan fwy o bwysau yn ystod yr argyfwng cyfredol gan eu bod yn fwyfwy ynysig. A dyna pryd y gall Home-Start Cymru helpu – maen nhw wedi addasu eu hymweliadau cartref i gymorth o bell, gyda gwirfoddolwyr yn cysylltu’n rheolaidd dros y ffôn/ar neges fideo i gynnig cymorth emosiynol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Daw’r gwirfoddolwyr o’r cymunedau y maen nhw’n eu cefnogi, ac mae’r gwaith yn gwneud gwahaniaeth go iawn, nid yn unig i deuluoedd, ond mae hefyd yn eu helpu i deimlo bod ganddyn nhw ddiben ac mae’n ailgysylltu cymunedau.

Meddai Bethan Webber, Prif Weithredwr Home-Start Cymru, ‘Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn cymorth drwy Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol a fydd yn ein galluogi i ehangu’r cymorth hanfodol hwn a chyrraedd mwy o deuluoedd sydd ein hangen yn druenus. Yn ogystal â chyflwyno mwy o gymorth o bell, bydd y cyllid yn ein galluogi ni i sefydlu gwasanaeth cludo i’r drws yn ddiogel, er mwyn darparu bwyd a chyflenwadau hanfodol ar gyfer teuluoedd sy’n methu symud o’u cartrefi a chael yr eitemau sylfaenol sydd eu hangen arnynt.’

Daw gwirfoddolwyr Home-Start o lawer o wahanol gefndiroedd. Bydd pob un ohonynt yn cael hyfforddiant Home-Start cyn dechrau cynorthwyo teuluoedd. Gallwch chi weld mwy o’u gwaith da yn https://www.home-start.org.uk/volunteer-stories

Os oes angen cyllid ar eich mudiad chi i ddarparu cymorth hanfodol i grwpiau fel: pobl wedi’u hynysu, yr henoed, gofalwyr, pobl sy’n cael anhawster cael bwyd ac ati fel y gallant gael cymorth yn ystod yr argyfwng hwn, ystyriwch wneud cais i Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy