Rydyn ni ar fin lansio Gwobrau Elusennau Cymru 2023. Dyma gipolwg cyflym i aelodau CGGC ar yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl o wobrau eleni.
Wedi’u trefnu gan CGGC, mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.
Rydyn ni ar fin agor y broses enwebu ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2023, felly dyma gipolwg ymlaen llaw, i aelodau yn unig, ar yr hyn sy’n digwydd yn y gwobrau eleni.
YR AMSERLEN AR GYFER 2023
Byddwn ni’n agor y broses enwebu ar gyfer y gwobrau’r wythnos nesaf, a bydd wyth wythnos gennych chi i gyflwyno eich enwebiad:
- W/C 8 Mai 2023 – Ar agor am enwebiadau
- 26 Mehefin 2023 – Dyddiad cau enwebu
- W/C 31 Gorffennaf 2023 – Cyhoeddi’r rhestr fer
- Dechrau mis Hydref (dyddiad i’w gadarnhau) – Seremoni Wobrwyo
CATEGORÏAU
Rydyn ni wedi cadarnhau wyth categori ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2023, a gallwch chi wneud un enwebiad ar gyfer pob categori (gweler y rheolau isod).
Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn)
A
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)
Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn eithriadol sy’n gwneud cyfraniad arbennig iawn at y gymuned neu’r amgylchedd drwy wirfoddoli. Gall y gwirfoddolwr hwn fod yr un sy’n arwain ac yn ysbrydoli eraill, neu sy’n ‘mynd yr ail filltir’ i ‘ddod â phopeth i fwcwl’, neu’r un y tu ôl i’r llenni sy’n dal popeth gyda’i gilydd.
Y naill ffordd neu’r llall, bydd y ffocws ar y gwahaniaeth positif sydd wedi’i gyflawni, yn hytrach nag ar am faint o amser a dreuliwyd yn gwirfoddoli. Bydd yr enwebiad buddugol yn dangos y newid y gall cyfraniad gwirfoddol unigolyn arwain ato, fel effaith gwirfoddoli ar fuddiolwyr, y gymuned neu’r amgylchedd neu’r effaith ar wirfoddolwyr eraill neu staff.
Cynhyrchydd incwm y flwyddyn
Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi addasu neu ddiweddaru eu harferion cynhyrchu incwm (gallai hyn fod yn godi arian, masnachu neu waith contract/wedi’i gomisiynu) a/neu eu prosesau mewnol ac sy’n gallu dangos eu bod wedi dod yn gynaliadwy a gwydn yn ariannol.
Bydd y mudiad buddugol yn dangos eu bod wedi meddwl yn strategol am sut maen nhw’n rheoli eu hymdrechion cynhyrchu incwm a’u cyllid er mwyn addasu a pharatoi’n well ar gyfer yr hinsawdd gymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu’r sector gwirfoddol yng Nghymru a thu hwnt.
Gwobr hyrwyddwr amrywiaeth
Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad neu grŵp sydd wedi gwneud ymdrechion eithriadol i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn eu cymuned. Rydyn ni eisiau cydnabod a dathlu’r rheini sydd wedi gweithio’n ddiflin i greu amgylchedd mwy cynhwysol a chroesawgar i holl aelodau’r gymdeithas, waeth beth yw eu hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, anabledd neu gefndir.
Rydyn ni’n annog enwebiadau sydd wedi dangos ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn eu rhaglenni, gwasanaethau, polisïau ac arferion, er mwyn dathlu cyfraniadau’r rheini sydd wedi helpu i wneud ein cymunedau’n fwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol.
Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg
Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad neu grŵp sy’n gallu dangos ymdrech arbennig i gynyddu a/neu wella darpariaeth eu gwasanaeth(au) yn Gymraeg. Bydd y rhai buddugol yn mynd ati’n effeithiol i ddangos sut maen nhw wedi ystyried anghenion eu defnyddwyr gwasanaethau ac wedi defnyddio dull arloesol i oresgyn rhai o’r heriau y maen nhw wedi’u hwynebu wrth gynnig gwasanaeth yn y Gymraeg. Byddant hefyd yn egluro sut mae profiad y defnyddiwr gwasanaeth wedi gwella drwy ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.
Gwobr arloeswr
Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi rhoi cynnig ar ddull newydd neu wedi gwneud rhywbeth blaengar neu arloesol i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.
Rydyn ni’n chwilio am fudiadau sy’n arwain y ffordd yn eu maes ac yn rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o wella eu gwasanaethau a helpu eu cymunedau. Gallai hyn gynnwys defnyddio technolegau newydd, diogelu’r mudiad ar gyfer y dyfodol, neu fynd i’r afael â materion mawr fel y newid yn yr hinsawdd. Waeth beth yw’r dull gweithredu arloesol, dylai ddangos effaith gadarnhaol ar bobl eraill, a dangos bod y mudiad wedi newid y ffordd y mae’n gweithredu.
Gwobr iechyd a lles
Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i grŵp neu fudiad sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned drwy wella lles meddyliol a/neu iechyd a lles corfforol. Bydd y cais buddugol yn dangos y newid cadarnhaol yn llesiant eu cymuned neu gymdeithas ehangach o ganlyniad i’w camau gweithredu. Bydd hefyd yn amlygu eu dull arloesol o wella iechyd a lles.
Gwobr Mudiad y flwyddyn
Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad eithriadol sydd wedi cyflawni llawer iawn yn y flwyddyn ddiwethaf ac y mae eraill yn y sector yn ei barchu a’i edmygu. Bydd y cais buddugol yn fudiad gwydn ac yn dangos safonau uchel o lywodraethu. Bydd mudiad y flwyddyn hefyd yn gallu dangos sut y mae wedi cyflawni ei amcanion drwy arloesi a thynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar ei ddefnyddwyr gwasanaeth, gan newid bywydau er gwell.
ENILLWYR A’R SEREMONI
Byddwn ni’n cysylltu â’r holl enwebeion ar ddechrau mis Awst i roi gwybod iddynt a ydyn nhw wedi cyrraedd y rhestr fer. Bydd y mudiadau ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd wedyn i seremoni ddisglair a hudolus lle byddwn ni’n cyhoeddi’r enillwyr! Dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau.
CAEL Y DIWEDDARAF
Os ydych chi eisiau cael y newyddion diweddaraf am y dyfarniadau a chyhoeddiadau eraill gan CGGC, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr wythnosol. Gall aelodau CGGC hefyd elwa ar ein Crynhoad Polisi arbennig i aelodau yn unig, a’r cylchlythyr chwarterol i aelodau, ‘Y Gwahaniaeth’ – gall aelodau danysgrifio i’r rhain yma.
I gael rhagor o wybodaeth am fanteisio i’r eithaf ar eich aelodaeth, darllenwch ein canllaw defnyddiol.
GWOBRAU ELUSENNAU CYMRU – Y RHEOLAU
- Rhaid derbyn enwebiadau erbyn 5 pm ar 26 Mehefin 2023.
- Dim ond un enwebiad y gellir ei wneud ar yr un ffurflen gais.
- Dim ond un enwebai neu grŵp y gallwch ei enwebu ym mhob categori.
- Rhaid i fudiadau a grwpiau a enwebir fod yng Nghymru neu’n gweithio yng Nghymru.
- Rhaid i wirfoddolwyr a enwebir naill ai fod yn byw yng Nghymru neu’n gwirfoddoli yng Nghymru.
- Croesawn enwebiadau ar gyfer unigolion a grwpiau sy’n gwirfoddoli dramor i fudiad rhyngwladol sydd wedi’i leoli yng Nghymru.
- Rhaid cael caniatâd Prif Weithredwr/Cyfarwyddwr neu Gadeirydd y mudiad a enwebir cyn cyflwyno’r enwebiad.
- Rhaid cael caniatâd y gwirfoddolwr neu’r grŵp o wirfoddolwyr cyn anfon yr enwebiad.
- Rhaid i bob ateb ymwneud â gweithgarwch diweddar (y ddwy flynedd diwethaf).
- Penderfyniad y beirniaid ynglŷn ag enwebiadau yw’r gair olaf. Mae’r beirniaid yn cadw’r hawl i beidio â rhoi gwobr mewn categori os ydynt yn teimlo nad yw’r enwebiadau yn addas.
- Penderfyniad CGGC yw natur y gwobrau a gyflwynir. Ni fydd gwobrau amgen yn cael eu hystyried.
- Gall manylion a ddarperir ar y ffurflen enwebu gael eu hanfon at bartner-fudiadau a’r cyfryngau at ddibenion cyhoeddusrwydd. Os nad ydych chi’n fodlon i unrhyw wybodaeth gael ei rhannu yn y ffordd hon neu os nad ydych chi eisiau i fudiadau’r cyfryngau gysylltu â’r mudiad a enwebir neu’r enwebydd, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.