Yn cyflwyno Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector

Yn cyflwyno Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector

Cyhoeddwyd : 08/11/21 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi rhaglen datblygu a chefnogi sgiliau digidol i ddod ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector.

Prosiect newydd yw Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector a gydlynir gan CGGC, Canolfan Cydweithredol Cymru a ProMo-Cymru, ac a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â’r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosibl.

Wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru, a’i chefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, cam cyntaf Newid yw prosiect peilot sy’n rhedeg tan Haf 2022.

YR ADRODDIAD DARGANFOD

Ar ddechrau 2021, comisiynwyd ProMo-Cymru a Dotiau gan CGGC a Chanolfan Cydweithredol Cymru (WCC) i ymchwilio i’r cymorth sydd ei angen ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru o ran digidol ac i ddiffinio’r cymorth hwn.

Cyllidwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac yn hwn, ystyriwyd sut gellir cynorthwyo mudiadau i ymateb i’r cyflymiad mewn gweithio a darparu gwasanaethau yn ddigidol sydd wedi digwydd yn sgil pandemig COVID-19.

Rhannwyd prif ganfyddiadau’r adroddiad mewn digwyddiad lansio ar 1 Tachwedd 2021.

NEWID: DIGIDOL AR GYFER Y TRYDYDD SECTOR

Bydd yr adroddiad darganfod a’i brif ganfyddiadau yn llywio datblygiad Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector. Gwnaeth y symud drastig i weithio’n ddigidol yn ystod y pandemig gyflymu’r angen am raglen cymorth sgiliau digidol mwy cydlynol a gwell ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Fe amlygodd yr angen am gymorth digidol yn y sector, ond fe wnaeth hefyd ddangos potensial a buddion trawsnewid digidol.

Bydd Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector, yn adeiladu ar fomentwm y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig, ac yn sicrhau bod y sector gwirfoddol yn cael ei gynorthwyo i ddarparu a datblygu ei wasanaethau mewn tirwedd ddigidol sy’n newid yn gyflym.

Trwy weithio gyda’n gilydd, ein nod yw:

  • Rhoi cymorth uniongyrchol i ddatblygu sgiliau digidol ar gyfer anghenion a nodwyd eisoes yn y sector, fel seiberddiogelwch a gwydnwch.
  • Gweithio gyda’r sector gwirfoddol, y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ac arbenigwyr yn y diwydiant i ddiffinio beth yw gwasanaethau digidol da a rhoi’r cymorth sydd ei angen i’w cyflawni. Bydd y gwaith hwn yn seiliedig ar Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru sydd eisoes wedi’u sefydlu
  • Darparu etifeddiaeth o gymorth sgiliau digidol y gellir ei ddefnyddio yn y dyfodol ac a fydd yn parhau i gael ei ledaenu drwy gydol y sector.
  • Dechrau ar y gwaith o ymwreiddio diwylliant digidol o ddidwylledd, rhannu ac ailddefnyddio dulliau digidol ledled Cymru.
  • Gweithio gyda’n gilydd i wella safon y cymorth digidol sydd ar gael i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

RHAGOR O WYBODAETH

Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth wrth i’r rhaglen ddatblygu’n gyflym. Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael gwybod mwy, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Arloesedd Digidol, yn hbacon@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy