Gŵr ifanc o Cynon Valley Organic Adventures yn gwenu wrth iddo gerdded i lawr y llwybr gyda chydweithwyr, rhaw yn ei law

Ymunwch â’r sgwrs ‘Natur a Ni’

Cyhoeddwyd : 18/02/22 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae mudiadau gwirfoddol mewn sefyllfa unigryw i helpu pobl ar hyd a lled Cymru i ddweud eu dweud ar ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru.

Mae Natur a Ni, a fydd yn cael ei lansio ar yr 17 Chwefror 2022, yn brosiect blwyddyn o hyd i gynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol.

Y nod yw datblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y flwyddyn 2050, drwy annog pobl o bob oed i rannu eu barn ar eu perthynas â’r amgylchedd naturiol ac i ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud rhwng nawr a 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad.

Mae’r chwaraewr rygbi a drodd yn anturiaethwr, Richard Parks, sydd hefyd yn llysgennad i Natur a Ni yn annog eraill i ddweud eu dweud. Dywedodd;

‘Mae Natur a Ni yn ymgyrch i gynnwys pawb yng Nghymru mewn trafodaeth agored ac onest ynghylch dyfodol ein hamgylchedd naturiol.

‘Rwy’n benderfynol o ddweud fy nweud a byddwn yn annog pob dinesydd yng Nghymru i ddefnyddio’i lais’.

SUT I GYMRYD RHAN

Rydyn ni’n gwybod fod mudiadau gwirfoddol yn hanfodol i ddod â chymunedau ynghyd a chefnogi amrywiaeth enfawr o randdeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau. Golyga hyn fod mudiadau gwirfoddol mewn sefyllfa wych i gyrraedd grwpiau ac unigolion a’u hannog i rannu’r hyn y mae natur yn ei olygu iddyn nhw a pha gamau dylid eu cymryd, yn eu tyb nhw, i ddiogelu ein hadnoddau naturiol.

Rydyn ni’n gofyn i fudiadau gwirfoddol annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgyrch drwy gynnal sgyrsiau i gael pobl i feddwl.

Byddwn ni hefyd yn cynnal sesiwn gyda Natur a Ni ar 23 Mawrth i roi ychydig o arweiniad ar sut i gynnal y sgyrsiau hyn, a’r gwahanol ffyrdd creadigol y gall pobl roi eu mewnbwn i’r ymgyrch. Cliciwch yma i gofrestru.

YNGLŶN Â NATUR A NI

Bydd Natur a Ni yn adeiladu ar wersi o COP26 ac yn edrych ar sut mae angen i berthynas cymdeithas â byd natur newid a pha newidiadau y mae angen i ni eu gwneud er mwyn addasu dros y 30 mlynedd nesaf.

Mae’r sgwrs genedlaethol hon yn ymdrech gydweithredol, sy’n cynnwys llawer o wahanol bobl a mudiadau, o blant ifanc i gwmnïau mawr. Gall pawb ddweud eu dweud. Mae’n broses gynhwysol sy’n gofyn i bobl rannu eu barn drwy gwblhau arolygon, ymuno â gweminarau rhyngweithiol, mynychu gweithdai, a chymryd rhan mewn grwpiau ffocws.

Byddem wrth ein bodd pe bai cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan. Mae’r fenter yn dechrau gyda ‘sgwrs genedlaethol’ dros ddeng wythnos. Wedi’i hwyluso gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae’n edrych ar y newidiadau sy’n digwydd i’r amgylchedd a’r rôl y gall unigolion, busnesau a mudiadau ei chwarae i gael pethau’n ôl ar y trywydd iawn.

CAMAU GWEITHREDU A PHRIF FEYSYDD AR GYFER NEWID

Mae Natur a Ni yn edrych ar ba gamau sydd eu hangen nawr, fel gwlad ac fel unigolion, os ydyn ni’n mynd i ofalu am yr amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd Natur a Ni yn edrych ar y meysydd allweddol ar gyfer newid, gan gynnwys y ffordd y mae ein systemau ynni, trafnidiaeth a bwyd yn gweithredu heddiw ac a ellid eu haddasu i gyflawni’n well ar gyfer byd natur yn y dyfodol.

Caiff busnesau a mudiadau’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus hefyd eu hannog i gymryd rhan. Gallant roi gwybod i’w staff, eu haelodau a’u cwsmeriaid eu hunain am yr ymgyrch, neu hyd yn oed drefnu eu digwyddiadau Natur a Ni eu hunain.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

‘Mae mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn – rhaid i ni warchod ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.’

‘Mae sgyrsiau fel hyn sy’n cael eu cynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru mor bwysig oherwydd mae angen dull gweithredu ‘Tîm Cymru’ os ydym am gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i adfer byd natur.’

‘Byddwn yn annog pawb i gymryd yr amser i ddarganfod mwy am yr ymgyrch Natur a Ni ac i wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed.’

CAEL RHAGOR O WYBODAETH

Mae’n hawdd iawn cymryd rhan yn Natur a Ni a bydd y rhan fwyaf o’r adnoddau ar gael ar-lein. Gall pobl ddarllen gwybodaeth am yr argyfyngau hinsawdd a natur, dweud eu dweud drwy gwblhau arolwg, neu gofrestru ar gyfer digwyddiadau ar-lein.

Mae yna hefyd offer i gefnogi grwpiau cymunedol a grwpiau ysgol i gynnal eu sgyrsiau eu hunain, a rhannu eu canlyniadau mewn ffyrdd mwy creadigol, fel creu barddoniaeth, gwaith celf neu ffilmiau byr.

Mae Natur a Ni yn croesawu pawb yng Nghymru sydd am ymuno. Gall pobl gymryd rhan eu hunain neu gael rhywun i’w helpu.

Ewch i www.naturani.cymru i gymryd rhan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/08/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl am 2024!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/06/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Edrychwch ar hyfforddiant diogelu gydag CGGC

Darllen mwy