Nod Yr Help Llaw Mawr yw cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli drwy annog pobl i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli ar ŵyl banc 8 Mai.
Mae’r Help Llaw Mawr (gwefan Saesneg yn unig) yn gyfle cenedlaethol i gael mwy o bobl i ymhél â gwirfoddoli drwy annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli rhagarweiniol ar ŵyl y banc 8 Mai. Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan nifer o elusennau’r DU, gan gynnwys yr NSPCC, y Groes Goch Brydeinig, y Sgowtiaid ac Ambiwlans Sant Ioan, ymhlith llawer o rai eraill.
Nod y diwrnod yw annog mwy o bobl i roi cynnig ar wirfoddoli drwy estyn help llaw yn eu hardal leol, a cheisio eu hysgogi i fynd ati i wirfoddoli yn yr hirdymor.
RHANNU CYFLEOEDD
Bydd gwefan Yr Help Llaw Mawr (Saesneg yn unig) yn hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli ledled y DU ar eu gwefan o 20 Mawrth ymlaen a bydd pobl sy’n chwilio am weithgareddau i gymryd rhan ynddynt yng Nghymru yn cael eu cyfeirio at blatfform Gwirfoddoli Cymru. Bydd y cynnydd hwn mewn traffig yn helpu i ennyn diddordeb mewn cyfleoedd gwirfoddoli cyfredol Cymru, ynghyd â’r rheini sy’n ymwneud yn benodol â’r Help Llaw Mawr.
Dylai cyfleoedd Yr Help Llaw Mawr fod yn dasgau y gall pobl eu cwblhau mewn ychydig o oriau dim ond i roi blas iddyn nhw o’r hyn y gallant eu gwneud i helpu yn eu cymunedau’n rheolaidd. Gallai hyn fod yn casglu sbwriel, casglu a chludo parseli bwyd, adfer eitemau/cyfarpar, creu gwaith celf cymunedol, plannu coed – a llawer o bethau eraill.Os gall eich mudiad neu grŵp cymunedol restru sesiynau blasu gwirfoddoli newydd dros benwythnos gŵyl y banc (6-8 Mai), lanlwythwch y cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru lle gallwch chi ychwanegu tag ar gyfer cyfleoedd ‘Yr Help Llaw Mawr’. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i lanlwytho’r cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru, cysylltwch â ni.
SUT I GYMRYD RHAN
Gydag Wythnos Genedlaethol y Gwirfoddolwyr (Saesneg yn unig) yn agosáu (1-7 Mehefin 2023), gyda’r thema ‘dathlu ac ysbrydoli’ am 2023, bydd diwrnod Yr Help Llaw Mawr hefyd yn gyfle i amlygu’r amrywiaeth o wirfoddoli yng Nghymru a rhannu buddion personol a chymunedol gwirfoddoli.
Byddem, felly, yn eich annog i feddwl hefyd am yr unigolion, y prosiectau a’r buddiolwyr yr hoffech chi roi sylw iddynt fel rhan o’r rheini sy’n estyn ‘help llaw’ yng Nghymru. Gallech chi adrodd stori, neu annog y gwirfoddolwyr neu fuddiolwyr i rannu eu straeon eu hunain – gyda’n gilydd, gallem ni dynnu llawer o sylw at sut mae estyn ‘help llaw’ yng Nghymru yn newid bywydau.
ANNOG POBL I GYMRYD RHAN
Os hoffech chi gymryd rhan drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau am wirfoddoli yng Nghymru, gallwch chi ddod o hyd i lwyth o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol am wirfoddoli ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) a byddem hefyd yn eich annog i hyrwyddo gwefan genedlaethol Gwirfoddoli Cymru, cartref cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru.