Rydyn ni’n cynnig ystod o fuddion sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich lles, cydnabod eich cyfraniad a rhoi hyblygrwydd i chi yn y ffordd rydych chi’n gweithio ac yn byw eich bywyd:
Gweithio’n hyblyg yn beth arferol
Rydyn ni’n gweithredu cynllun fflecsi ac yn cefnogi gweithio hybrid, fel y gallwch weithio mewn ffordd sy’n addas i chi.
Amser i chi’ch hun
25 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod ychwanegol yn ôl disgresiwn.
Edrych ymlaen
Rydyn ni’n cyfrannu 9% at eich pensiwn i gefnogi eich dyfodol.
Cyflog teg
Rydyn ni’n gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol ac yn sicrhau bod y cyflog yn adlewyrchu’r costau byw.
Cymorth iechyd a lles
Mae ein Cynllun Arian Iechyd yn helpu i dalu costau gofal iechyd bob dydd, ochr yn ochr â chymorth lles ehangach. Fel budd-dal anariannol, mae swm bach o dreth yn gymwys yn unol â rheolau CThEF.
Cymorth pan fydd ei angen arnoch
Mynediad i’n Rhaglen Cymorth i Gyflogeion i gael cyngor a chymorth cyfrinachol.
Rhoi yn ôl
Mae ein cynllun gwirfoddoli i gyflogeion yn rhoi amser i chi gefnogi’r achosion sy’n bwysig i chi.
O 7 Medi 2026, byddwn yn treialu wythnos waith pedwar diwrnod am gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, ein patrwm gwaith fydd dydd Llun i ddydd Iau. Bydd rhagor o fanylion am y treial yn cael eu darparu yn ystod y broses recriwtio, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ni drwy people@wcva.cymru.