Grŵp amrywiol o gydweithwyr gan gynnwys tri dyn ac un fenyw yn edrych ar liniadur ac yn gwenu

Ymunwch â’n tîm yn CGGC

Cyhoeddwyd : 27/08/25 | Categorïau: Newyddion |

Rydym yn recriwtio ar gyfer dwy rôl newydd, sef Swyddog Mewnwelediadau Data a Rheolwr Ymgysylltu Digidol TSSW.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Yn CGGC rydym yn cynnig ystod eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.

Fel cyflogwr, gall CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) gynnig nifer o fuddion fel gweithio hybrid a hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Darganfyddwch fwy am weithio i CGGC.

SWYDDOG MEWNWELEDIADAU DATA

Oriau: 35 awr yr wythnos, hyblyg

Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydym yn fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Caerdydd, ac mae gennym staff hybrid yn gweithio ledled Cymru, gan gynnwys nifer wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd.

Cyflog: £33,286 yn cynyddu i £37,464 y flwyddyn ar ôl cwblhau chwe mis o gyfnod prawf yn llwyddiannus.

Ynglŷn â’r rôl: Bydd y Swyddog Mewnwelediadau Data yn helpu CGGC i wella’r ffordd rydym yn casglu ac yn defnyddio data, gan ganolbwyntio i ddechrau ar Faromedr newydd Sector Gwirfoddol Cymru – adnodd arloesol i gael gafael ar dystiolaeth ddibynadwy am y sector yng Nghymru. Bydd y rôl hon hefyd yn gwella’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn cwestiynu’r data o’n platfformau presennol, ynghyd â ffynonellau allanol, trwy gynhyrchu mewnwelediadau i gefnogi ein gwaith ar ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a chyflawni cymorth effeithiol i’r sector.

Dyddiad cau: 9 Medi 2025

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn ar Recruit3

RHEOLWR YMGYSYLLTU DIGIDOL TSSW

Oriau: 35 awr yr wythnos, hyblyg

Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydym yn fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth a Caerdydd, ac mae gennym staff hybrid yn gweithio ledled Cymru, gan gynnwys nifer wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd.

Cyflog: £39,337 yn cynyddu i £44,274 y flwyddyn ar ôl cwblhau chwe mis o gyfnod prawf yn llwyddiannus.

Ynglŷn â’r rôl: Mae hwn yn gyfle allweddol i lunio ansawdd, hygyrchedd a gwelededd platfformau digidol TSSW. Byddwch yn arwain y gwaith o gyd-gynhyrchu strategaeth ar gyfer y cynnwys, prosesau golygyddol, ymgysylltu â defnyddwyr, gwelliannau i systemau a gweithgareddau marchnata, gan sicrhau bod ein platfformau yn effeithiol, yn gynhwysol ac yn canolbwyntio ar y defnyddwyr.

Dyddiad cau: 10 Medi 2025

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn ar Recruit3

SUT I YMGEISIO

I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hysbysiad preifatrwydd

Ffurflen gais

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/11/25
Categorïau: Newyddion

Dydd Mawrth Rhoi, diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Newyddion

Diweddariad o’r Cod Llywodraethu i Elusennau

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/11/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

‘Mae lefel yr effaith yn enfawr’

Darllen mwy