Ar ôl ymgysylltu â phobl ledled Cymru, rydyn ni wedi lansio rhwydwaith newydd i roi cyfle i ymddiriedolwyr gwrdd â chymheiriaid, cael yr wybodaeth ddiweddaraf a chael disgownt ar hyfforddiant.
Mae CGGC yn bodoli i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd. Ymddiriedolwyr, wrth gwrs, yw calon ac enaid mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Gwirfoddolwyr yw’r rhain sydd wedi cael y dasg gyfreithiol o ofalu am elusen; rhaid iddynt sicrhau ei bod yn ymddwyn er pennaf fudd ei buddiolwyr yn unig, yn buddsoddi’n gyfrifol ac yn cydymffurfio â’r gyfraith elusennau a gofynion rheoleiddio.
Gwnaethom ni sylwi bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n aml gyda Phrif Swyddog Gweithredol mudiad, ond nid yw hyfforddiant a chanllawiau o reidrwydd yn cael eu hyrwyddo ymhlith y bobl â’r cyfrifoldeb mwyaf, sef ymddiriedolwyr.
YMHÉL AG YMDDIRIEDOLWYR
Gwnaethom benderfynu mynd ati mewn modd cydgynhyrchiol a gweithio gydag ymddiriedolwyr i gael eu barn ar a fyddai rhwydwaith ymddiriedolwyr yn ddefnyddiol a sut gellid ei ddatblygu.
Gwnaethom ni weithio gyda 50 o ymddiriedolwyr o bob cwr o Gymru, gan ddefnyddio dulliau cyfranogol i ddeall y rhwystrau a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.
Roedd yr holl bobl y gwnaethom ni siarad â nhw yn frwdfrydig ynghylch rhwydwaith ymddiriedolwyr. Gwnaethant awgrymu y dylai’r rhwydwaith gynnwys:
- Gweminarau
- Hyfforddiant
- Bwletin newyddion ymddiriedolwyr
- Cyfleoedd am gymorth gan gymheiriaid
- Cyfarfodydd ymddiriedolwyr wyneb yn wyneb
- Sesiynau trafod ar-lein
- Mynediad at adnoddau
DYWEDOCH CHI, GWNAETHOM NI
Yn dilyn ein sesiwn ymgysylltu, rydyn ni wedi cadw at y llwybr a chreu Rhwydwaith Ymddiriedolwyr a fydd yn cynnwys yr holl bethau uchod i’r rheini a fydd yn ymuno.
Nod y rhwydwaith yw cysylltu ymddiriedolwyr a’u galluogi i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf a bod yn hyderus yn eu rôl.
Gellir ymuno â’r Rhwydwaith Ymddiriedolwyr yn rhad ac am ddim.
SUT YDYCH CHI’N YMUNO?
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ddiddordeb mewn dod yn aelod o Rwydwaith Ymddiriedolwyr CGGC, cysylltwch ag Eleanor Jones, Rheolwr Llywodraethu:
02920 436597
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi.