Ydych chi’n dyheu am y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl? Os ydych, byddem yn dwli clywed gennych chi.
Mae gennym ni gyfle cyffrous i unigolyn â chefndir mewn rheoli ariannol i ymuno â’n Pwyllgor Cyllid a Risg.
Trwy ymuno â’r pwyllgor, byddwch chi’n dysgu sgiliau newydd, yn adeiladu ar y profiad a’r wybodaeth sydd gennych chi eisoes, yn datblygu eich rhwydwaith ac yn ganolog i gefnogi gwaith gwych y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae hon yn rôl wirfoddol heb dâl, ond fe wnawn ni dalu costau teithio yn ôl yr angen.
YNGLŶN AG CGGC
Mae’r Cymry wastad wedi dod at ei gilydd yn wirfoddol, nid am arian neu am fod y gyfraith yn dweud wrthynt am wneud, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth.
Ond pan wnaeth y Dirwasgiad a thlodi daro Cymru yn galed yn y 1930au, sylweddolodd pobl nad oedd eu mudiadau yn barod i ateb yr heriau o’u hamgylch. Er mwyn gwneud mwy o wahaniaeth, roedd angen iddynt ddod ynghyd, trefnu ac edrych ymlaen er mwyn paratoi ar gyfer y dyfodol.
Dyna pam y ffurfiwyd CGGC. A dyma pam ein bod ni’n bodoli heddiw. CGGC yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Trwy ein nerth cyfunol, a’n huchelgais gyffredin i wella bywydau pobl, rydyn ni’n galluogi mudiadau yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.
YNGLŶN Â’R RÔL
Mae’r Pwyllgor yn chwarae rhan hanfodol mewn cynorthwyo Bwrdd CGGC i lywodraethu arian a risg CGGC yn effeithiol. Fel aelod o’r pwyllgor, byddwch chi a’ch cyd-aelodau ar y pwyllgor yn rhoi mewnwelediad ac arweiniad ar ein hiechyd ariannol a’n hymdrechion i reoli risg. Bydd hyn yn cynnwys adolygu cyllidebau, adroddiadau ariannol a’r gofrestr risg ac yna gwneud argymhellion i Fwrdd CGGC er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac atebolrwydd a chaniatáu i risgiau posibl gael eu lleihau’n effeithiol, mae’r holl wybodaeth am y rôl i’w chael yn y disgrifiad rôl.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y rôl a’r cyfrifoldebau yng nghylch gorchwyl y pwyllgorau.
CYFNOD CYNEFINO, HYFFORDDIANT A DATBLYGIAD
I’ch cefnogi yn y rôl, byddwn yn rhoi sesiwn gynefino i chi cyn i chi fynd i’ch cyfarfod pwyllgor cyntaf.
Fel rhan o’ch cyfnod cynefino, byddwn yn trefnu i chi:
- Gwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor a’r Prif Weithredwr. Bydd y cyfarfodydd hyn hefyd yn rhoi sylw i drefniadau llywodraethu CGGC.
- Mynd i unrhyw hyfforddiant gofynnol a nodir.
MEINI PRAWF AC YMRWYMIADAU
Cyfnod y rôl: Bydd pob cyfnod rôl yn dair blynedd, a gellir gwneud y rôl am dri chyfnod ar y mwyaf (naw mlynedd).
Ymrwymiad amser: Pedwar cyfarfod y flwyddyn (dwy awr i bob cyfarfod) ac amser paratoi a darllen. Mae’r cyfarfodydd yn hybrid (wedi’u cynnal o bell drwy Microsoft Teams ac wyneb yn wyneb ym mhrif swyddfa CGGC yng nghanol Caerdydd).
Cymraeg: Dymunol.
AM RAGOR O WYBODAETH AC I WNEUD CAIS
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi gwaith CGGC a bod gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni!
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol gyda Chadeirydd y Pwyllgor, Colin Arnold, cysylltwch â Tracey Lewis, Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol, tlewis@wcva.cymru, i drefnu galwad.
I fynegi diddordeb yn y rôl, cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu’r sgiliau a’r profiad y byddech chi’n eu cynnig i’r pwyllgor i Tracey Lewis, tlewis@wcva.cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Hydref 2025.