Mae’r ceisiadau llysgennad ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc ysbrydoledig ar agor ar gyfer 2024.
GRYMUSO YSGOGWYR NEWID IFANC
Yn CGGC, rydyn ni’n credu ym mhŵer pobl ifanc i greu newid positif drwy wirfoddoli, a dyma pam rydyn ni’n gyffrous i rannu manylion rhaglen Llysgennad #byddaf gyda chi. Mae’n fenter ddynamig sy’n dathlu ac yn cryfhau lleisiau ysgogwyr newid ifanc ledled y DU er mwyn ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol.
BETH YW RHAGLEN LLYSGENNAD #BYDDAF?
Mae rhaglen Llysgennad #byddaf yn dwyn ynghyd unigolion rhwng deg a 25 oed sy’n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth. Mae’r bobl ifanc hyn yn cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol, boed hynny drwy wirfoddoli, codi arian, mentora neu ymgyrchu. Fel Llysgenhadon #byddaf, byddant yn ysbrydoli eu cymheiriaid, yn cychwyn sgyrsiau ac yn gyrru prosiectau, gan ddatblygu eu sgiliau eu hunain ar yr un pryd. *Edrychwch ar y proffil rôl yma!
PAM BOD YN LLYSGENNAD #BYDDAF?
Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn a’ch bod chi’n frwd am gynorthwyo pobl ifanc eraill i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned, yna dyma’r rhaglen i chi. Os gallwch chi gyfathrebu â phobl eraill a gweld y gwerth o ddod â phobl ynghyd, wrth fyfyrio ar sut mae pethau’n mynd, yna chi yw’r union un y mae rhaglen Llysgennad #byddaf yn chwilio amdano.
Byddwch chi’n cael y cyfle i rannu syniadau a phrofiadau, gan annog pobl eraill i gymryd rhan yn ymgyrch #byddaf a chefnogi’r Siarter Pŵer Ieuenctid, sy’n dangos eu hymrwymiad i bobl ifanc. Ynghyd â hyn, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau fel arweinyddiaeth, siarad cyhoeddus, yn cael mynediad at hyfforddiant a gweithdai, wyneb yn wyneb ac ar-lein, a mwy.
SUT I WNEUD CAIS
Caiff 50 o bobl ifanc eithriadol eu dewis bob blwyddyn i ddod yn Llysgenhadon #byddaf (rhwng deg a 24 oed wrth ymgeisio). Byddant yn cael eu dewis o gefndiroedd amrywiol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn rhannu nod cyffredin – i gael effaith bositif ar newid cymdeithasol.
Mae proses ymgeisio 2024 ar agor nawr i’r rheini sy’n awyddus i fod yn Llysgenhadon #byddaf, a gallwch wneud cais drwy *wefan ymgyrch #byddaf. Bachwch ar y cyfle hwn i fod yn ysgogwr newid, y dyddiad cau am geisiadau yw dydd Sul 14 Ebrill 2024.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, a hoffech chi gael help, rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, *cysylltwch â thîm #byddaf.
* Saesneg yn unig