Mae cyrsiau Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn cynnig cyfleoedd datblygu i arweinwyr yn y sector gwirfoddol, waeth ble ydych chi ar eich taith arweinyddiaeth.
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi’i chreu i gynorthwyo arweinwyr i wneud gwahaniaeth positif yn eu cymunedau. Caiff y rhaglen hon, a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol y Loteri Genedlaethol, ei chyflwyno gan Cwmpas mewn partneriaeth â Clore Social Leadership* ac CGGC. Mae wedi’i dylunio i ehangu’r sgiliau arwain sydd gennych chi eisoes er mwyn eich grymuso i fod yn fwy hyderus a gwydn.
Dyma beth sydd i ddod gan raglen Arweinwyr Cymdeithasol Cymru.
CYSYLLTU A CHYDWEITHIO: ARWEINYDDIAETH O DAN BWYSAU
Thema’r digwyddiadau rhanbarthol hyn yw Arweinyddiaeth o dan Bwysau a sut i gynnal y gwaith pwysig o wneud newid cymdeithasol, pan mae arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu pwysau o bob ochr. Bydd y rhain yn cynnwys canlyniad yr etholiadau diweddar a’r ansicrwydd o ran ffrydiau incwm wrth i ni droedio i gyfnod newydd o lywodraeth ar gyfer Cymru.
Mae’r digwyddiadau yn agored i arweinwyr o’r sectorau gwirfoddol a chymunedol, mentrau cymdeithasol a’r sectorau cyhoeddus a phreifat sydd eisiau meithrin cysylltiadau a chydweithio ar draws sectorau.
Waeth a ydych chi’n newydd i arweinyddiaeth neu’n arweinydd profiadol, mae’r digwyddiad hwn i chi.
Beth i’w ddisgwyl
- Ysbrydoliaeth: Dysgwch sut gall hybu ymagwedd gytbwys at waith gael effaith bositif ar ddiwylliant y gweithle
- Mewnwelediad: Dysgwch gan arweinwyr diben cymdeithasol profiadol am bwysigrwydd chwilio’r amser a’r gofod i gefnogi eich llesiant eich hun er mwyn helpu i gynnal gwaith pwysig eich mudiad
- Dulliau ymarferol: Edrychwch ar ffyrdd o gefnogi llesiant eich hun a llesiant eich tîm.
- Cysylltiad cymunedol: Ymgysylltwch ag arweinwyr o wahanol sectorau ac ehangu eich rhwydwaith.
- Cydweithio: Rhannwch gyfleoedd a sgiliau gyda’ch cymheiriaid.
Dilynwch y dolenni isod am ragor o fanylion
Dydd Iau 14 Mai 2026: 10am – 12.30pm, Abertawe
Dydd Gwener 15 Mai 2026: 10am – 12.30pm, Casnewydd
Dydd Gwener 22 Mai 2026: 10am – 12.30pm, Wrecsam
Dyma’r digwyddiadau sydd eisoes wedi’u cynnal yn rhaglen Arweinwyr Cymdeithasol Cymru
DADBACIO ARWEINYDDIAETH
Cynhaliodd Arweinwyr Cymdeithasol Cymru sesiwn i danio’r meddwl a myfyrio ar Arweinyddiaeth a dadbacio beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol i arweinwyr sy’n gweithio yn y sector cymdeithasol yng Nghymru heddiw.
Gwnaeth y siaradwr gwadd, Owain Smolović Jones, athro astudiaethau mudiadau ym Mhrifysgol Durham, ddadbacio model arweinyddiaeth y ‘5Ps’: person (Person), cynnyrch (Product), proses (Process), sefyllfa (Position) a diben (Purpose) gydag enghreifftiau go iawn a chymhwysiad ymarferol.
Pryd: Dydd Mawrth 28 Ebrill 2026, 12.30 – 2pm
Ble: Ar-lein
RHAGOR O WYBODAETH
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Siobhan Hayward, socialleaderscymru@cwmpas.coop.
*Saesneg yn unig