Tîm Amrywiol o bobl yn cydweithio mewn swyddfa

Ymunwch â thîm cymorth CGGC

Cyhoeddwyd : 05/02/26 | Categorïau: Newyddion |

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, rhagweithiol ac sy’n canolbwyntio ar bobl i ymuno â’n tîm cymorth fel Swyddog Cymorth y Tîm Datblygu.

 YNGLŶN Â’R RÔL

Os ydych chi’n mwynhau helpu eraill, yn rhoi sylw i fanylion, ac eisiau cefnogi gwaith sy’n cryfhau mudiadau gwirfoddol ledled Cymru, gallai hon fod y rôl ddelfrydol i chi. Byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer ymholiadau gan ystod eang o randdeiliaid, gan sicrhau bod ymholiadau’n cael eu cofnodi, eu hateb neu eu cyfeirio’n briodol. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno cyfarfodydd, digwyddiadau, sesiynau hyfforddi a gweminarau, gan helpu cydweithwyr i gynllunio, trefnu a chyflwyno gweithgareddau o ansawdd uchel.

Fel ein Swyddog Cymorth Tîm Datblygu, byddwch chi y math o berson sy’n ymfalchïo mewn cywirdeb, yn cyfathrebu’n glir, ac yn ffynnu mewn amgylchedd prysur lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.

Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cynnal data cywir ar ein system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, cefnogi cyfathrebu a chyhoeddi cynnwys, a chynorthwyo gyda rhedeg ein llwyfannau digidol TSSW yn esmwyth, gan gynnwys Gwirfoddoli Cymru, Cyllido Cymru a’r Hwb Gwybodaeth.

SWYDDOG CYMORTH TÎM DATBLYGU

Categori Cymraeg: Hanfodol

Lefel cymhwysedd iaith:  Sylfaen

Llawn amser, 35 awr yr wythnos, yn hyblyg

£27,101 yn cynyddu i £32,323 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus. Bydd 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cyfrannu at gynllun pensiwn cymeradwy CGGC.

Lleoliad: Hyblyg. Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio.

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad swydd llawn.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae buddion yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.

Rydym yn fudiad sy’n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio gyda CGGC.

SUT I WNEUD CAIS

Dyddiad cau: 19 Chwefror 2026

Dyddiad cyfweliad: 4 Mawrth 2026

I wneud cais, cliciwch yma.

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 09/02/26
Categorïau: Newyddion

Mae’n Wythnos Elusennau Cymru!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/02/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Arweinwyr y sector gwirfoddol yn gwrthwynebu cynigion ‘setliad a enillwyd’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/02/26
Categorïau: Newyddion

Rydyn ni’n cyflogi – Rheolwr Dysgu Digidol Presgripsiynu Cymdeithasol

Darllen mwy