Mae menyw mewn cyfarfod sy'n dal rhai graffiau printiedig yn gwenu

Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Cyhoeddwyd : 11/02/22 | Categorïau: Newyddion |

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ‘Swyddog y Gyflogres a Chyllid’ a ‘Rheolwr Cyllid Ewropeaidd’ i ymuno â’n tîm cyllid gwych. Dysgwch beth allai gweithio yn CGGC ei wneud i chi.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Yma yn CGGC, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o fuddion a chyflogaeth hyblyg sy’n gwneud gwahaniaeth.

Fel cyflogwr, gall CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) gynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog, a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu cyflog byw gwirioneddol i’w staff, mae CGGC wedi ennill achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

RHEOLWR CYLLID EWROPEAIDD

Hyd: Cyfnod penodol hyd at fis Medi 2023

Oriau: 35 awr yr wythnos. Mae cynllun amser hyblyg ar waith a chaniateir amser yn gyfnewid am unrhyw waith y bydd angen ei wneud y tu allan i’r oriau arferol.

Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio’n hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd

Cyflog: £31,718 yn cynyddu i £33,471 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwech mis yn llwyddiannus

Ynglŷn â’r rôl: 

Mae’r rôl tymor penodol hon yn ein tîm cyllid yn gyfle gwych i weithiwr cyllid proffesiynol.

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.

Dyddiad Cau: 28 Chwefror 2022

Cyllidir rhan o’r swydd hon gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

SWYDDOG Y GYFLOGRES A CHYLLID

Math o gontract: Parhaol

Oriau: 35 awr yr wythnos. Mae cynllun amser hyblyg ar waith a chaniateir amser yn gyfnewid am unrhyw waith y bydd angen ei wneud y tu allan i’r oriau arferol.

Lleoliad: Mae gan CGGC bolisi gweithio’n hyblyg ar waith, sy’n golygu y gall ein pobl weithio cyfran o’u hamser yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda chanolfannau swyddfa yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau staff a galwadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd

Cyflog: £28,506.69 yn cynyddu i £30,211.28 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o 6 mis yn llwyddiannus

Ynglŷn â’r rôl: 

Rydyn ni’n chwilio am Swyddog y Gyflogres a Chyllid i redeg gweithrediadau ariannol bob dydd Swyddfa’r Gyflogres.

Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.

Dyddiad Cau: 21 Chwefror 2022

Dyddiad Cyfweliad: 28 Chwefror 2022

Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy