CGGC yw’r mudiad aelodaeth cenedlaethol ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Fel Aelod o CGGC, byddwch yn cael cyfle i fynd ati i lywio ein gwaith a bod yn rhan o rwydwaith cyfoethog o fudiadau o’r un anian sy’n rhannu gweledigaeth debyg. Gall unrhyw elusen, grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol, neu fenter gymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru fod yn Aelod. Llenwch ein ffurflen ar-lein isod i ymaelodi.
Eisiau bod yn rhan o endid o fudiadau gwirfoddol sy’n tyfu bob dydd i ysgogi newid ledled Cymru? Ymaelodwch â CGGC heddiw.
Cyfraddau
Incwm blynyddol y mudiad | Ffi |
£0 – £50,000 | Rhad ac am ddim |
£50,001 – £250,000 | £30 y flwyddyn |
£250,001 – £1 miliwn | £60 y flwyddyn |
Dros £1 miliwn | £90 y flwyddyn |
Partneriaid

Gall mudiadau statudol, a mudiadau neu unigolion sy’n gweithio er budd yn y trydydd sector, sy’n rhannu ein gweledigaeth ac am gefnogi gwaith gwirfoddol yng Nghymru elwa ar fod yn un o Bartneriaid CGGC. Gellir dod yn Bartner i CGGC am £120 y flwyddyn yn unig.
Mae CGGC yn ymrwymo i weithio’n greadigol, yn gydweithredol, ac yn gynhyrchiol gyda’n Haelodau a’n Partneriaid
Buddion
Ymunwch heddiw i lywio ein gwaith a chael:
- Newyddion, bwletinau gwybodaeth a hysbysiadau rheolaidd
- Digwyddiadau a chyfleoedd arbennig i aelodau yn unig
- Gostyngiadau a chynigion ar gyrsiau hyfforddi CGGC, ffi llogi ystafelloedd, gwasanaethau’r gyflogres, Recruit 3, Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy, meddalwedd, telegyfathrebu ac yswiriant.
Newyddion diweddaraf ein haelodau
Cyhoeddwyd: 26/02/21 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |
Academi Menter Gymdeithasol ar agor i geisiadau
Darllen mwyCyhoeddwyd: 26/02/21 | Categorïau: Cyllid |