Mae CGGC yn chwilio am arweinydd dynamig, strategol ac ysbrydoledig i ymgymryd â’r rôl Pennaeth Gwirfoddoli (Arweinydd y Weledigaeth ar gyfer Gwirfoddoli).
YNGLŶN Â’R RÔL
Ydych chi’n frwd am wneud gwahaniaeth a gyrru newid positif? Oes gennych chi’r weledigaeth a’r arweinyddiaeth i ddylanwadu ar wirfoddoli ar lefel genedlaethol? Os felly, dyma’ch cyfle i arwain y ffordd!
Yn y swydd allweddol hon, byddwch yn hybu gwirfoddoli ar draws sector gwirfoddol Cymru, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i gyflawni’r Dull Newydd ar gyfer Gwirfoddoli.
Bydd eich arweinyddiaeth yn helpu i greu sector gwirfoddol ffyniannus, cynhwysol, diogel a chynaliadwy sy’n grymuso cymunedau ac yn trawsnewid bywydau.
PENNAETH GWIRFODDOLI (ARWEINYDD Y WELEDIGAETH AR GYFER GWIRFODDOLI)
Categori Cymraeg: Dymunol
Amser llawn, 35 awr yr wythnos, yn hyblyg
£45,602 yn codi i £48,380 y flwyddyn ar ôl cwblhau cyfnod prawf o chwe mis yn llwyddiannus. Bydd 9% o gyflog blynyddol y swydd yn cyfrannu at gynllun pensiwn cymeradwy CGGC.
Lleoliad: Hyblyg. Mae gennym swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl y gall staff eu defnyddio.
Darllenwch y disgrifiad swydd llawn.
PAM GWEITHIO YN CGGC?
Mae buddion yn cynnwys 25 diwrnod o wyliau â thâl ynghyd ag wyth gŵyl banc, Cynllun Pensiwn Personol, Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Cynllun Tâl Salwch uwch, gweithio hyblyg, cynllun arian gofal iechyd.
Rydym yn fudiad sy’n croesawu amrywiaeth. Mae gennym bolisïau rhagorol er mwyn cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, caiff gweithio hyblyg ei hybu, a’n diwylliant yw meithrin staff drwy arweinyddiaeth effeithiol a gwaith tîm rhagorol.
Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Yn ogystal â bod yn Gyflogwr Cyflog Byw sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, mae CGGC wedi derbyn achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.
Rhagor o wybodaeth am weithio gyda CGGC.
SUT MAE GWNEUD CAIS
Dyddiad cau: 22 Chwefror 2026 – hanner nos
Dyddiad cyfweliad: wythnos o 9-13 Mawrth
Croesawir ceisiadau Cymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.