Ymgyrch i helpu ymddiriedolwyr i fod ‘yn sicr mewn oes ansicr’

Ymgyrch i helpu ymddiriedolwyr i fod ‘yn sicr mewn oes ansicr’

Cyhoeddwyd : 04/04/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae CGGC yn helpu ymgyrch cyfredol y Comisiwn Elusennau i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg ymddiriedolwyr elusennau o’u cyfrifoldebau craidd, ac i’w hannog i ddefnyddio rhagor ar yr adnoddau sydd ar gael ar-lein.

Mae’r Comisiwn Elusennau yn annog ymddiriedolwyr i ddefnyddio ei ganllawiau 5 munud (Saesneg yn unig) sydd, gyda’i gilydd, yn gyflwyniad i’r ‘maes llafur craidd’ y dylai ymddiriedolwyr pob elusen fod yn gyfarwydd ag ef. Mae’r canllawiau hyn, a fwriedir ar gyfer ymddiriedolwyr hir-sefydlog a rhai newydd sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth, yn rhoi ichi wybodaeth syml, hawdd ei deall am yr holl bethau pwysig y mae ar ymddiriedolwyr angen eu gwybod am lywodraethu.

Yn newydd ar gyfer yr ymgyrch eleni ceir cyfres o fideos animeiddiedig, sy’n dod â chanllawiau 5 munud y Comisiwn yn fyw. Mae’r ymgyrch hefyd yn cynnwys deunyddiau newydd ar ddiogelu, sef testun arweiniad 5 munud newydd a gyflwynwyd y llynedd.

Mae’r ymgyrch yn rhan o gynllun ehangach i wneud canllawiau ar-lein y Comisiwn yn gliriach ac yn haws cael gafael arnynt, ac i annog rhagor o ymddiriedolwyr i’w defnyddio – i gefnogi’r amcan yn ei strategaeth 5 mlynedd (Saesneg yn unig) i ‘roi i elusennau’r ddealltwriaeth a’r offer y mae arnynt eu hangen i lwyddo.’

Cafodd cam cyntaf yr ymgyrch ei lansio fis Mawrth diwethaf ac fe’i lluniwyd yn fwriadol i helpu ymddiriedolwyr i ymateb i’r ansicrwydd a grëwyd gan y pandemig. Dywed y Comisiwn fod yr amgylchedd gweithredu i lawer o elusennau’n dal i fod yn ansicr, gan gynnwys oherwydd y rhyfel yn Wcráin.

YSBRYDOLI

Meddai Paul Latham, Cyfarwyddwr Cyfathrebiadau a Pholisi yn y Comisiwn Elusennau:

‘Gwyddom fod ar ymddiriedolwyr eisiau gwneud pethau’n iawn, a’u bod yn cael eu cymell gan angerdd dros achos eu helusen. Mae problemau’n codi’n aml, fodd bynnag, oherwydd eu bod wedi camddeall neu ddiystyru elfennau sylfaenol y gyfraith neu lywodraethu da, neu’n wir oherwydd eu bod yn rhy hyderus ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei wybod.

Mae ein hymgyrch yn annog pob ymddiriedolwr i ofyn iddo’i hun a fyddai’n gwybod sut i ymateb i sefyllfaoedd cyffredin. Ein gobaith yw ysbrydoli ymddiriedolwyr i feithrin gwybodaeth newydd, a gloywi’r arbenigedd sydd ganddynt eisoes, er budd gorau eu helusen a’r gymdeithas gyfan.’

Mae CGGC yn cydnabod bod ymddiriedolwyr ar draws Cymru yn brysur yn ysgwyddo rolau heriol mewn amser anodd. Mae sicrhau bod yr ymddiriedolwyr hyn yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau llywodraethu yn rhan holl bwysig o greu mudiad cadarn, gan roi i ymddiriedolwyr yr hyder i wneud penderfyniadau a chael yr effaith fwyaf i fuddiolwyr.

Mae CGGC yn argymell bod elusennau’n cynnwys canllawiau’r Comisiwn Elusennau mewn gwybodaeth gynefino ar gyfer ymddiriedolwyr newydd, ac yn cymryd amser yn rheolaidd i adolygu sgiliau a phrofiad eu Bwrdd er mwyn sicrhau bod gan ymddiriedolwyr yr help y mae arnynt ei angen i gyflawni eu dyletswyddau.

I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth am ddim, cofrestrwch ar yr Hwb Gwybodaeth lle cewch lu o adnoddau a chymorth ar gyfer mudiadau gwirfoddol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy