Ymgyrch ‘Getting on Board’ i wella amrywiaeth ymddiriedolwyr
Mae’r elusen ‘Getting on Board’ wedi cyhoeddi adroddiad a galwad i weithredu ar amrywiaeth ymddiriedolwyr We Need a Board Revolution (Saesneg yn unig).
Mae prinder amrywiaeth o ymddiriedolwyr yn fater difrifol i lawer o elusennau. Cynhaliodd ‘Getting on Board’ waith ymchwil yn ddiweddar ar farn pobl lliw, menywod a phobl dan 30 oed ar ymddiriedolaethau. Bu’r canlyniadau mor syfrdanol fel y penderfynwyd rhannu’r adroddiad.
Roedd y prif ganfyddiadau’n cynnwys rhwystrau strwythurol i ymddiriedolaeth, credu bod ymddiriedaeth yn ‘glwb i rywun arall’ a phrofiadau o hiliaeth a symboleiddiaeth. Fodd bynnag, roedd cyfranogwyr yn frwdfrydig i fod yn ymddiriedolwyr, eisiau dod o hyd i’r elusen gywir a gwnaethant siarad am bwysigrwydd mentora a modelau rôl.
‘Torri i mewn i glwb llawn hen ddynion gwyn.’ Dyna sut wnaeth un cyfranogwr yng ngrŵp ffocws diweddar ‘Getting on Board’ ddisgrifio dod yn ymddiriedolwr elusen.
Mae’r adroddiad yn cynnwys rhestr o gamau gweithredu y gall byrddau elusennol eu cymryd ar unwaith i recriwtio ymddiriedolwyr mwy amrywiol. Er enghraifft, gallant recriwtio’n ffurfiol ac yn agored, creu hysbysebion wedi’u targedu ac osgoi gosod rhwystrau (e.e. profiad a chymwysterau penodol).
Mae gennym ni’r ymddiriedolwyr ac uwch staff elusennau’r pŵer i newid arferion recriwtio ymddiriedolwyr gwael. Gallwn ni symud cyfansoddiad ein byrddau. Gallwn ni ddod a phrosesau recriwtio caeedig i ben. Gallwn ni helpu ein helusennau i ffynnu drwy groesawu’r cyfraniadau ehangach y gallai amrediad ehangach o ymddiriedolwyr eu cyflwyno.
Penny Wilson, Prif Swyddog Gweithredol ‘Getting on Board’.
Beth am ddechrau gyda thrafodaeth am amrywiaeth mewn cyfarfod bwrdd yn fuan ac ymrwymo i gymryd rhai o’r camau a amlinellwyd yn adroddiad ‘Getting on Board’?
Ymunwch â’r drafodaeth ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #BoardRevolution
Adnoddau perthnasol
Mae ‘Getting on Board’ wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol i gynorthwyo elusennau i ddatblygu dull recriwtio agored a ffurfiol, Trustee Recruitment Guide (Saesneg yn unig)
Gwyliwch y drafodaeth ddiddorol hon am recriwtio ymddiriedolwyr gan yr ‘Young Trustees Movement’, Creating Trustee Role Adverts & Interview Processes