Mae CGGC wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei Bapur Gwyn ar gyfer ailgydbwyso gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd y Papur Gwyn yn nodi nifer o gynigion ar gyfer gwella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth i gefnogi llesiant pobl yn well ledled y wlad. Ar ôl cyhoeddi’r Papur Gwyn, trefnodd CGGC ddau ddigwyddiad er mwyn i’r sector gael rhoi ei farn arno a’r cwestiynau oedd yn cyd-fynd â’r ymgynghoriad. Cafodd yr adborth ei ymgorffori yn ein hymateb llawn, sydd ar gael i’w ddarllen yma.
Ynddo, rydyn ni’n gwneud nifer o bwyntiau, gan gynnwys y canlynol:
- Y teimlad oedd nad oedd cwestiynau’r ymgynghoriad yn canolbwyntio’n ddigonol ar ddinasyddion a’u bod yn anwybyddu’r problemau a welwyd ar lawr gwlad ac yn y gymuned.
- Prin iawn yw’r gydnabyddiaeth am gydgynhyrchu yn y Papur Gwyn. Mae’n rhaid cael ymrwymiad ffurfiol i gydgynhyrchu sy’n mynd y tu hwnt i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Mae angen rhagor o eglurder ynghylch sut bydd gwerth cymdeithasol yn cael ei fesur.
- Rhaid creu amgylchiadau lle mae sefydliadau lleol yn cael maes chwarae cytbwys i ddarparu gwasanaethau pwrpasol a theilwredig drwy brosesau comisiynu gwerth cymdeithasol.
- Dylai cynlluniau cymorth a gofal ffurfio sail y fframwaith cenedlaethol – nid i’r gwrthwyneb.
- Mae gwirfoddolwyr yn ganolog i lwyddiant rhagnodi cymdeithasol.
- Mae’n ymddangos fod comisiynu yn dal i ganolbwyntio ar gost a chanfod y gwasanaeth rhataf sydd ar gael, sy’n golygu bod rhai yn cael triniaeth sy’n llai digonol nag sydd ei angen. Rhaid i’r gwaith o gomisiynu gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
- Mae problemau ynghylch sut mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cydweithio gydag eraill ac yn cyd-gynllunio’u gwasanaethau.
- Dylid adolygu strwythurau a dull Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o weithio cyn rhoi rhagor o bwerau iddyn nhw.
- Dylid annog cynllunio strategol a darparu adnoddau gwirfoddoli fel rhan hanfodol o iechyd a gofal cymdeithasol a galluogi hynny ar lefel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
- Rhaid i Lywodraeth Cymru bennu sail dystiolaeth glir ynghylch sut bydd ei chynigion yn ateb egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gallwch ddarllen ein hymateb yn llawn yma.