Grŵp o fenywod yn eistedd wrth fwrdd mewn digwyddiad ac yn cael trafodaeth

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Cyhoeddwyd : 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymunwch ag CGGC a’r Rheoleiddiwr Codi Arian am ddigwyddiad ymgynghori ar y drafft newydd o’r Cod Ymarfer Codi Arian.

Ar ddechrau mis Medi, gwnaeth y Rheoleiddiwr Codi Arian lansio ymgynghoriad ar y drafft newydd o’r *Cod Ymarfer Codi Arian. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd Hydref diwethaf lle roeddem yn ceisio cael barn pobl ar ein cynigion ar gyfer diweddaru’r cod. Y nod yw gwneud y cod yn fwy syml, yn fwy hygyrch a sicrhau bod newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg ac ymddygiadau codi arian yn cael sylw.

Bydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yn ymgynghori ar y cod drafft drwy gydol mis Medi a mis Hydref y flwyddyn hon. Er mwyn annog pobl i gymryd rhan yn y broses ymgynghori, mae CGGC a’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i drafod y drafft newydd o’r cod ac ateb unrhyw gwestiynau y gallai fod gennych chi.

YNGLŶN Â’R DIGWYDDIAD

Bydd y digwyddiad ymgynghori i randdeiliaid yng Nghymru yn cael ei gynnal ddydd Mercher 2 Hydref 2024 rhwng 11am a 12pm.

Byddem wrth ein boddau pe baech chi’n gallu ymuno â ni yn y digwyddiad. Bydd hwn yn gyfle pwysig i chi amlygu unrhyw sylwadau terfynol sydd gennych ar y cod drafft, ac i ni ymateb i unrhyw gwestiynau neu bryderon y gallai fod gennych chi.

Bydd y tîm sy’n arwain proses adolygu’r cod yno i wrando ar eich adborth ac ateb eich cwestiynau. Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan CGGC a dolen i’r ymgynghoriad yn cael ei rhannu â chynrychiolwyr cyn y sesiwn.

Gallwch gael rhagor o fanylion a chofrestru ar y digwyddiad ar Eventbrite.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y digwyddiad, cysylltwch â consultations@fundraisingregulator.org.uk.

RHAGOR AM GODI ARIAN

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/08/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl am 2024!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/06/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Edrychwch ar hyfforddiant diogelu gydag CGGC

Darllen mwy