Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol i Gymru.
Gellir gweld y cynnig yma ac mae’n amlinellu syniadaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â dyfodol buddsoddi rhanbarthol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad yn edrych yn benodol ar sut i fuddsoddi unrhyw gyllid disodli a ddaw gan lywodraeth y DU wedi i ni adael yr UE.
Tra byddem yn annog pob mudiad i gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad hwn, bydd CGGC yn cyflwyno ymateb yn seiliedig ar safbwyntiau cyffredinol y trydydd sector.
Byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu rhithwir ym mis Ebrill er mwyn casglu safbwyntiau’r trydydd sector ac yna’n hysbysu’r Llywodraeth o’r ymateb hwn.
Gweminar: Ymgynghoriad ar y fframwaith ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol
27 Ebrill 2020 – 2yp (tua 1 awr)
Ymunwch â rhai o uwch aelodau o staff CGGC a Llywodraeth Cymru er mwyn darganfod mwy ynglŷn â’r ymgynghoriad ac i fod yn rhan o sesiwn holi ac ateb gyffredinol. Bydd y weminar yn trafod y canlynol:
- Cyd-destun a throsolwg cyffredinol o’r ymgynghoriad
- Pam ei fod yn bwysig i Gymru ac i’r trydydd sector
- Ffyrdd o ymrwymo
Cofrestrwch yma. Os na allwch ymuno â’r weminar caiff ei recordio a’i rhannu ar wefan CGGC yn dilyn y digwyddiad byw. Sylwch mai yn Saesneg y cynhelir y gweminar.
Trafodaethau bord gron rhithwir
28 – 30 Ebrill 2020
Er mwyn ein galluogi i hwyluso trafodaeth ar draws y sector byddwn yn cynnal cyfres o drafodaethau bord gron gyda grwpiau llai i edrych ar rannau penodol o’r ymgynghoriad. Gall pobl gymryd rhan mewn cynifer neu gyn lleied o’r trafodaethau ag y dymunant. Am fwy o fanylion am yr hyn a drafodir gan bob grŵp, cliciwch yma.
Er mwyn i ni allu trefnu amserlen ar gyfer y trafodaethau hyn cofrestrwch eich diddordeb yma erbyn 20 Ebrill, os gwelwch yn dda. Caiff amserlen derfynol y trafodaethau ei rhannu ar 22 Ebrill 2020.
Arolwg ar gyfer ymatebion ysgrifenedig
Nawr – 13 Mai 2020 (dyddiad cau wedi estyn)
Os hoffech fynegi eich barn ond nad ydych yn awyddus i gymryd rhan yn y trafodaethau bord gron, gallwch gyflwyno ymatebion ysgrifenedig yma erbyn 13 Mai 2020. Fel arall, cysylltwch â ni (3set@wcva.cymru) os hoffech dderbyn galwad 121 er mwyn darparu adborth.