Gwahoddir mudiadau o Gymru i ymgeisio i Raglen Scale Accelerator Spring Impact
A oes mater cymdeithasol taer yr ydych yn angerddol yn ei gylch? A ydych yn teimlo y dylai eich sefydliad wneud hyd yn oed fwy i’w ddatrys?
Mae Scale Accelerator yn helpu sefydliadau sy’n cael eu gyrru gan genhadaeth i gynyddu eu heffaith ar fywydau pobl trwy gynnig gwerth £30,000 mewn gwasanaethau ymgynghoriaeth gan dîm ymroddedig o arbenigwyr.
Mae’r rhaglen wedi’i chyllido’n llawn gan Sefydliad y Loteri Genedlaethol ac mae’n agored i elusennau a mentrau cymdeithasol sydd wedi’u lleoli yn y DU.
Mae’r cyfnod derbyn ceisiadau ar agor yn awr.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 12 Awst 2020
Dyddiad dechrau’r rhaglen: Tachwedd 2020
Ers COVID-19 mae’r rhaglen bellach yn cynnig dau lwybr cefnogaeth
- Helpu mudiadau i weld sut y gallan nhw gyrraedd mwy o bobl mewn modd cynaliadwy
- Helpu mudiadau i newid cyfeiriad, blaenoriaethu ac addasu i gael cymaint o effaith ag sy’n bosibl wrth i’r byd o’n cwmpas newid
Mae’r rhaglen yn cynnig cefnogaeth wedi’i theilwra, digwyddiadau ac aelodaeth o rwydwaith.
Am fwy o wybodaeth ac i ganfod os yw’ch mudiad yn cwrdd â meini prawf y rhaglen, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth.
Mwy a newyddion ar Wybodaeth a Chymorth
Rhybudd Rheoleiddiol ar gyfer elusennau cyflenwi gwasanaethau mawr neu gymhleth
Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi rhybudd i elusennau cyflenwi gwasanaethau mawr sydd ag incwm o fwy na £9 miliwn.
Adroddiad y Comisiwn Elusennol ar RNIB
Mae’r Comisiwn Elusennol wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ymchwiliad swyddogol i RNIB sy’n dangos fod camreoli difrifol o fewn yr elusen wedi gwneud rhai plant yn ei gofal yn agored i berygl ac eraill yn agored i risgiau gormodol.
Adroddiad newydd: darparu gwasanaethau yn ystod ac ar ôl COVID-19
Mewn ymateb i argyfwng cyfredol y Coronafeirws, cynhaliodd CGGC gyfres o ddigwyddiadau o dan yr enw ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, a oedd yn edrych ar sut mae’r sector gwirfoddol wedi’i effeithio gan y pandemig ac yn parhau i ymateb iddo. Gwnaeth y trydydd digwyddiad yn y gyfres hon ganolbwyntio ar ba effeithiau mae’r pandemig wedi’u cael ar ddarparu gwasanaethau a sut gallai’r heriau hyn barhau i ddatblygu yn y dyfodol.