Mae ceisiadau nawr ar gau
Waeth beth yw eich cefndir neu brofiad, beth am ddatblygu eich sgiliau, ehangu eich rhwydwaith a’n helpu ni i wneud mwy o wahaniaeth yng Nghymru drwy ymuno â’n bwrdd ymddiriedolwyr?
Yn CGGC, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i feddwl am beth all pob un ohonom ni ei wneud i lunio dyfodol positif i Gymru. Rydym ni’n credu bod sector gwirfoddol amrywiol yn allweddol i greu dyfodol gwell ar gyfer Cymru, ac mae angen bwrdd amrywiol arnom i helpu i arwain y newid rydym ni eisiau ei weld.
Mae gennym ni chwe lle gwag ar ein bwrdd a byddem ni wrth ein boddau pe baech chi’n ymuno â ni i dyfu ein rhwydwaith, ennill sgiliau newydd, a’n helpu ni i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
D’OES DIM ANGEN PROFIAD!
Nid oes angen profiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr arnoch i ymuno â’n bwrdd, fe wnawn ni roi’r holl hyfforddiant a chymorth sydd eu hangen arnoch chi.
Darllenwch ein pecyn recriwtio ymddiriedolwyr i ganfod mwy am beth mae bod yn ymddiriedolwr yn ei olygu, ein gwaith a beth mae’r rôl yn ei chynnwys.
EIN FFOCWS AR AMRYWIAETH
Rydym yn canolbwyntio ar alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i fod yn fwy amrywiol, gan adlewyrchu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i arwain drwy esiampl a gweithio i sicrhau bod CGGC yn fwy amrywiol. Rydym yn ymrwymedig i fod mor gynhwysol â phosibl ac rydym eisiau cymaint â phosibl o leisiau gwahanol ar ein bwrdd.
Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr ag amrediad eang o brofiadau. Waeth beth yw eich cefndir, byddem yn dwli clywed gennych chi.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am pam mae cael bwrdd amrywiol mor bwysig i ni yn ein pecyn recriwtio ymddiriedolwyr.
Dyma un o ymddiriedolwyr CGGC, Edward Watts MBE DL, yn siarad am ei brofiad o weithio gydag CGGC ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI):
ANGEN YMDDIRIEDOLWYR IFANC
Oedran canolrifol ymddiriedolwyr yn y DU yw 57, er bod oedran canolrifol y boblogaeth yn llawer is. Mae cael bwrdd sy’n cynrychioli ein cymdeithas nid yn unig yn arfer da, ond yn hanfodol i lywodraethu da.
Yn CGGC, rydym eisiau gwneud mwy na thicio’r bocs. Rydym ni’n gwybod bod ymddiriedolwyr ifanc yn dod â chyfoeth o brofiadau, sgiliau a syniadau i’r bwrdd ac rydym yn chwilio am bobl rhwng 16-30 oed i ymuno â’n bwrdd a’n helpu ni i wneud mwy o wahaniaeth.
Dyma un o Ymddiriedolwyr CGGC, Joe Stockley, yn siarad am ei brofiad o fod yn ymddiriedolwr ifanc:
‘Rwy’n credu mai bod yn ymddiriedolwr yw un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud. Trwy ddod i mewn i’r gofod hwnnw fel rhywun ifanc, gallwch chi newid pethau drwy gynnig safbwyntiau newydd, a gofyn y cwestiynau hynny na fyddai rhywun ychydig yn hŷn wedi’u hystyried efallai.
‘Weithiau, rydych chi’n cael eich rhoi mewn sefyllfaoedd sy’n rhoi llawer o gyfrifoldeb ar eich ysgwyddau. Hwn yw’r pen dwfn, ond mae achubwyr bywydau wrth law, mae pobl â llawer mwy o brofiad sy’n gallu eich helpu.
‘Fel cyfle dysgu, hwn yw’r un gorau rwyf erioed wedi’i gael.’
PAM YMUNO Â BWRDD CGGC?
Mae ein bwrdd yn cynnwys unigolion cyfeillgar a brwdfrydig sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau, sgiliau a chefndiroedd. Trwy ymuno â’n Bwrdd, byddwch yn …
- Gweithio gydag amrediad o bobl frwdfrydig o bob cefndir a gwneud cysylltiadau i wella eich datblygiad personol a phroffesiynol
- Cael cyfle i ddefnyddio eich sgiliau a rhannu eich profiadau unigryw mewn ffyrdd newydd a gwneud newid positif yng Nghymru
- Gyrru ein nodau elusennol ac yn ein helpu i gefnogi a grymuso’r mudiadau ysbrydoledig sy’n rhan o sector gwirfoddol Cymru
RÔL AELODAU CGGC
Ein haelodau sy’n llywio gwaith CGGC ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae wrth ethol ymddiriedolwyr i’n bwrdd. Aelodau CGGC yw’r unig rai a all gyflwyno enwebiadau yn ein hetholiadau ymddiriedolwyr (felly bydd angen i chi gael aelod i gyflwyno eich enw os ydych chi eisiau ymgeisio – rhagor am hyn isod!) a nhw sy’n bwrw’u pleidlais yn ein pleidlais ymddiriedolwyr i bennu pwy fydd yn ymuno â’r bwrdd.
SUT I YMGEISIO
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’n bwrdd eleni, mae rhai pethau sydd angen i chi eu gwneud:
- Mae angen i chi gael cefnogaeth dau aelod o CGGC– gelwir y rhain yn enwebydd ac eilydd. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n adnabod unrhyw aelodau – gallwn ni eich rhoi mewn cysylltiad â rhai
- Unwaith y byddwn wedi derbyn eich enwebiad gan aelod o CGGC, byddwn yn gofyn i chi anfon ychydig o wybodaeth am eich hunan atom. Rydym eisiau gwybod pa sgiliau a phrofiadau y byddech yn eu cyflwyno i’r bwrdd (dwy dudalen ar y mwyaf). Os oes gennych CVC, byddai hynny’n ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. Byddwn hefyd yn gofyn am ddau eirda
- Yn olaf, mae angen datganiad byr arnom (200 gair ar y mwyaf) a llun y gallwn ni ei roi ar ein gwefan. Dylai eich datganiad ateb y cwestiwn hwn: ‘Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosoch i fod yn ymddiriedolwr?’
Gallwch anfon eich gwybodaeth fel fideo neu recordiad sain os oes well gennych
Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau holiadur monitro cyfle cyfartal i’n helpu ni i ddeall mwy am bwy rydym yn ei gyrraedd.
RHAGOR O WYBODAETH, DOGFENNAU A DYDDIADAU CAU
- Pecyn recriwtio ymddiriedolwyr – popeth sydd angen i chi ei wybod am etholiadau ymddiriedolwyr 2024
- Cymryd rhan yn ein hetholiadau ymddiriedolwyr – gwybodaeth i aelodau CGGC
- Ffurflen enwebu ar gyfer yr etholiad ymddiriedolwyr
- Disgrifiad rôl ymddiriedolwr
- Hysbysiad preifatrwydd
- Ffurflen monitro cyfle cyfartal
Beth sy’n digwydd nesaf?
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau a datganiadau ymgeiswyr yw 6 Medi 2024.
Byddwn ni’n postio datganiadau a lluniau’r ymgeiswyr ar ein gwefan yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 16 Medi 2024.
Bydd ein haelodau yn pleidleisio dros eu hoff ymgeiswyr yn ein pleidlais a fydd yn cael ei chynnal rhwng 21 Hydref – 1 Tachwedd 2024.
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod canlyniadau’r bleidlais yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 4 Tachwedd 2024.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.
Mae ein Prif Weithredwr, Lindsay Cordery-Bruce yn fwy na bodlon siarad ag unrhyw un sy’n ystyried ymgeisio. Cysylltwch â Tracey Lewis ar tlewis@wcva.cymru i drefnu sgwrs.