Darllenwch stori Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens & George, elusen addysg ym Merthyr Tudful, a sut maen nhw wedi ymgynnull i ymgymryd â’r heriau a gyflwynir gan bandemig COVID-19.
Cafodd Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiannol Stephens & George, a sefydlwyd gan un o’r busnesau hynaf yng Nghymru, grŵp print Stephens & George, ei lansio gyda’r bwriad o fuddsoddi yn addysg pobl ifanc – mewn ymateb i lefelau llythrennedd isel yn yr ardal.
Ers hynny, mae nifer o bobl ifanc yr ardal hefyd wedi mynd ymlaen i astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt fel canlyniad uniongyrchol i’r gefnogaeth maen nhw wedi’i derbyn gan gynllun gwobrwyo bwrsari’r Ymddiriedolaeth.
Cynllun yw hwn sy’n cynnig cefnogaeth ariannol gyda’u haddysg uwch i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.
Hwb cymunedol i bob oedran
Pan symudodd y mudiad i’w adeilad newydd, Canolfan Gymunedol Dowlais, yn 2016, ei nod oedd gwneud yr Ymddiriedolaeth yn fwy cynaliadwy trwy drawsnewid y gwagle newydd yn hwb cymunedol go iawn a fyddai’n ymgysylltu ag aelodau o bob oed o’r gymuned.
Gan agor ei ddrysau i ystod o wasanaethau lleol, mae’r adeilad bellach yn gartref i dros hanner cant o ddosbarthiadau, sy’n amrywio o saethyddiaeth i ddawnsio salsa, er mwyn ymgysylltu â phobl yn y gymuned. Yn ogystal, ceir yno stiwdio gerddoriaeth, campfa, caffi cymunedol a phrosiect garddio.
‘Fe drôdd yr adeilad enfawr hwn yn wagle diffaith’
Fel nifer o fudiadau gwirfoddoli ac elusennol yng Nghymru, cafodd COVID-19 effaith sylweddol ar yr Ymddiriedolaeth.
Bellach doedd dim modd i aelodau o’r gymuned gymryd rhan yn eu gweithgareddau addysgol, na chael mynediad i’r gweithgareddau eraill ar y safle a oedd wedi dod yn achubiaeth hanfodol i’r gymuned.
Yn ôl Helen Hughes, Cydlynydd Elusennol: ‘Mae’n drist dros ben – fe drôdd yr adeilad enfawr hwn yn wagle diffaith.
‘Rhwygodd COVID-19 y galon allan o’n cymuned gan ddod â chwmwl tywyll iawn gydag ef.
‘Diolch byth, mae’r cwmwl hwnnw’n dechrau diflannu gan ein bod wedi gallu estyn ein breichiau o gwmpas y rhai sydd mewn angen a’u sicrhau y byddwn yno iddynt bob amser.
‘Arweiniodd hyn at sylweddoliad sydyn – roedd angen i ni ddechrau mynd allan i wirioneddol gefnogi ein cymuned mewn modd gweithredol.
‘Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae dros 47 o wirfoddolwyr newydd wedi ymuno â ni ac rydyn ni wedi: dosbarthu 900 o becynnau addysgol i bobl ifanc ar draws y fwrdeistref, darparu dros 3,500 o barseli bwyd am ddim i deuluoedd yr oedd arnynt angen prydau iach, a darparu ein gwasanaethau gwersi ar-lein – megis Art Attack, hanes a gwyddbwyll.’
Rhoi gobaith i’r cymuned
Wrth siarad am yr effaith a gafodd hyn, pwysleisia Helen fod y gwasanaethau newydd hyn wedi rhoi gobaith i gymuned gynyddol ddigalon trwy ddangos iddynt waeth pa mor unig maen nhw’n teimlo, mae yna rywun allan yna sy’n poeni.
Ychwanega Helen: ‘Mae’r gymuned bellach yn amlwg yn lle hapusach a llai ynysig i fod ynddo. Bu hyn i gyd yn bosibl oherwydd y cyllid rydyn ni wedi’i dderbyn. Mae grant o’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.
‘Yn ogystal â thalu am 15% o’n costau staffio, mae’r £1,000 yr wythnos tuag at gostau bwyd wedi rhoi’r cyfle i ni sicrhau bod y pecynnau bwyd rydyn ni’n eu darparu yn sylweddol ac yn iach.
‘Wrth i COVID-19 ddechrau gollwng ei afael ar Ferthyr yn araf bach, gallwn ddechrau edrych ymlaen at gael gwasanaethau ein canolfan gymunedol yn ôl ar eu traed – trwy weithio gyda darparwyr er mwyn dod o hyd i ffyrdd o’u haddasu i’r tirwedd newidiol hwn.’
Darganfod sut all eich mudiad gwneud cais i’r Gronfa er mwyn sicrhau bod modd i chi barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl mewn angen yn ystod y cyfnod hwn.