Person,Doing,Shopping,For,Elderly,Neighbor

Ymchwil yn dangos mwy o ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd

Cyhoeddwyd : 06/09/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r gwaith ymchwil y Comisiwn Elusennau yn edrych ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau a’u disgwyliadau ar gyfer y sector gwirfoddol.

Mae gwaith ymchwil blynyddol y Comisiwn Elusennau ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau (Saesneg yn unig) wedi dangos cynnydd mewn ymddiriedaeth am yr ail flynedd yn olynol. Canfu’r ymchwil hefyd fod gan y cyhoedd mwy o amgyffred o berthnasedd elusennau ac nid yw disgwyliadau’r cyhoedd o elusennau wedi newid.

Noda’r adroddiad ei fod yn bosibl bod pandemig COVID-19 wedi cyfrannu at y cynnydd yn ymddiriedaeth y cyhoedd am fod y gwahaniaeth cadarnhaol y gall elusennau ei wneud wedi’i amlygu:

‘Gan ystyried y cyd-destun hwn, efallai nad yw’n syndod ein bod wedi gweld gwelliannau bach ond arwyddocaol mewn agweddau’r cyhoedd tuag at elusennau yn ystod y 12 mis diwethaf. Wrth i sgandalau proffil uchel yn ymwneud ag elusennau ymbellhau yng nghof y cyhoedd, mae’r ymddiriedaeth a’r hyder mewn elusennau’n parhau i wella’n raddol. Ar ôl bron degawd o ddirywiad, rydyn ni hefyd wedi gweld rhywfaint o gynnydd yng nghyfran y bobl sy’n credu bod elusennau’n bwysig i gymdeithas. Mae’r rhain yn gamau cadarnhaol.

Ond ni allwn ni fod yn hunanfodlon. Er bod y cyd-destun y mae elusennau wedi gweithredu o’i fewn wedi newid ers mis Mawrth 2020, yr un yw agweddau sylfaenol pobl tuag at elusennau. Y cydsyniad cyffredinol sy’n parhau mewn cymdeithas yw y dylai cyfran uchel o’r arian a godir gan elusennau gael ei gwario ar fuddiolwyr, y dylid cyflawni’r effaith a addawyd, bod gweithredu fel elusen yn golygu ymddwyn yn elusennol hefyd, a bod gan bob elusen gyfrifoldeb cyfunol dros gynnal enw da elusen drwy wneud yr holl bethau hyn. Mae pobl yn anghytuno ar lawer o bethau mewn perthynas ag elusennau, ond rhennir y disgwyliadau sylfaenol hyn nawr fel y’u rhannwyd cyn Covid-19’.

Mae’r adroddiad yn nodi set o ‘ddisgwyliadau cyffredin’ lle y ceir cytundeb cyffredin ar draws rhannau gwahanol o’r boblogaeth ar sut y dylai elusennau ymddwyn.  Noda’r adroddiad ‘fod y disgwyliadau hyn wedi aros yr un fath serch effaith Covid. Mae sut y tybir bod elusennau’n perfformio yn erbyn y rhain yn llawer pwysicach wrth bennu ymddiriedaeth y cyhoedd na’r effeithiau uniongyrchol y mae Covid wedi’u cael ar y sector.’

Pedwar disgwyliad allweddol

  • Ble mae’r arian yn mynd – bod cyfran uchel o arian elusennau yn cael ei defnyddio ar weithgareddau elusennol
  • Effaith – bod elusennau’n cyflawni’r effaith a addawyd ganddynt
  • ‘Sut’ – bod y ffordd yr eir ati i gyflawni’r effaith honno’n gyson ag ysbryd ‘elusen’
  • Cyfrifoldeb cyfunol – bod pob elusen yn cynnal enw da elusen wrth gadw at y rhain

Bydd CGGC yn defnyddio canfyddiadau’r ymchwil hwn i helpu i lunio’r ffordd rydyn ni’n cynorthwyo elusennau yng Nghymru.

Gallwch chi ddarllen mwy am y gwaith ymchwil ar wefan y Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig).

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy