Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi ei ymchwil blynyddol ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau a beth yw barn ymddiriedolwyr am eu dyletswyddau a disgwyliadau’r cyhoedd.
YR YMCHWIL
Yn ôl yr ymchwil, mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau wedi cynyddu, ond bach iawn yw’r cynnydd hwn serch hynny. ‘Mae hyn yn nodi’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn elusennau wedi bod yn gyson, sy’n awgrymu y gallai’r adferiad o argyfwng ymddiriedaeth 2015-2020 fod wedi cyrraedd lefel sefydlog, sy’n dal i fod yn is na’r lefelau uchaf blaenorol.’
Mae cyfweliadau gydag aelodau o’r cyhoedd sy’n dod o wahanol rannau o’r boblogaeth yn dangos ‘o ganlyniad i sgandalau proffil uchel mor gynnar â 2015, nid oes mantais yr amheuaeth yn cael ei roi yn awtomatig i’r sector, er bod gwaith elusennau lleol yn ystod yr argyfwng costau byw wedi cryfhau cred bresennol rhai pobl yn y gwerth a’r effaith y gall elusennau ei chynnig’.
Mae’r ymchwil yn mesur ymddiriedaeth y cyhoedd yn erbyn pedwar disgwyliad allweddol:
- Bod cyfran uchel o arian elusennau yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgarwch elusennol
- Bod elusennau’n creu’r effaith maen nhw’n addo ei chreu
- Bod y ffordd maen nhw’n mynd ati i gyflawni’r effaith honno yn gyson ag ysbryd ‘elusen’
- Bod pob elusen yn cynnal enw da elusennau drwy lynu at y rhain
Y CANFYDDIADAU
Mae’r canfyddiadau’n dangos bod ymddiriedaeth yn dueddol o fod yn gryfach mewn elusennau bach a lleol sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, yn hytrach nag elusennau mawr cenedlaethol. Mae’r cyhoedd yn gobeithio y bydd goddefgarwch yn cael ei ddangos wrth ymdrin â chamgymeriadau gonest, yn enwedig gydag elusennau bach sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, y byddai addysg yn fwy buddiol iddynt na chosb. Serch hynny, mae elusennau mawr a phroffesiynol yn cael eu dal i safonau uwch yn hyn o beth, ac mae’r cyhoedd yn credu y dylent fod yn fwy ymwybodol o weithdrefnau.
Canfu’r ymchwil i brofiad ymddiriedolwyr fod dealltwriaeth ymddiriedolwyr o’u rôl, a’u hyder yn ei chyflawni, yn dal i fod yn uchel: ‘Mae ymddiriedolwyr yn teimlo bod modd iddynt alinio’n briodol â disgwyliadau’r cyhoedd ac amddiffyn elusennau a’u buddiolwyr rhag niwed. Mae’n well gan y mwyafrif helaeth o ymddiriedolwyr fod yn ofalus yn hytrach na chymryd risgiau wrth wario, tra bod cyfran debyg yn teimlo mai diben craidd elusen ddylai lywio eu penderfyniadau, yn hytrach na barn ymddiriedolwyr.’
Serch hynny, mae ymddiriedolwyr yn edrych yn bennaf at gydweithwyr ac ymddiriedolwyr eraill am gyngor, tra bod hanner yr ymddiriedolwyr byth yn ceisio cymorth gan y Comisiwn Elusennau. Mae’r rhan fwyaf o elusennau hefyd yn dueddol o ddibynnu ar gysylltiadau personol i recriwtio ymddiriedolwyr newydd.
Canfu’r ymchwil fod ymddiriedolwyr sy’n defnyddio canllawiau’r Comisiwn yn dueddol o ddeall eu cyfrifoldebau’n well.
AM FWY O WYBODAETH
Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, rydyn ni’n argymell Canllawiau 5 munud ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau y Comisiwn Elusennau, fel cyflwyniad da i’r prif feysydd cyfrifoldeb.
Mae llawer o adnoddau i gefnogi ymddiriedolwyr â llywodraethu da ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.