Video conference

Ymchwil blynyddol y Comisiwn Elusennau ar ymddiriedaeth gyhoeddus a phrofiad ymddiriedolwyr o’u rôl

Cyhoeddwyd : 20/09/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi ei ymchwil blynyddol ar ymddiriedaeth gyhoeddus mewn elusennau a beth y mae ymddiriedolwyr yn ei feddwl o’u dyletswyddau a’u disgwyliadau cyhoeddus.

Yn dilyn cynnydd ar ôl y pandemig y llynedd, mae’r ymddiriedaeth gyffredinol mewn sefydliadau cyhoeddus wedi disgyn. Yn y cyd-destun hwn, mae’r ymddiriedaeth gyhoeddus mewn elusennau wedi dal ei thir, o’i chymharu â sefydliadau eraill. Mae’r hyn y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan elusennau yn parhau i fod yn gyson; rhaid i elusennau barhau i ymateb i bedwar disgwyliad allweddol.

  • Bod cyfran uchel o arian elusennau yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgarwch elusennol
  • Bod elusennau yn cael yr effaith y maen nhw wedi addo ei chael
  • Bod y ffordd y maen nhw’n mynd ati i gael yr effaith honno yn gyson â naws ‘elusen’
  • Bod pob elusen yn cynnal enw da elusen sy’n glynu at y disgwyliadau hyn

Dengys yr ymchwil fod y cyhoedd yn parhau i gredu bod elusennau yn rhan bwysig o gymdeithas, cyhyd â’u bod yn cadw at bedwar disgwyliad cyson. Mae’r ymddiriedaeth mewn elusennau yn parhau i fod yn uwch nag yn y mwyafrif o rannau eraill cymdeithas – sy’n dangos y gwerth y mae’r cyhoedd yn credu y gall elusennau ei gyflwyno, a’r gwerth y maen nhw wedi’i gyflwyno drwy gydol pandemig Covid. Fodd bynnag, mae amheuon ystyfnig yn parhau o ran sut mae elusennau yn defnyddio eu harian a sut maen nhw’n ymddwyn. Roedd hyn yn wir cyn y pandemig ac mae’n parhau i fod yn wir nawr.

BROFIAD YMDDIRIEDOLWYR

Canfu’r ymchwil fod elusennau yn parhau i ymateb ac addasu i’r cyd-destun ôl-bandemig.

Nid yw dealltwriaeth ymddiriedolwyr o’u rôl a’u cyfrifoldebau wedi newid ers 2020. Mae’r rhan fwyaf o ymddiriedolwyr yn ymwybodol o’r prif gyfrifoldebau, ond mae ychydig o fylchau o ran gwneud penderfyniadau a throsolwg ariannol. Mae’r mwyafrif o ymddiriedolwyr yn parhau i sylweddoli pa mor bwysig yw hi i ystyried disgwyliadau’r cyhoedd ac yn teimlo cyfrifoldeb cyfunol dros gadw enw da’r sector.

Bydd CGGC yn defnyddio’r canfyddiadau o’r ymchwil i helpu i lunio’r ffordd rydyn ni’n cynorthwyo elusennau yng Nghymru.

Gallwch chi ddarllen rhagor am yr ymchwil ar wefan y Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig).

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy