Rydyn ni mewn sefyllfa nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen yn ystod oes fodern y DU, wrth i gymunedau, mudiadau gwirfoddol a chyllidwyr geisio chwilio ffyrdd ymlaen drwy gadw pellter cymdeithasol, hunanynysu a gweithio o gartref i raddau y mae ychydig iawn o bobl yn gyfarwydd â nhw.
Noder: Os ydych chi’n chwilio am gyllid i wneud cais ar ei gyfer, edrychwch ar ein tudalen benodol ar Goronafeirws ar Cyllido Cymru
Mae nifer fawr o gyllidwyr yn Lloegr (a llawer o’r rhain yn cyllido prosiectau ledled y DU) yn ymateb i feirws Covid-19 a’i effeithiau ar fudiadau’r sector gwirfoddol mewn modd cydlynol. Y pwynt hanfodol yw bod y cyllidwyr hyn yn ymrwymedig i gefnogi derbynyddion eu grantiau drwy fod yn hyblyg gyda grantiau a dyddiadau cau adroddiadau a gwrando ar anghenion eu derbynyddion.
Gellir gweld y datganiad llawn a rhestr o’r cyllidwyr cysylltiedig yma. Mae’n cynnwys cyllidwyr allweddol, gan gynnwys (a gellir gweld eu datganiadau unigol drwy ddilyn y dolenni yn y cromfachau):
- Plant mewn Angen (Datganiad llawn)
- Comic Relief (Datganiad llawn)
- Sefydliad Esmee Fairbairn (Datganiad llawn)
- Sefydliad Garfield Weston (Datganiad llawn)
- Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree (Datganiad llawn)
- Lloyds Bank Foundation, Cymru a Lloegr (Datganiad llawn)
- Sefydliad Paul Hamlyn (Datganiad llawn)
- Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl (Datganiad llawn)
- Tudor Trust (Datganiad llawn)
- Sefydliad Wolfson (Datganiad llawn)
Os ydych chi’n cael eich cyllido gan unrhyw un o’r mudiadau sydd ar y rhestr lawn, anogir chi i gysylltu â nhw yn ôl yr angen.
Isod ceir crynodeb o’r datganiadau sy’n cael eu gwneud gan gyllidwyr allweddol dros Gymru. Byddwn yn diweddaru’r grynodeb yn rheolaidd. Os nad yw eich cyllidwr wedi’i restru yma ac nad ydych wedi clywed ganddo, cysylltwch ag ef yn uniongyrchol (e-bost fydd y dull gorau siŵr o fod os cymerwn yn ganiataol fod yr holl gyllidwyr yn gweithio o bell ar hyn o bryd). Mae’r cyllidwyr wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor:
Gronfa Treftadaeth Bensaernïol – wedi’i ddiweddaru
Mae’n parhau i dderbyn ceisiadau ac asesiadau fel yr hysbysebir. Maen nhw’n annog deiliaid grantiau, derbynyddion benthyciadau ac ymgeiswyr i gysylltu â nhw’n uniongyrchol os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon. Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol bellach wedi cyhoeddi canllaw o’r gefnogaeth a’r cyllid sydd ar gael i fudiadau.
Cyngor Celfyddydau Cymru
Ar 7 Ebrill, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru fwy o wybodaeth ynglŷn â’u Cronfa Gwytnwch y Celfyddydau, gan gynnwys y gefnogaeth fydd ar gael i unigolion a mudiadau i’w cynorthwyo trwy’r argyfwng Coronafeirws.
Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ailddyrannu arian o gyllidebau a fodolai eisoes er mwyn creu cronfa ymateb brys gwerth £7 miliwn gyda £5.1 miliwn yn dod o ffynonellau deilliedig o’r Loteri Genedlaethol.
Ar ddydd Mawrth 21 Ebrill 2020 bydd ceisiadau’n cael eu hagor ar gyfer y Gronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau.
Ceir mwy o wybodaeth am y gronfa wytnwch yma.
Sefydliad Cymunedol Cymru – wedi’i ddiweddaru
Os ydych wedi derbyn grant gan Sefydliad Cymunedol Cymru ac angen oedi neu wneud newidiadau i gyflenwad y prosiect oherwydd yr achosion o Covid-19, cysylltwch â nhw drwy anfon e-bost at grants@communityfoundationwales.org.uk gan ychwanegu enw’ch mudiad a’r gronfa y mae’r grant a gynigiwyd i chi o’i mewn yn y llinell pwnc.
Mae gan y Sefydliad gyllid y maen nhw’n ei ryddhau i gefnogi elusennau a grwpiau cymunedol i barhau i gefnogi eu cymunedau a phobl agored i niwed. Er mwyn sicrhau bod y cyllid y byddant yn ei ddosbarthu yn mynd i’r lleoedd sydd ei angen, maen nhw’n ymgynghori â thrydydd sector Cymru er mwyn asesu eu hanghenion dybryd a pharhaus. Gallwch chi gwblhau’r arolwg byr yma.
Mae cyfanswm y cyllid sydd bellach ar gael trwy Gronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru wedi cyrraedd £1 miliwn. O’r herwydd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi gallu ehangu ar y meini prawf cymhwysedd a gwariant y gronfa i:
- Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael i grwpiau ag incwm blynyddol hyd at £200,000
- Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau ag incwm blynyddol rhwng £201,000 a £500,000.
Cronfa Gymunedol Clocaenog
Mae’r Gronfa wedi rhyddhau cyllid ar gyfer grwpiau sy’n darparu cymorth ar y rheng flaen. Gweler Cyllido Cymru am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio.
Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr
Mae’r Gronfa wedi rhyddhau cyllid ar gyfer grwpiau sy’n darparu cymorth ar y rheng flaen. Gweler Cyllido Cymru am ragor o wybodaeth a sut i ymgeisio.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Yn dilyn ymgynghoriad â deiliaid grant, mae’r gronfa wedi gwneud dau benderfyniad.
- Yn gyntaf, bydd yr holl benderfyniadau cyllido y byddwn ni’n eu gwneud dros y chwe mis nesaf (hyd at £300 miliwn o gyllid y Loteri Cenedlaethol) yn cael ei neilltuo ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfwng cyfredol.
- Byddwn yn cyflymu rhan ariannol y cyllid hwn cymaint â phosibl er mwyn cael yr arian i’r fan sydd angen iddo fod. Nid arian newydd mo hwn, ond bydd yn arian cyflymach, a gwyddom fod yn rhaid i ni weithredu’n gyflym ac yn hyderus.
Er mwyn cyrraedd y grwpiau hynny sydd yn y sefyllfa orau i gefnogi eu cymunedau ar yr adeg dyngedfennol hon, byddwn yn blaenoriaethu’r taliadau cyflymach canlynol i ddeiliaid grant ac ymgeiswyr cyfredol gan ddefnyddio’r meini prawf canlynol:
- Gweithgareddau sydd wedi’u hanelu’n benodol i gefnogi cymunedau drwy’r argyfwng hwn
- Helpu mudiadau i oresgyn unrhyw broblemau hylifedd a achosir gan COVID-19.
Noder: Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymateb fel un cyllidwr yn hytrach na phedair swyddfa ddatganoledig. Gan hynny, mae’r ffigur o £300 miliwn ledled y DU gyfan.
Datganiad llawn a diweddariadau
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – wedi’i ddiweddaru
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi rhoi cronfa o £50miliwn at ei gilydd i gefnogi’r sector treftadaeth fel ymateb ar unwaith i’r achosion o’r clefyd coronafeirws (COVID-19).
Yn ogystal â’r Gronfa Argyfwng Treftadaeth, byddan nhw hefyd yn cefnogi’r sector yn y ffyrdd canlynol:
- Cyflymu’r broses o ddarparu ein menter sgiliau digidol gwerth £1.2miliwn ar gyfer treftadaeth i helpu’r sector drwy’r argyfwng a thu hwnt
- Trwy barhau i gefnogi’r 2,5000 o brosiectau rydym eisoes wedi ymrwymo i ariannu
- Trwy fod mor hyblyg â phosibl i’n grantïon presennol
- Darparu cyngor a chymorth pwrpasol
- Ymrwymiad o £2miliwn i’n rhwydwaith o ymgynghorwyr ROSS yn y flwyddyn ariannol newydd. Byddwn yn cyfeirio’r cymorth hwnnw at sefydliadau sydd mewn angen. Wrth wneud hynny rydym hefyd yn helpu rhai cannoedd o bobl llawrydd a phobl hunan-gyflogedig.
- Gweithio’n agos gyda’r Llywodraeth, arianwyr eraill a sefydliadau treftadaeth i ddwyn ynghyd y gefnogaeth i’r sector
- Yn y tymor hwy, rydym wedi buddsoddi £4miliwn mewn dwy raglen datblygu menter ledled y DU ar gyfer arweinwyr treftadaeth, a rhaglenni cymorth busnes ym mhob un o’r pedair gwlad.
Am fwy o wybodaeth am y cyllid a sut i ymgeisio, ewch i Cyllido Cymru neu i wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Noder: caiff ceisiadau eu cwblhau ar-lein a rhaid iddynt gael eu cwblhau mewn un sesiwn. Rhaid i fudiadau wneud defnydd o’r gefnogaeth ar-lein er mwyn bod yn gwbl barod i gwblhau’r ffurflen gais.
Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd
Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn cydnabod y bydd y Coronfeirws (COVID-19) yn cael effaith fawr ar gymunedau ledled ardal y Gronfa. Hoffwn eich sicrhau chi y byddwn yn gwneud beth bynnag y gallwn i’ch cefnogi chi yn yr wythnosau i ddod. Mae pob cyfarfod ac apwyntiad yn cael ei wneud o bell dros y ffôn, drwy alwadau fideo a negeseuon e-bost.
Mae’r Gronfa yn sicrhau bod cyllid argyfwng carlam ar gael i fudiadau yn ardal y Gronfa. Bydd dau linyn ar gael:
- Cronfa Oroesi: darparu cyllid llif arian argyfwng i fudiadau sydd mewn perygl o gau
- Cronfa Brosiect: cefnogi gwasanaethau ychwanegol sy’n cwrdd â gofynion uniongyrchol cymunedau
Ni fydd ein cyllid yn disodli unrhyw gefnogaeth sydd ar gael gan y Llywodraeth – byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni pa gymorth arall rydych wedi’i archwilio neu y byddwch yn ei dderbyn o ffynonellau eraill, ac mae’n bosibl y byddwn yn eich cyfeirio at gefnogaeth cyllido mwy perthnasol a chymwys.
Chwaraeon Cymru
Mae Chwaraeon Cymru wedi cyhoeddi Cronfa Cymorth Argyfwng o £400,000 er mwyn cefnogi clybiau chwaraeon nid-er-elw. Mae’r cyllid wedi’i ffurfio o £200,000 o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i gyfateb â £200,000 gan Chwaraeon Cymru.
Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio er mwyn dynodi cronfa gychwynnol o hyd at £8.1 miliwn yn ychwanegol at y Gronfa Cymorth Argyfwng. Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i gefnogi clybiau chwaraeon a’n rhwydweithiau partner sydd wedi’u sefydlu ers tro sydd mor hanfodol wrth sicrhau bod y wlad yn medru parhau’n weithgar a mwynhau’r holl fuddion iechyd a lles a ddaw o wneud ymarfer corff. Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i geisio barn y sector er mwyn llunio gofynion pellach a sicrhau bod y gronfa hon yn cyd-fynd â’r rhaglenni cefnogi eraill sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r manylion ynglŷn â sut i ymgeisio wrthi’n cael eu penderfynu’n derfynol. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gronfa, ewch i wefan Chwaraeon Cymru.
Dylid anfon cwestiynau neu ymholiadau ynglŷn â grantiau a cheisiadau presennol at: grant.applications@sport.wales.
Sefydliad Steve Morgan
Gohirio ceisiadau arferol er mwyn canolbwyntio ar ddarparu eu Cronfa Argyfwng. Mae £12 miliwn yn cael ei ryddhau dros y 12 wythnos nesaf ar gyfer elusennau sy’n darparu gwasanaethau argyfwng ychwanegol ac ar gyfer y rheini sy’n colli incwm o weithgareddau codi arian er mwyn iddynt barhau i weithredu.
CGGC – wedi’i ddiweddaru
Ar gyfer grantiau/cyllid:
Iechyd a llesiant pawb yw’r peth pwysicaf ar hyn o bryd, sy’n golygu os oes rhaid i chi leihau neu stopio gweithgareddau prosiect er mwyn diogelu staff a/neu’r rheini sy’n gweithio gyda chi, rydyn ni’n deall yn iawn. Rydyn ni’n parhau i gyflwyno sylwadau i gyllidwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a WEFO, y bydd angen iddynt ddangos dealltwriaeth a hyblygrwydd.
Mae’r ymatebion i’r sylwadau hyd hyn wedi bod yn gefnogol ac yn gwerthfawrogi’r amgylchiadau anodd rydyn ni’n eu hwynebu. Gofynnwn i chi ein diweddaru’n gyson ac yna, rhywbryd yn y dyfodol pan fydd pethau’n fwy eglur, gallwn weithio drwy’r effaith a’r newidiadau i’ch prosiect.
Cronfeydd Newydd:
Mae Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol yn rhan o Gronfa Ymateb Covid-19 y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2020. Mae’r gronfa ar gyfer mudiadau gwirfoddol sydd â chostau’n gysylltiedig â’r cynnydd mewn gweithgareddau gwirfoddoli a’r newid i anghenion gwasanaethau mewn ymateb i’r Coronafeirws. Bydd y gronfa’n sicrhau bod gan fudiadau gwirfoddol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol i’w cymunedau yn ystod y cyfnod hwn.
Mae Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru nawr ar agor. Mae’r gronfa hefyd yn rhan o’r £24 miliwn o gymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn gymysgedd o 75% o grant a 25% o fenthyciad di-log a fydd ar gael i fudiadau corfforaethol yn y sector gwirfoddol tuag at gostau gwariant refeniw parhaus, gan gynnwys cyflogau. Gall mudiadau wneud cais am hyd at £75,000.
Croesawodd CGGC gyhoeddiad Canghellor y Trysorlys yn addo cyllid i’r sector gwirfoddol ledled y DU, er y gwyddom na fydd yr ymrwymiad hwn yn mynd yn agos at ddiwallu’r golled sylweddol mewn incwm a brofir gan fudiadau ar draws y sector. Mae CGGC yn parhau i gydweithio â mudiadau ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn adnabod a chasglu tystiolaeth ynglŷn â’r modd yr effeithir ar y sector a’n cymunedau gan y Coronafeirws. Bydd CGGC yn defnyddio’r dystiolaeth hon wrth drafod â Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo i roi gwybod sut orau i ddefnyddio cyfran Cymru o’r gefnogaeth ariannol hon.
Caiff unrhyw geisiadau am grantiau a ddosberthir trwy CGGC mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws eu gwneud trwy MAP. Anogir grwpiau a mudiadau i gofrestru â MAP.
Sefydliad Waterloo – wedi’i ddiweddaru
Mae tîm Sefydliad Waterloo yn gweithio o bell; mae’r llinellau cyfathrebu arferol yn parhau i fod ar agor. Bydd galwadau ffôn yn cael eu trosglwyddo i Reolwr Cyllid arferol y deiliad grant.
Byddan nhw’n gwneud taliadau grant ac yn adolygu ceisiadau yn unol â’u meini prawf cyllido yn ôl yr arfer. Maen nhw hefyd yn annog deiliaid grant cyfredol i gysylltu â’u Rheolwr Cyllid i weld sut gall ef neu hi eu helpu, er enghraifft, drwy symud dyddiadau taliadau neu adroddiadau, neu unrhyw beth arall.
Mae’r sefydliad wedi gwneud cyfraniad o £200,000 i Gronfa Cymorth Coronafeirws Cymru Sefydliad Cymunedol Cymru er mwyn cefnogi grwpiau cymunedol yng Nghymru wrth iddynt ymateb i’r argyfwng.