**Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein cynnig aelodaeth. Os ydych eisioes yn aelod ac yn dymuno adnewyddu, bydd eich aelodaeth yn parhau’n awtomatig am y tro. Os ydych wedi derbyn neges awtomataidd yn gofyn i chi adnewyddu, anwybyddwch y neges hon a byddwn mewn cysylltiad â chi yn fuan.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau aelodaeth newydd tra byddwn yn cynnal yr adolygiad. I fynegi diddordeb mewn dod yn aelod, anfonwch e-bost at aelodaeth@wcva.cymru gyda’ch enw a’ch mudiad a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd yr adolygiad wedi’i gwblhau.**

Oes gennych chi ddiddordeb mewn creu dyfodol gwell a gwella llesiant pawb yng Nghymru?

Rydyn ni’n credu y gallwn wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd, felly beth am ymuno â ni a’n rhwydwaith cynyddol o fudiadau ledled Cymru?

Mae ein haelodaeth ar agor i unrhyw elusen, grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru a bydd dod yn aelod yn:

  • eich cysylltu ag eraill i rannu gwybodaeth ac ysgogi arloesedd a syniadau
  • eich galluogi chi i gyflawni eich llawn botensial fel mudiad
  • sicrhau ein bod yn dylanwadu’n effeithiol, ac yn parhau i fwyhau llais ein sector

Mae ein rhwydwaith cynyddol o aelodau yn cynnwys mudiadau a grwpiau o bob lliw a llun, ac mae’n bwysig iawn i ni fod ein haelodau’n cynrychioli ein cymunedau. O’r grwpiau cymunedol lleiaf i’r mudiadau cenedlaethol mwyaf, mae gennym oll ran i’w chwarae i greu sector sy’n ffynnu yng Nghymru. A chredwn mai’r ffordd gorau o wneud hynny yw gyda’n gilydd.

MAE MANTEISION AELODAETH YN CYNNWYS MYNEDIAD UNIGRYW I:

Wybodaeth reolaidd:

  • Crynhoad polisi a materion cyhoeddus yn fisol
  • Rhifyn chwarterol o ddiweddariad Y Gwahaniaeth, sy’n amlygu’r gwahaniaeth y mae ein haelodau’n ei wneud, syniadau ac awgrymiadau unigryw gan ein cyflenwyr dibynadwy a gwybodaeth am ddigwyddiadau i ddod i aelodau yn unig
  • Sesiynau briffio i aelodau

Cyfleoedd rhwydweithio:

  • Digwyddiadau rheolaidd i aelodau yn unig

Disgowntiau a chynigion:

Gall mudiadau statudol, a mudiadau neu unigolion sy’n gweithio er elw yn y sector gwirfoddol, sy’n rhannu ein gweledigaeth ac sy’n awyddus i gefnogi gweithredu gwirfoddol ledled Cymru hefyd elwa ar ddod yn bartner.

Prisiau a chategorïau

Aelodaeth

Mae aelodaeth ar agor i unrhyw elusen, grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol sy’n gweithio yng Nghymru.

Incwm blynyddol y mudiad Ffi
£0 – £50,000  Rhad ac am ddim
£50,001 – £250,000  £32 y flwyddyn
£250,001 – £1 miliwn £62 y flwyddyn
Dros £1 miliwn £93 y flwyddyn

Os oes gan eich mudiad nifer o ganghennau a hoffech chi dalu am aelodaeth ar ran nifer o ganghennau yn eich rhwydwaith, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at aelodaeth@wcva.cymru i drefnu sgwrs ynghylch ein cynigion swmpaelodaeth.

Partneriaid

Two women laugh as they talk in front of a banner stand

Mudiadau statudol, a mudiadau neu unigolion sy’n gweithio er elw yn y sector gwirfoddol sy’n rhannu ein gweledigaeth, ac sy’n awyddus i gefnogi gweithredu gwirfoddol yng Nghymru.

£125 y flwyddyn

Ymgeisiwch nawr

Dadlwythwch

Categori | Heb gategori |

CGGC – Arweiniad i fanteision ymaelodi

Mwy o adnoddau