Woman sits at desk in windowed modern office, she is using a laptop with a focused expression on her face

Ydych chi’n gymwys i gael hyfforddiant sgiliau digidol am ddim?

Cyhoeddwyd : 12/04/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Newid yn cynnal hyfforddiant sgiliau digidol am ddim i fudiadau sy’n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i grwpiau gwirfoddol ac elusennau.

Fel rhan o Newid: Digidol ar gyfer y trydydd sector, rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd rhaglen hyfforddi sgiliau digidol am ddim yn cael ei chyflwyno’n fuan ar gyfer mudiadau aelodaeth, seilwaith ac ymbarél y sector gwirfoddol.

Bydd cyfranogwyr yn dysgu sgiliau ac yn cael gwybodaeth ac offer a fydd yn eu galluogi i roi gwell cefnogaeth i’r mudiadau y maen nhw’n gweithio gyda nhw ar amrywiaeth eang o bynciau digidol. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys elfen hyfforddi’r hyfforddwr i sicrhau y gellir rhannu sgiliau a gwybodaeth o fewn mudiadau ac ar draws y sector gwirfoddol.

Bydd hyfforddiant ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg.

AR GYFER PWY MAE’R HYFFORDDIANT HWN?

Mae’r hyfforddiant hwn wedi’i anelu at staff sy’n gweithio i fudiadau gwirfoddol sy’n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad i grwpiau gwirfoddol ac elusennau eraill. Mae hyn yn cynnwys mudiadau sydd â rhwydwaith o ganghennau.

Mae mudiadau cymwys:

  • Yn rhoi cyngor, arweiniad neu hyfforddiant i elusennau a grwpiau gwirfoddol eraill, neu i ganghennau o fewn yr un mudiad.
  • Yn gweithio’n bennaf gydag elusennau neu grwpiau gwirfoddol.
  • Eisiau gwella lefel y cyngor a chymorth digidol y maen nhw’n eu rhoi i’r elusennau y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
  • Yn ystyried eu hunain yn fudiad seilwaith, aelodaeth, rhwydwaith neu ymbarél.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich mudiad yn gymwys, cysylltwch â ni (manylion isod).

BETH FYDD YR HYFFORDDIANT HWN YN EI GYNNWYS?

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

  • Cyfres o gyrsiau byr a gyflwynir ar-lein gan arbenigwyr hyfforddiant digidol.
  • Deunyddiau dysgu ar-lein cysylltiedig a chynnwys ychwanegol y cwrs.
  • Adnoddau i gefnogi dysgu parhaus megis canllawiau ‘sut i’ defnyddiol.
  • Sesiwn hyfforddi’r hyfforddwr.
  • Cefnogaeth a chyfleoedd parhaus i rannu profiadau drwy rwydwaith digidol Cymru gyfan ar Yr Hwb Gwybodaeth.

Bydd y cyrsiau byr yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau ar weithio’n ddigidol megis:

  • Cyfathrebu digidol effeithiol
  • Hanfodion cydweithio yn digidol
  • Dylunio profiad defnyddwyr
  • Technoleg y cyfryngau cymdeithasol
  • Datrys problemau gyda digidol
  • Creu prosesau digidol
  • Cyflwyniad i seiberddiogelwch
  • Rheoli data digidol

Bydd cyfranogwyr yn dysgu sgiliau ac yn cael gwybodaeth a fydd yn eu galluogi i roi gwell cefnogaeth i’r mudiadau y maen nhw’n gweithio gyda nhw ar amrywiaeth eang o bynciau digidol.

YMRWYMO AMSER

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal rhwng diwedd mis Ebrill a chanol mis Gorffennaf, a bydd yr union ddyddiadau a hyd yn cael eu pennu ar sail canlyniadau’r dadansoddiad o anghenion hyfforddi. Bydd tua phum sesiwn ryngweithiol hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn yn cael eu cyflwyno ar-lein.

Y CAMAU NESAF

  1. Cofrestrwch eich diddordeb mewn cymryd rhan yn yr hyfforddiant drwy ddefnyddio’r ffurflen fer yma. Mae’r ffurflen ar gael yn y Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.
  2. Bydd CGGC yn cysylltu â chi i gadarnhau a yw eich mudiad yn gymwys i gymryd rhan yn y cylch hyfforddi hwn.
  3. Bydd cyfranogwyr cymwys ar gyfer yr hyfforddiant yn cael dolen i gwblhau’r arolwg archwilio sgiliau – bydd yr archwiliad hwn yn llywio datblygiad a chynnwys yr hyfforddiant.
  4. Bydd CGGC mewn cysylltiad yn ystod yr wythnosau nesaf gyda manylion dyddiadau, hyd sesiynau, a sut i gadw lle.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyfforddiant, cysylltwch â Swyddog Digidol ac Arloesedd CGGC, Hannah Bacon yn hbacon@CGGC.cymru.

Cofrestrwch eich diddordeb erbyn 3 Mai 2022.

CAPASITI

Rhaglen hyfforddi beilot yw hon gyda nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. Ein nod yw cynnig lleoedd i gynifer o fudiadau â phosibl ar yr hyfforddiant hwn. Rydyn ni’n gobeithio gallu cynnig hyd at ddau le i bob mudiad. Os oes gormod o alw am y cwrs gellir adolygu nifer y lleoedd i bob mudiad a dechrau rhestr aros ar sail y cyntaf i’r felin.

BETH YW NEWID?

Rhaglen beilot gyffrous yw Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector sy’n datblygu a chefnogi sgiliau digidol y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a CGGC, wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i chefnogi gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Gellir cael gwybodaeth am waith y tri phartner drwy ddilyn y dolenni isod.

https://wcva.cymru/cy/yn-cyflwyno-newid-digidol-ar-gyfer-y-trydydd-sector/

https://cymru.coop/newid-digital-support-for-the-third-sector/

https://medium.com/newid-cymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy