Rydym yn falch o gyhoeddi bod y nawfed rownd o’r Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi bellach ar agor i geisiadau. Ar gyfer y brîf grantiau rhwng £5,000 – £49,000 a phrosiectau Cenedlaethol Arwyddocaol.
Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau yw 8 Ionawr 2023, fydd prosiectau llwyddiannus yn cychwyn yn Ebrill 2023.
Os oes gennych chi syniad prosiect a fyddai o fudd i’r gymuned, edrychwch i weld os ydych chi’n gymwys trwy ymweld a’n gwefan a defnyddio y map i weld lle mae’r lleoliadau cymwys.
Bydd Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar Fioamrywiaeth, Lleihau Gwastraff a Dargyfeirio Gwastraff o Safleoedd Tirlenwi a Gwelliannau Amgylcheddol Ehangach.
Mae’r wyth rownd flaenorol o LDTCS wedi ariannu rhai prosiectau gwych sy’n gwneud gwelliannau amgylcheddol cadarnhaol y neu ardal gyda chefnogaeth y gymuned. O ailgyflwyno ‘pine martens’ i ailddefnyddio plastig wedi’i daflu, mae yna amrywiaeth o weithgaredd yn digwydd ledled Cymru.
Gallwch ddarllen mwy am y prosiectau sydd eisoes ar waith yng Nghymru yma.
GRANT CENEDLAETHOL ARWYDDOCAOL
Mae’r rownd yma hefyd ar agor i geisiadau i’r grant cenedlaethol arwyddocaol, sydd yn cynnig cyllid ar gyfer un prosiect o bwys cenedlaethol sydd â gwerth rhwng £50,000 – £250,000 a fydd yn cyfrannu at ddwy neu fwy o themâu’r gronfa.
CYMORTH AC ARWEINIAD
Rydym yn cael llawer iawn o geisiadau sy’n gwneud y broses ariannu’n un gystadleuol iawn. Os hoffech gymorth ac arweiniad i ddatblygu prosiect gallwch gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol yn rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru yma.
SUT I WNEUD CAIS
Er mwyn cyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Cais Amlbwrpas (MAP) CGGC. Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy nodi’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.
Gall mudiadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan https://map.wcva.cymru.
Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo yma.
Os oes gennych gwestiwn am Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi cysylltwch â Thîm Cronfeydd Grant WCVA drwy ebostio ldtgrants@wcva.cymru