menyw ar liniadur mewn caffi yn gwenu gyda ffonau clust

Ydych chi wedi gwirio’ch manylion ar y gofrestr elusennau newydd?

Cyhoeddwyd : 09/12/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Ym mis Medi fe lansiodd y Comisiwn Elusennau fersiwn newydd o’r gofrestr elusennau ar-lein.

Mae’r gofrestr ar-lein yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd ynglŷn ag elusennau unigol a rhestrir pob elusen gofrestredig yno.

Dywedodd Helen Stephenson, Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn, mai ei phrif uchelgais ar gyfer y gofrestr newydd “yw ei bod yn cael ei ddefnyddio, a’i defnyddio’n fwyfwy eang, i gynorthwyo pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â’r elusennau yr hoffen nhw eu cefnogi… Wrth i bobl wneud y penderfyniadau hynny mae’n hanfodol eu bod nhw’n gwybod i ble i fynd i wirio os yw mudiad sy’n gofyn iddyn nhw am gefnogaeth yn elusen gofrestredig sydd wedi’i hamddiffyn yn briodol.”

Mae’r Comisiwn eisiau i elusennau fod yn agored a thryloyw ynglŷn â’u dulliau o weithredu ac o wario’u harian.

Mae’r gofrestr ar-lein newydd yn darparu gwybodaeth fanylach ynglŷn ag elusennau unigol, ac ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen adborth hon i ddweud wrth y Comisiwn beth rydych chi’n feddwl (Saesneg yn unig)                    

Bydd cofnod pob elusen bellach yn arddangos yn gliriach os yw’r elusen wedi bod yn destun camau rheoleiddio neu os yw’n bryder parhaus. Bydd cofnodion yn dangos sawl aelod o staff sy’n derbyn cyflog o £60,000 neu uwch. Byddant hefyd yn nodi os caiff ymddiriedolwyr eu cydnabod am eu gwaith ac yn rhestru’r polisïau sydd yn eu lle gan elusen, o ddiogelu i wrthdrawiadau buddiannau a buddsoddiadau.

Yn ogystal, bydd y gofrestr yn ei gwneud yn haws i ymchwilwyr gael mynediad i ddata ynglŷn ag elusennau a’i lawrlwytho.

Os ydych chi’n elusen gofrestredig, byddem yn argymell eich bod yn ymweld â’r gofrestr ac yn gwirio’ch cofnod er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol ac nad yw’n cynnwys camgymeriadau amlwg. Cofiwch, mae’n gyfrifoldeb ar yr ymddiriedolwyr i sicrhau bod y Comisiwn yn derbyn gwybodaeth gywir ynglŷn â’ch elusen.

Arweiniad i Ymddiriedolwyr

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf i elusennau ynglŷn â’r coronafeirws, gweler tudalen canllawiau coronafeirws y Comisiwn Elusennau.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy