Mae’r grŵp cyflawni a chydymffurfio yn cynnwys cynrychiolwyr traws-sector sy’n ymwneud â chyflawni gweithrediadau ESF ac ERDF. Cynrychiolwyr y sector gwirfoddol yw Tessa White (CGGC) a Joanne Jones (Canolfan Cydweithredol Cymru).
Yn y cyfarfod diweddaraf, gofynnwyd i’r sector roi adborth ar effeithiau Covid 19 ar gyflawni prosiectau a ariannwyd gan yr UE. Tynnwyd sylw at y pwyntiau allweddol canlynol –
- Mae ymgysylltu â busnes yn profi’n heriol yn yr amgylchedd presennol
- Mae rhai sefydliadau wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau, a fydd yn effeithio ar ddarpariaeth
- Mae rhai sefydliadau, yn enwedig y rhai sy’n cefnogi cyfranogwyr ag anghenion ychwanegol a/neu gymhleth, yn ei chael yn anodd cyflawni o bell a bydd yn effeithio’n sylweddol ar dargedau
- Mae symud y ddarpariaeth ar-lein wedi bod yn broblem i rai – llafurddwys, diffyg adnoddau a sgiliau angenrheidiol
Mae’r sector yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r materion hyn ac rydym yn monitro effeithiau parhaus Covid-19 yn gyson ar gyflawni er mwyn ceisio nodi atebion.
Os ydych yn sefydliad trydydd sector sy’n wynebu problemau mewn perthynas â phrosiect a ariennir gan ESF/ERDF (hynny drwy un o brosiectau A Ariennir gan Ewrop CGGC fel y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol, y Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol neu drwy brosiectau sy’n cael eu rhedeg gan arweinwyr eraill y trydydd sector) ac os hoffech siarad â rhywun i nodi llwybrau cymorth posibl cysylltwch â ni yn y tîm 3-SET, rydym yma i helpu.
Gallwch hefyd ymweld â’r wefan https://wcva.cymru/cy/projects/3-set-cy/ , neu ffoniwch ni ar 0300 111 0124. Gallwch hefyd gofrestru i gael diweddariadau rheolaidd ar fyd cyllid Ewropeaidd yn ogystal â chylchlythyr misol 3-SET a diweddariadau ariannu.
Os hoffech chi gael diweddariadau ebost ar yr holl newyddion COVID-19 perthnasol i sector gwirfoddol Cymru, cofrestrwch yma.