Welsh civil society delegates stand smiling in a hallway at an EU parliament building, backed by European flags

Y Trydydd Sector yn Ewrop – #CivilSocietyTogether

Cyhoeddwyd : 17/02/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Ar ddechrau mis Chwefror, gwnaeth mudiadau trydydd sector amrywiol o bob cwr o Gymru gymryd rhan mewn taith a ariannwyd gan Gronfa Bontio’r UE Llywodraeth Cymru. Nod y daith oedd adeiladu ar ymrwymiad y Prif Weinidog pan ddywedodd, “efallai ein bod yn gadael sefydliadau Ewrop, ond rydym yn parhau i fod yn rhan o Ewrop”.

Gwnaeth y daith hon alluogi cynrychiolwyr i archwilio ac ymhél â sgyrsiau gydag amrywiaeth o fudiadau a rhwydweithiau Ewropeaidd, gan weithio ar amrediad o faterion a phroblemau a gaiff eu hadlewyrchu ledled Ewrop a thu hwnt. Roedd y meysydd o ddiddordeb yn cynnwys hawliau dinasyddion, balchder bro, iechyd a gofal, tlodi, democratiaeth gyfranogol a gweithredu cymdeithasol, ymhlith pethau eraill.

Rhoddodd y cyfarfodydd gyfle i ni ystyried sut gellid cynnal y cysylltiadau cyfredol a chreu rhai newydd, nawr bod y DU wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn swyddogol.

Y neges a glywyd drwy gydol y daith oedd nad oedd rhwydweithiau Ewrop ar gau i Gymru. Mae brwdfrydedd ac angerdd gwirioneddol i sicrhau bod ein gwerthoedd cyffredinol yn cael eu defnyddio fel sylfaen i adeiladu cydberthnasau yn y dyfodol er budd ein cymunedau mwyaf amddifad.

Dywedodd Phil Fiander, Dirprwy Prif Weithredwr CGGC ‘Mae’n amser pwysig i ymgysylltu â chymdeithas sifil ledled Ewrop wrth inni ddechrau’r berthynas newydd hon gyda’n partneriaid Ewropeaidd. Mae’r prosiect Ewropeaidd bob amser wedi ymwneud â mwy na fusnes yn unig, mae wedi ymwneud â heddwch a dod â phobl ynghyd.

Roedd hyn yn gyfle gwych i gymdeithas sifil hyrwyddo a meithrin cysylltiadau ar gyfer y dyfodol fel y gallwn aros yn rhan allweddol o wead Ewrop. Mae’r ymateb yn ystod ein hymweliad gan ein cymheiriaid yn Ewrop wedi bod yn dim byd yn brin o anhygoel, ac mae’n mae’n wych gwybod ein bod ar yr un dudalen a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd am flynyddoedd i ddod.’

Dywedodd Charles Whitmore, Cydlynydd Fforwm Cymdeithas Sifil Brexit, ‘Mae Cymdeithas Sifil yn gydran hanfodol i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn parhau i fod yn genedl â meddwl agored rhyngwladol. O wirfoddoli rhyngwladol a thrawsffiniol i rannu gwybodaeth ac arferion da, mae’n hanfodol ein bod ni, fel Cymdeithas Sifil, yn cadw’r cysylltiadau a’r deialog sydd wedi’u sefydlu rhwng Ewrop a Chymru yn fyw, er gwaethaf Brexit’

I gael gwybod rhagor am waith y prosiect Grymuso Cymunedau yng Nghyd-destun Brexit, a ariannodd y gwaith hwn, dewch i’n sesiwn yn Gofod3. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gofrestru, cliciwch yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/09/23 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/09/23 | Categorïau: Dylanwadu |

Ailgydbwyso iechyd & gofal: ‘adnoddau cyfyngedig’ yn rhwystr i’r weledigaeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/06/23 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2023 – Wythnos i fynd!

Darllen mwy