Wrth siarad yn gofod3, roedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Sioned Williams, yn glir yn ei neges y bydd y sector gwirfoddol yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni blaenoriaethau Cymru.
Wrth agor prif ddigwyddiad CGGC, amlinellodd y Dirprwy Brif Weinidog – sydd hefyd â chyfrifoldeb Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldebau – weledigaeth ar gyfer cymunedau ledled Cymru sy’n rhoi pobl, partneriaeth ac atal wrth ei chraidd, gyda mudiadau gwirfoddol yn hanfodol i wireddu’r weledigaeth honno.
O fynd i’r afael â thlodi plant i wella iechyd a llesiant, tynnodd yr araith sylw at sut mae gwreiddiau dwfn y sector mewn cymunedau, ei berthnasoedd dibynadwy a’i allu i weithredu’n gynnar yn ei wneud yn hollbwysig i sicrhau newid hirdymor.
AGENDA GYFFREDIN AR GYFER NEWID
Mae llawer o’r ymrwymiadau a amlinellwyd yn adleisio’r blaenoriaethau ym maniffesto sector gwirfoddol CGGC, yn enwedig yr angen am:
- Cyllid cynaliadwy, tymor hwy
- Mwy o gyfranogiad wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau
- Gweithio mewn partneriaeth yn gryfach ar draws sectorau
- Ffocws ar atal ac atebion dan arweiniad cymunedau
Cydnabu’r Dirprwy Brif Weinidog, er bod sylfeini cryf yng Nghymru, bod systemau, cyllid a phenderfyniadau yn rhy aml yn parhau’n dameidiog, gan ei gwneud hi’n anos i gymunedau a mudiadau chwarae eu rhan yn llawn.
Cafwyd hefyd gydnabyddiaeth bod potensial y sector wedi’i gyfyngu gan gyllid tymor byr, dulliau sy’n osgoi risg a chyfleoedd cyfyngedig i gydgynhyrchu polisi a gwasanaethau.
ARFAU ANGHYFRINACHOL CYMRU
Yn un o uchafbwyntiau’r araith, disgrifiwyd y sector gwirfoddol fel ‘arf anghyfrinachol’ y Llywodraeth – gan adlewyrchu’r rôl unigryw y mae mudiadau yn ei chwarae wrth ddeall ac ymateb i anghenion cymunedol.
Mae’r pwyslais ar gydgynhyrchu, gweithio ar sail lle a chydweithio yn arwydd o symudiad tuag at bartneriaeth fwy cyfartal rhwng y llywodraeth a’r sector.
DOD Â’R NEGES YN FYW
Cafodd cynadleddwyr yn gofod3 hefyd weld dangosiad cyntaf ffilm newydd bwerus gan Geithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, Oherwydd Doedden Ni Ddim Yno…
Mae’r ffilm yn cyfleu sut y gallai cymunedau edrych heb fudiadau gwirfoddol – gan dynnu sylw at y cymorth hanfodol maen nhw’n ei ddarparu bob dydd, o fynd i’r afael ag unigedd i greu cyfleoedd i bobl ifanc.
Mae’n atgyfnerthu’r un neges a glywyd drwy gydol y gynhadledd: nad yw mudiadau gwirfoddol yn rhywbeth ychwanegol dewisol, ond yn seilwaith hanfodol ar gyfer cymunedau ffyniannus ac yn bartner hanfodol ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus.
Gallwch wylio’r fideo yma.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF
Mae arwyddion cadarnhaol o newid eisoes, gan gynnwys ymrwymiadau i wella arferion cyllido ac i gynnwys y sector yn fwy ystyrlon wrth ddatblygu polisi.
Ond fel y gwnaeth trafodaethau yn gofod3 yn glir, bydd cynnydd gwirioneddol yn dibynnu ar droi’r weledigaeth hon yn weithred, a sicrhau bod gan y sector gwirfoddol:
- Lais cyson wrth y bwrdd
- Yr adnoddau a’r sefydlogrwydd i gynllunio ar gyfer y tymor hir
- Yr ymddiriedaeth a’r lle i arwain ochr yn ochr â’r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus
Wrth i Gymru edrych tua’r dyfodol, mae’r neges o gofod3 yn glir: dim ond drwy bartneriaethau cryfach y caiff cymunedau cryfach eu hadeiladu – gyda’r sector gwirfoddol wrth eu calon.
CADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Os hoffech gadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf, beth am ddod yn Bartner CGGC (mae am ddim!) a gallwch gofrestru i dderbyn ein crynodeb polisi a gwleidyddiaeth.