Two women sit on a sofa looking through an old sketch book

Y Prosiect Attic

Cyhoeddwyd : 16/03/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd yn helpu pobl i fyw’n annibynnol drwy eu cynorthwyo i gael gwared ar yr annibendod yn eu cartrefi. Yn ogystal â chyflawni nodau ymarferol fel galluogi addasiadau neu waith trwsio i gael eu gwneud i’r cartref, mae’r gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi i helpu pobl i edrych ar yr atgofion sy’n gysylltiedig â’u heiddo ac i’w nodi mewn ffyrdd ystyrlon.

Sut ddechreuodd y prosiect

Daeth y prosiect Attic i fod pan wnaeth dau fudiad a oedd yn gweithio gyda phobl hŷn yn y gymuned sylweddoli y gallent gyflawni mwy drwy weithio gyda’i gilydd.

Deilliodd enw’r prosiect o’r adeg pan oedd pobl hŷn yn gymwys i gael grantiau ar gyfer inswleiddio’r atig er mwyn gwneud eu tai’n gynhesach, ond yn canfod nad oeddent yn gallu gwneud cais am nad oeddent yn gallu gwacau’r atig yn ddigonol i roi mynediad i’r dynion gwaith. Gwnaeth Gofal a Thrwsio ganfod hefyd nad oeddent yn gallu gwneud y gwaith trwsio yr oeddent i fod i’w wneud i gartrefi llawer o bobl gan fod ganddyn nhw ormod o eiddo, ac nid oedd unrhyw wasanaethau ar gael i helpu i’w symud neu ei waredu’n briodol.

Yn y cyfamser, roedd Gwasanaethau Gwirfoddol Cymunedol Caerdydd (sydd wedi uno â Cymru Ddiogelach erbyn hyn), yn ymwneud â phrosiect treftadaeth a oedd yn nodi a chofnodi hanes llafar.  Roedden nhw’n cydnabod gwerth galluogi a chofnodi straeon a oedd yn gysylltiedig ag eiddo pobl – nid yn unig fel hanes llafar, ond hefyd fel ffordd o alluogi pobl i edrych ar eu hatgofion a’u hidlo, er mwyn cadw’r hyn sy’n bwysig ar ffurf gyffyrddadwy neu ddigidol, a gadael fynd o’r ‘annibendod’ nad oedd â diben mwyach.

Gwnaeth sgiliau ymarferol Gofal a Thrwsio ac arbenigedd gwirfoddolwyr Cymru Ddiogelach mewn llywio atgofion a chasglu a chyfathrebu straeon ddod ynghyd i ddatblygu’r prosiect Attic yn 2017.

Yn dilyn ymgynghoriad â grwpiau cymunedol, awgrymwyd mai cymorth ‘ysgafn’ i wacau atigau ac ystafelloedd llawn annibendod oedd yr hyn a oedd ei angen fwyaf.

Y gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth i bobl 50 oed a hynach. Gall cyfeiriadau ddod gan yr unigolion eu hunain, ysbytai neu dimau iechyd cymunedol, gwasanaethau cymdeithasol, cymdeithasau tai, iechyd yr amgylchedd neu gan fudiadau’r trydydd sector. Mae gweithiwr achos yn ymweld â’r lle i ddechrau i asesu’r anghenion a nodi pa wasanaethau fyddai orau i’w diwallu. Gall Gofal a Thrwsio gyfeirio pobl, er enghraifft, at y gwasanaethau tân i gael asesiad diogelwch yn y cartref; gellir rhoi cyngor ar gael gwared ag annibendod a threfnu i gael gwared ag eitemau diangen a gellir cynnal adolygiad ar hawl yr unigolyn i fudd-daliadau. Efallai gofynnir am wirfoddolwr o’r prosiect Attic. Os felly, bydd cydlynydd y prosiect yn ymweld â’r lle i drafod blaenoriaethau, asesu risgiau a diffinio’r dasg cyn paru’r cleient â gwirfoddolwr, ar sail argaeledd, lleoliad a rhesymau personol fel alergeddau anifeiliaid anwes.

‘Fel arfer, bydd gwirfoddolwyr yn treulio dwy awr yr wythnos dros gyfnod o 10 wythnos â chleient, ond mae hyn yn hyblyg. Gall gwirfoddolwyr helpu’r cleient i ddychymygu sut hoffai i’r ystafell edrych, a gwireddu’r syniad hwnnw’ meddai Catherine Linnie-Godden, cydlynydd prosiect atgofion Cymru Ddiogelach.

‘Weithiau, y cwbl sydd angen i ni ei wneud yw darparu ychydig o focsys, neu gael gafael ar eitemau sydd allan o gyrraedd pobl er mwyn iddyn nhw fynd drwyddyn nhw. Ar adegau eraill, ni all pobl ymdopi. Maen nhw angen rhywun i wrando arnyn nhw a’u hysgogi’.

Mae gwirfoddolwyr yn ymdrechu’n galed i gael gwared ag eitemau diangen mewn modd cyfrifol – drwy fynd â nhw i siop elusen neu at rywun y gallai eu defnyddio, neu fynd â nhw i’w hailgylchu.

Pan fydd unigolion eisiau hel meddyliau am bethau, bydd gwirfoddolwyr yn treulio amser â nhw’n siarad am yr atgofion y tu ôl i’r eiddo gwerthfawr. Gallan nhw helpu drwy nodi straeon oes drwy wrthrychau sy’n dwyn atgofion arwyddocaol, gan gymryd lluniau ohonynt a gwneud DVD i’r cleient ei gadw neu gynorthwyo cleient i greu blwch atgofion, er enghraifft. ‘Mae cofnodi’r straeon hyn yn ymwneud â deall pwy ydyn ni’, eglurodd Catherine, ‘gall fod yn ffordd o ddechrau sgwrs ac yn fodd o rannu’r hyn sy’n bwysig i ni, gydag eraill’.

Gwneud gwahaniaeth

Mae adroddiad effaith, ‘Y Prosiect Attic – Y Stori Hyd Yma’, yn amlygu i ba raddau y gall annibendod, a chronni eitemau effeithio ar bobl sy’n agored i niwed, a’r gwahaniaeth y mae’r prosiect wedi’i wneud i wella amgylcheddau mewn cartrefi a gwella iechyd a lles unigolion.

Weithiau, mae angen clirio ystafelloedd cyn gall cleifion gael eu rhyddhau o’r ysbyty, fel bod lle i wely neu gyfarpar angenrheidiol ac er mwyn i nyrsys allu dod i mewn.

Gorfu i Katharine, er enghraifft, newid ystafell lawr stâr yn ystafell wely, cyn y gallai ei gŵr gael ei ryddhau â salwch angheuol. ‘Cefais fy mharu â dau wirfoddolwr’, meddai. ‘Roedd ganddyn nhw gymaint o empathi. Wnaethon nhw ddim fy ngorfodi i gael gwared ag unrhyw beth, ond gwnaethon nhw wneud i fi eisiau gwneud hynny. Rhoddon ni 30 o fygiau i loches i bobl ddigartref. Roedd gwybod bod pethau’n mynd at achos da’n gwneud pethau’n haws.’ Gallodd gŵr Katharine dreulio gweddill ei amser yng nghysur ei gartref, gyda’i deulu.

Roedd angen help ar Jane ar ôl llawdriniaeth ar ei chlun fel bod ganddi ddigon o le i ddefnyddio ffrâm gerdded o gwmpas ei chartref.  Dywedodd ‘Pan symudais i le llai o faint, bydden i’n dweud wrth fy hun o hyd y bydden i’n mynd drwy’r bocsys, ond roeddwn i’n gweithio’n amser llawn ac yn cerdded yn gloff gyda chlun wael’. Nid oedd ganddi deulu’n byw gerllaw ac roedd yn dioddef rhywfaint ag iselder. Gallodd y prosiect Attic helpu. Mae Jane bellach wedi gwneud adferiad llawn ar ôl ei llawdriniaeth ac mae’n mynychu’r grŵp atgofion misol.

Daw straeon oes i’r wyneb wrth gael gwared ag annibendod, sy’n bwysig i gleientiaid a’u hanwyliaid. Dywedodd Catherine, Cydlynydd y Prosiect Atgofion, ‘bu un cleient yn siarad am lyfr a ysgrifennwyd gan ei gŵr a oedd yn dangos iddi gymaint yr oedd yn ei charu.  Roedd gan un arall drysorau teuluol nad oedd yn gwybod beth i’w wneud â nhw. Trefnodd y gwirfoddolwr iddynt gael eu rhoi i Amgueddfa Stori Caerdydd. I un wraig weddw, roedd offer a oedd yn eiddo i’w gŵr yn parhau i ddwyn atgofion iddi ohono; gwnaeth gwirfoddolwr lwyddo i’w helpu i siarad amdanynt, i gadw’r atgofion a gadael fynd o’r offer.

‘Roedd gwneud crefftau wedi bod yn rhan bwysig o fywyd un fenyw, er na allai gymryd rhan mewn gwaith mor fanwl mwyach. Helpodd y gwirfoddolwr hi i gofnodi’r atgofion a dod o hyd i rywun priodol i roi’r offer a’r defnyddiau yr oedd wedi’u casglu dros y blynyddoedd iddo.’

Mae gan y prosiect Attic bedwar prif nod: galluogi pobl i fyw’n fwy cysurus yn eu cartrefi eu hunain, lleihau unigrwydd drwy alluogi pobl i hel atgofion, lleihau’r effaith ar yr amgylchedd drwy gael gwared ag eitemau diangen mewn modd cyfrifol a galluogi gwirfoddoli.

Y cyfuniad o gymorth ymarferol ac emosiynol yw’r hyn sy’n gwneud y prosiect Attic mor arbennig. Yn ogystal â chyflawni’r canlyniadau ymarferol a ddymunir, ac sydd eu hangen ar frys weithiau, mae’n helpu pobl i ennyn sgiliau clirio annibendod, i rannu straeon ac atgofion ac i leihau teimladau o unigrwydd.

Gwersi a ddysgwyd a heriau a wynebwyd

Mae recriwtio digon o wirfoddolwyr i ateb y galw’n her. Mae nifer y gwirfoddolwyr wedi cynyddu i 20-25 dros ddwy flynedd, y rhan fwyaf ohonynt dros 50 mlwydd oed. Mae’n well gan rai ganolbwyntio ar glirio’r annibendod tra bod eraill yn ymddiddori yn y gwaith atgofion.  Mae’r holl wirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi yn y ddwy elfen a chânt eu paru â chleientiaid, ar sail eu diddordebau a’u lleoliad. Yn aml, cael gwared â’r annibendod yw’r angen cyntaf er mwyn mynd i’r afael â phroblem a nodwyd; yn aml, bydd y gwaith o hel atgofion yn dilyn ymlaen o hyn yn naturiol.

Mae rhestr aros am wirfoddolwyr (roedd oddeutu 75 o gleientiaid yn aros yr haf diwethaf), felly mae angen rhedeg gwasanaeth tynn sy’n deg ac yn effeithiol. Golyga hyn bod angen i wirfoddolwyr ganolbwyntio ar un flaenoriaeth glir gyda phob cleient.

‘Gwnaethom ddysgu bod angen i ni gyfyngu’r amser y bydd gwirfoddolwr yn ei dreulio gyda chleient’, meddai Catherine, ‘oherwydd nid gwasanaeth cyfeillio rydyn ni’n ei gynnig a’r syniad yw peidio â chreu dibyniaeth. Ar y dechrau, canfuom fod cleientiaid yn symud y pyst gôl fel bod y gwirfoddolwr yn aros mewn cysylltiad am gyfnod hirach’.

Ond i gleientiaid, gall fod yn anodd pan fydd gwirfoddolwr wedi stopio ymweld â nhw. Gan gydnabod yr angen parhaus, dechreuwyd sesiynau atgofion misol yng Nghaerdydd a Chasnewydd, a gwahoddwyd pob cleient i’r rhain. Yma, gallant gwrdd â chleientiaid a gwirfoddolwyr eraill a chymryd rhan mewn sesiynau atgofion. ‘Gallwn ofyn i bobl ddod ag eitem sy’n dwyn atgofion arwyddocaol iddynt, ac i siarad amdanynt’, meddai Catherine. Gallant hefyd glywed am ffynonellau eraill o help neu gefnogaeth yn y gymuned.

Er mai cymorth ‘ysgafn’ oedd yr angen a ragwelwyd, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn ymwneud ag unigolion sy’n agored i niwed; mae gan y rhain anghenion cymhleth ac maen nhw wedi mynd yn ‘gaeth’ i’w sefyllfa mewn un ffordd neu’i gilydd. Y rhain yw’r unigolion sy’n cael y budd mwyaf o’r prosiect.

Ble nesaf?

Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae’r prosiect yn gobeithio dangos ei effaith yn well o ran lleihau’r achosion o gwympo, gwella diogelwch tân a lleihau oediadau mewn rhyddhau pobl o’r ysbyty, yn ogystal â dangos y cysylltiadau rhwng clirio annibendod yn eich cartref a’r potensial am weithgarwch atgofion, sy’n lleihau teimladau o unigrwydd ac sydd o fudd i lesiant unigolyn.

Mae’r prosiect Attic ar waith mewn tair sir ar hyn o bryd, ond mae’n gobeithio ehangu i rannau eraill o Gymru hefyd.

Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gynorthwyo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/03/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Lansio Wythnos Gwirfoddolwyr 2023 yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/03/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Ymunwch â’r Help Llaw Mawr i ddenu mwy o wirfoddolwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/03/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

A allech chi fod yr aelod newydd o’r banel annibynnol IiV Cymru?

Darllen mwy