behind of woman's head gesturing

Y gynhadledd gaffael genedlaethol yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyhoeddwyd : 21/01/20 | Categorïau: Newyddion |

Cyfleoedd newydd i sefydliadau gwirfoddol wrth i Procurex Cymru gyhoeddi dyddiad yng Nghaerdydd a gwahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau GO.

Cynhelir Procurex Cymru yn Arena Motorpoint, Caerdydd ddydd Mercher 18 Mawrth, sef diwrnod cyn ein digwyddiad Gofod3.

Procurex Cymru yw digwyddiad caffael mwyaf y wlad a gynlluniwyd i gynorthwyo prynwyr a chyflenwyr i ymateb i heriau effeithlonrwydd y presennol a’r dyfodol a darparu cyfleoedd, sgiliau a gwybodaeth i’r rhai sy’n rhan o’r broses gaffael.

Mae CGGC yn un o bartneriaid swyddogol y digwyddiad a bydd ein Rheolwraig Risg, Caffael a Llywodraethu, Emma Waldron, yn siarad yno.

Gwobrau Go Cymru 

Emma yw un o feirniaid Gwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth (GO) Cymru, sy’n dathlu Rhagoriaeth ym maes Caffael Cyhoeddus ac mae’n gyfle gwych i’ch sefydliad ddathlu ac arddangos ei gyflawniadau yn y maes caffael.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 31 Ionawr 2020 a gallwch gofrestru eich cais gan ddefnyddio’r ddolen hon.

‘Mae’n bleser gennyf fod yn rhan o Procurex a Gwobrau Go Cymru fel siaradwr a beirniad,’ meddai Emma.

‘Gyda rhwystrau gwleidyddol ar y gorwel, mae sicrhau ein bod yn cydweithio ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen, ac mae Procurex yn ein cynorthwyo i gyflawni hyn.

‘Edrychaf ymlaen yn fawr at ddarllen drwy’r ceisiadau am y gwobrau i weld sut y mae ystod o sefydliadau wedi arddangos rhagoriaeth yn y maes caffael. Mae’r digwyddiad yn gyfle unigryw i Gymru arddangos ei sgiliau, ei thalentau a’i hangerdd.’

Mae croeso i’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol fynychu Procurex am ddim, ac mae’n gyfle gwych i rwydweithio ac ymgysylltu â thros 1,100 o gydweithwyr o wahanol sectorau.

Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer y digwyddiad: https://www.procurexwales.co.uk/book-now/.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy