Cwpl yn siarad ag arbenigwr Iechyd tra'n eistedd ar soffa

Y Gweinidog Iechyd a’r sector yn trafod cyllid ‘aml-flwydd’ ar gyfer mudiadau

Cyhoeddwyd : 04/12/23 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn i swyddogion weithio gyda’r sector gwirfoddol i edrych ar sut y gellir ariannu prosiectau a rhaglenni dros sawl blwyddyn.

Y MATERION

Yn aml iawn, mae’r sector sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn ddibynnol ar gytundebau ariannu blwyddyn o hyd ac mae hyn yn arwain at lawer iawn o ansicrwydd. Er enghraifft, mae hyn yn ei gwneud yn anodd blaengynllunio, arloesi, recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr.

Trafodwyd nifer o faterion yn y cyfarfod diweddar rhwng y Gweinidog, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl ac Iechyd y Sector Gwirfoddol, a’r Grŵp Cynllunio Gofal Cymdeithasol (rhwydwaith o gynrychiolwyr y sector gwirfoddol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol). Mynegodd y sector bryder ynghylch y toriadau yn y gyllideb y gofynnwyd i Fyrddau Iechyd ac awdurdodau lleol ddod o hyd iddyn nhw a thrafodwyd sut y dylai’r sector fod yn bartner arwyddocaol yn y sgwrs am ddod o hyd i atebion i heriau a rennir.

Y PRIF ‘OFYNIAD’

Y prif ‘ofyniad’ gan y sector yn y cyfarfod oedd i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidogion hyrwyddo’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector diwygiedig i’w swyddogion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a dwyn y cyrff cyhoeddus hynny i gyfrif yn erbyn egwyddorion y Cod. Codwyd pwysigrwydd trefniadau ariannu aml-flwydd yn rhan o’r drafodaeth hon. Mynegodd y Gweinidog ddealltwriaeth o’r problemau y gall cyllid un flwyddyn eu hachosi i fudiadau’r sector ac mae wedi cyfarwyddo ei swyddogion i fynd ar drywydd yr agenda hon ymhellach ar y cyd â CGGC a’r sector gwirfoddol.

Mewn rhan arall o’r sgwrs, trafododd y Gweinidog a’r sector y canlynol:

  • Pwysigrwydd trin y sector gwirfoddol fel partner cyfartal, a phwysigrwydd defnyddio cyllid o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn effeithlon ac effeithiol – gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau bod lleiafswm o 20% yn cael ei fuddsoddi mewn mudiadau gwerth cymdeithasol yn y sector.
  • Yr angen i gontractau nodi canlyniadau clir, ond i Gomisiynwyr ymddiried yn y sector gwirfoddol a’i rymuso i benderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau.
  • Y gwahaniaeth y gall y sector gwirfoddol ei gynnig ym maes rhyddhau o’r ysbyty.
  • Materion yn ymwneud â sicrhau bod y sector statudol yn clywed lleisiau’r gymuned i helpu i atal a lleihau anghydraddoldebau iechyd mewn polisi ac ymarfer.

Meddai Kate Young, Cyfarwyddwr y Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr, a chynrychiolydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector:

‘Fel sector, roedden ni’n falch o glywed bod y Gweinidogion yn rhannu’r farn y dylai mudiadau trydydd sector gael eu trin fel partneriaid cyfartal. Mae’n hanfodol bod y Cod Ymarfer Ariannu yn dod yn sail i’r ffordd mae gwasanaethau’r sector cyhoeddus yn gweithio i gyd-ddylunio a chomisiynu gwasanaethau. Mae dyfroedd garw o’n blaenau i gymunedau a gwasanaethau eu llywio, ond os gwnawn hynny gyda thryloywder ac ymgysylltu cynnar, gallwn sicrhau nad yw’r trydydd sector yn dod yn glaf anfwriadol, ond yn parhau i fod yn bartner craidd cryf a gwydn wrth ddarparu atebion ac arfer da i wasanaethau.’

Cyn y cyfarfod, cyflwynodd y Grŵp bapur i Lywodraeth Cymru o’r enw Llywio toriadau cyllid: rôl y trydydd sector fel partneriaid allweddol.

AM RAGOR O WYBODAETH

I ddysgu rhagor am waith Grŵp Cynllunio Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Sector Gwirfoddol, ewch i dudalen y Prosiect Iechyd a Gofal neu cysylltwch â healthandcare@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy