tyrbinau gwynt ar ochr bryn heulog yng Nghymru

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn clywed pryderon y sector ynghylch Covid-19, problemau cyllido a llywodraethu

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Gwnaeth y sector gwirfoddol gwrdd â’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, yn ddiweddar i drafod adferiad gwyrdd ar ôl Covid-19, problemau gyda ffrydiau cyllido amgylcheddol a llywodraethu deddfwriaethol ar ôl Brexit.

Dywedodd y Gweinidog wrth y cyfarfod ei bod yn sylweddoli faint o gyllid sydd ei angen i gynorthwyo sector yr amgylchedd i chwarae ei rôl yn y gwaith adfer ar ôl Covid-19, ond mae’n bwysig canolbwyntio hefyd ar sut i gadw ymddygiadau cadarnhaol i fynd. Amlygodd y Cynllun Aer Glân sydd newydd ei gyhoeddi fel enghraifft o waith sydd ar droed ar wahân i’r pandemig. Nododd y grŵp fod angen i sector yr amgylchedd edrych ar gyllid cyfunol, gyda chynigion o gwmnïau preifat, ond bydd arno angen cymorth a datblygiad i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o hyn. Cytunwyd y byddai cynrychiolydd o’r grŵp yn dod â phapur i Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach er mwyn cychwyn sgwrs ar y pwnc hwn.

Dywedodd y grŵp wrth y Gweinidog fod problemau gyda ffrydiau cyllido’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy a Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles wedi arwain rhai mudiadau i fod mewn perygl ariannol gwirioneddol. Nododd Swyddogion fod problemau wedi codi o ran maint a chapasiti, a byddant yn trafod y mater ymhellach yn fewnol er mwyn ceisio gwella’r broses hawlio. Bydd yr Is-bwyllgor Cyllido a Chydymffurfio, sy’n monitro’r gwaith o ran y Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Sector Gwirfoddol, hefyd yn trafod y materion hyn.

O ran llywodraethu amgylcheddol o fis Ionawr 2021, dywedodd y Gweinidog fod grŵp gorchwyl yn gweithio ar nodi dulliau gweithredu ar gyfer y pwnc hwn yng Nghymru o fis Ionawr er mwyn ategu’r ddeddfwriaeth gyfredol. Ychwanegodd nad oedd modd cyflwyno deddfwriaeth benodol yn ystod y tymor llywodraethol hwn oherwydd pwysau amser, ond mae’n edrych ar fesurau dros dro ar gyfer derbyn cwynion ynghylch llywodraethu amgylcheddol ar ôl mis Rhagfyr. Maen nhw wedi hysbysebu am asesydd annibynnol. Dylai fod diweddariad ar gael ar hyn ym mis Tachwedd.

Fe wnawn ni eich diweddaru ar y materion hyn cyn gynted â phosibl.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy