Mewn cyfarfod diweddar, diolchodd y Gweinidog Cyllid i’r sector gwirfoddol am ei ymdrechion yn ystod y pandemig, a nododd fod llawer o bryderon y sector wedi’u trafod mewn cyfarfodydd o fewn Llywodraeth Cymru.
Yn yr ail gyfarfod o 2020 rhwng y sector gwirfoddol a’r Gweinidog Cyllid, yr Aelod o’r Senedd Rebecca Evans, agorodd y Gweinidog drwy ddweud y gall Cymru fod yn falch o ymdrechion ei sector gwirfoddol yn ystod y pandemig a diolchodd i’r sector.
Aeth ymlaen i ddiweddaru’r grŵp ar gyllidebu Llywodraeth Cymru, a gobeithiai y byddai Adolygiad Gwariant y Canghellor ar 25 Tachwedd yn rhoi mwy o eglurder i Lywodraeth Cymru. Mae’r trafodaethau’n parhau ar draws y llywodraeth ar bwysau a blaenoriaethau, ac mae’n gobeithio rhoi’r setliad gorau bosibl i Awdurdodau Lleol.
Gwnaeth y grŵp, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Ganolfan Cydweithredol Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, Cymorth Cymru, Cytûn ac eraill, nodi’r angen am gylchau cyllido mwy hirdymor a pha mor ddefnyddiol fyddai hi i gario cyllid drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd y Gweinidog y dylid edrych ar gyllid hirdymor drwy fframweithiau rhanbarthol sy’n cynnwys hyblygrwydd. O ran Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, dywedodd ei fod yn bosibl na fydd gan Lywodraeth Cymru y darlun llawn o hyd, hyd yn oed ar ôl datganiad y Canghellor.
Aeth y grŵp ymlaen i drafod pwysigrwydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIAs) yn y broses gyllidebu, a nododd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnal EIAs integredig sy’n dangos sut gall un maes effeithio ar faes arall.
Trodd y drafodaeth wedyn at effaith y pandemig ar y sector, a rhoddwyd sylwadau ar fwy o alw am wasanaethau wrth i incwm y sector leihau; mwy o alwadau i Gyngor ar Bopeth Cymru am gyngor ar gyflogaeth; digartrefedd; y caledi y mae ceiswyr lloches yn ei wynebu, a phwysigrwydd arallgyfeirio ffrydiau incwm. Gwnaeth y grŵp wedyn ailadrodd pwysigrwydd ffrydiau cyllido mwy hirdymor.
Dywedodd y Gweinidog fod llawer o’r pynciau hyn wedi’u codi mewn cyfarfodydd dwyochrog gyda chymheiriaid, ac anogodd bobl i gysylltu â Gweinidogion portffolios penodol er mwyn eu gwneud nhw’n ymwybodol o’u pryderon.