Mae CGGC wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2019/20 – yn cynnwys straeon o bob rhan o’r sector, ystadegau, a mwy.
Ar adegau o argyfwng, mae mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn fwy hanfodol nag erioed i sicrhau bod ein cymunedau’n teimlo’n ddiogel ac yn cael cefnogaeth.
Mae adroddiad blynyddol eleni yn canolbwyntio ar y tri phrif faes gwaith rydym wedi bod yn fwyaf balch ohonyn nhw – enghreifftiau gwych o sut mae’r sector gwirfoddol wedi uno i wneud gwahaniaeth mwy gyda’n gilydd ar adeg o newid cythryblus, a’r hyn rydym wedi’i wneud i hwyluso hyn.
CYLLIDO BRYS
Yn chwarter olaf cyfnod 2019/20, roeddem yn wynebu argyfwng ar ôl argyfwng. Gwelsom lifogydd aruthrol yn dinistrio cartrefi pobl ledled Cymru, ac yna bron yn syth, fe wnaeth datblygiad y pandemig COVID-19 chwalu bywydau pawb ledled y byd yn llwyr.
Bu pwysau ariannol eithriadol ar y sector gwirfoddol oherwydd y materion hyn. Buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael cyllid brys allan i’r rhai oedd ei angen fwyaf, fel y gallai mudiadau gwirfoddol barhau i ddarparu cymorth hanfodol a bod yn asgwrn cefn i’w cymunedau yn eu hamser o angen.
FFORWM CYMDEITHAS SIFIL CYMRU AR BREXIT
Os awn yn ôl i ddiwedd 2019, bygythiad Brexit heb gytundeb oedd y prif beth ar feddyliau mudiadau gwirfoddol. Sut oeddem ni’n mynd i gael pobl i glywed ein llais yng nghanol sŵn diwydiannau pryderus eraill yn brwydro am safle amlwg? A oedd y rhai a wnaeth benderfyniadau Brexit yn gwybod pa mor bwysig yw mudiadau gwirfoddol?
Gwnaethom hwyluso mudiadau o bob rhan o’r sector gwirfoddol yng Nghymru i ddod at ei gilydd a chael llais cryfach ar y cyd ar Brexit, trwy ein Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.
GWOBRAU ELUSENNAU CYMRU
Yr adeg hon y llynedd, cynhaliom ein Gwobrau Elusennau Cymru cyntaf erioed. Mae’n bwysicach nag erioed codi proffil gwaith hanfodol y sector, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran ac a’n helpodd i wneud hynny gyda’r seremoni wobrwyo.
Clywsom straeon emosiynol am heriau yn cael eu goresgyn ac fe gawsom roi cydnabyddiaeth haeddiannol i bobl a mudiadau rhyfeddol. Roedd yn ddathliad mor wych o’r grym sydd gan y sector gwirfoddol i wneud gwahaniaeth mwy gyda’n gilydd, ac ni allem fod yn hapusach eich bod wedi gallu ei rannu gyda ni.
Os hoffech wybod mwy am ein gwaith yn 2019/20 gallwch wylio’r fideo isod – neu gallwch ddarllen yr adroddiad yn llawn yma.