Cronfa newydd i helpu mudiadau gwirfoddol i achub asedau cymunedol fel tafarndai, canolfannau hamdden, siopau a theatrau.
Yr wythnos ddiwethaf, lansiodd Llywodraeth y DU ei Chronfa Perchnogaeth Gymunedol hirddisgwyliedig. Yn yr un modd â’r Cronfeydd Codi’r Gwastad ac Adfywio Cymunedol, mae’r cylch ceisiadau cyntaf yn dynn o ran amser. Roeddem yn disgwyl i’r prosbectws gael ei gyhoeddi erbyn mis Mehefin ond cafodd hwn ei wthio’n ôl, gyda’r cylch cyntaf yn agor yn y diwedd ar 15 Gorffennaf. Ychydig dros bedair wythnos (13 Awst) sydd gan fudiadau i ddatblygu a chyflwyno eu cynigion i Lywodraeth y DU. Os nad oes gennych chi rywbeth eisoes wedi’i baratoi, neu os yw’r amserlen yn rhy broblemus, bydd o leiaf saith cylch ceisiadau arall yn cael eu cyflwyno yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Beth yw’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol?
Cronfa DU gyfan £150 miliwn yw hon sydd wedi’i sefydlu i helpu cymunedau i gymryd perchnogaeth o asedau a chyfleustodau sydd mewn perygl o gau. Bydd yn cefnogi amrediad o gynigion prosiect perchnogaeth gymunedol, gan gynnwys: cyfleusterau chwaraeon a hamdden, siopau, tafarndai, parciau a lleoliadau cerddoriaeth.
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
Mae’r Gronfa i fudiadau cymunedol a gwirfoddol, fel: mudiadau corfforedig elusennol (CIO), cwmnïau cydweithredol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs) a chwmnïau nid er elw cyfyngedig trwy warant.
Sut bydd yn cael ei chyflwyno?
Bydd yn cael ei chyflwyno’n uniongyrchol gan lywodraeth y DU. Bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn elwa ar ddyraniad gwarantedig yn unol â’r gyfran y pen. Mae hyn yn golygu y bydd £7.1 miliwn ar gael i Gymru.
Faint sydd ar gael?
Gall mudiadau wneud cais am grantiau cyfalaf cyfatebol o hyd at £250,000 ar gyfer y mwyafrif o brosiectau. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd £1 miliwn o grantiau cyfalaf cyfatebol ar gael i helpu i sefydlu clwb chwaraeon dan berchnogaeth y gymuned neu i brynu clwb neu gyfleuster chwaraeon mewn perygl o gael ei golli. Ni fydd angen refeniw cyfatebol a gall mudiadau wneud cais am hyd at £50,000 (heb wneud cais am fwy nag 20% o gyfanswm y costau cyfalaf).
Beth am gyllid cyfatebol?
Bydd dod o hyd i gyllid cyfatebol yn broblem i lawer o fudiadau gwirfoddol. Mae’n bosibl y bydd rhai mudiadau’n gymwys ac yn gallu cael y cyllid hwnnw ar gyfer eu prosiect Cronfa Perchnogaeth Gymunedol trwy Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC). Cysylltwch â thîm SIC am ragor o wybodaeth: sic@wcva.cymru.
Dyddiadau allweddol
15 Gorffennaf 2021 Cylch ceisiadau cyntaf ar agor
13 Awst 2021 Cylch ceisiadau cyntaf yn cau
Rhagfyr 2021 Ail gylch ceisiadau ar agor
Mai 2022 Trydydd cylch ceisiadau ar agor
Bydd y Gronfa ar gael tan 2024/25, gydag o leiaf wyth cylch ceisiadau i gyd.
Rhagor o wybodaeth
Gellir dod o hyd i brosbectws y Gronfa, ynghyd â chanllawiau ar y meini prawf asesu a’r ffurflen gais ar wefan llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).