Mae Llywodraeth y DU newydd lansio ail gylch y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i helpu cymunedau i fod yn berchen ar asedau ac amwynderau lleol sydd mewn perygl o gau.
O dan gylch 1, bu 31 o gynigion yn llwyddiannus, a gwnaed tri dyfarniad yng Nghymru – £250,000 ar gyfer tafarn Ty’n Llan yng Ngwynedd, £124,258 ar gyfer Canolfan Adnoddau a Hyfforddiant CANA yn Rhondda Cynon Taf a £90,000 i ailwampio ac ailddatblygu Neuadd Ddawns y Frenhines ym Mlaenau Gwent.
Cafodd yr ail gylch ei ohirio’n fwriadol i alluogi Llywodraeth y DU i wneud newidiadau i’r meini prawf cymhwysedd ac i ddylunio’r rhaglen, yn dilyn adborth o’r cylch cyntaf yn haf 2021. Mae’r prosbectws (Saesneg yn unig) wedi’i symleiddio, gan ei wneud yn fwy hygyrch i ymgeiswyr ac mae Llywodraeth y DU wedi llunio rhestr o ddogfennau atodol (Saesneg yn unig).
NEWIDIADAU ALLWEDDOL
Dyma rai o’r newidiadau allweddol i’r gofynion cymhwysedd:
- estyniad i gwblhau’r prosiect, o chwe mis i 12 mis o’r dyddiad a nodir ar y llythyr cynnig
- caniatáu cymeradwyo cynigion ar gyfer asedau gydag o leiaf 15 blwyddyn o les a chymalau terfynu rhesymol (ond ffafrir lesoedd 25 mlynedd o hyd)
- cael gwared ar y gofyniad i brosiectau fod wedi cael defnydd cymunedol yn ystod y pump mlynedd ddiwethaf (ond rhaid i asedau barhau i fod â thystiolaeth o rywfaint o ddefnydd cymunedol yn y gorffennol)
- egluro a symleiddio’r gofynion cymhwysedd ar gyfer asedau ym mherchnogaeth y cyhoedd ac asedau chwaraeon.
Mae’r broses ymgeisio hefyd wedi’i diwygio, trwy gyflwyno proses dau gam. Cam 1 yw’r cam Mynegi Diddordeb (EOI). Gall ymgeiswyr gyflwyno EOI ar unrhyw gyfnod o’r rhaglen. Bydd hwn yn pennu a ydyn nhw’n gymwys ac yn barod i gyflwyno cais llawn. Mae wedi’i gynllunio i gryfhau’r broses ymgeisio drwy wella dichonoldeb prosiectau a sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o’r gofynion cymhwysedd, cyn cyflwyno cais llawn.
CYMORTH AR GAEL
Newid arall i’r rhaglen yw cyflwyno cymorth cynnar i fudiadau sydd ei angen a’i eisiau. Bydd hwn yn cael ei ddarparu gan ddarparwr allanol (sydd eto i’w benodi) a chyfeirir at hwn yn y prosbectws fel y darparwr cymorth datblygu.
Bydd y ffenestr ymgeisio gyntaf yn agor yn yr wythnos sy’n dechrau 6 Mehefin, gyda dwy ffenestr ymgeisio arall yn agor cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.