person di-gartref yn edrych lan y stryd at ddinas

Y Gronfa Helpu i Daclo Digartrefedd – Cofrestrwch eich diddordeb

Cyhoeddwyd : 27/02/20 | Categorïau: Cyllid |

Mae Cronfa Gymunedol Cymru’r Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi eu cronfa Helpu i Daclo Digartrefedd; cronfa o £10 miliwn ar gyfer prosiectau strategol sy’n gweithredu ledled un ardal awdurdod lleol neu ragor mewn lleoliadau trefol a gwledig, gyda’r nod o ailgynllunio gwasanaethau er mwyn gwneud digartrefedd yn achos prin, byr ac yn un na fydd yn digwydd eto.

Rhaid i fudiadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais ar gyfer y gronfa hon gysylltu â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gofrestru eu diddordeb cyn dydd Mercher 4 Mawrth 2020.

Disgwylir i’r Gronfa Gymunedol gyllido pedwar neu bum prosiect dros bum i saith mlynedd. Maen nhw wedi nodi’r amcanion canlynol y mae’n rhaid i brosiectau eu cyflawni:

  • Dod â phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddigartrefedd a mudiadau o’r trydydd sector, y sector cyhoeddus, a’r sector rhentu preifat at ei gilydd i gyd-gynllunio prosiectau sy’n ail-ddylunio gwasanaethau er mwyn atal a thaclo digartrefedd, er mwyn ei wneud yn achos prin, byr ac yn un na fydd yn digwydd.
  • Darparu cymorth cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n ychwanegol at y ddarpariaeth gyfredol, gan gydnabod fod digartrefedd yn cael ei ystyried yn aml fel dim ond un o’r heriau di-ri a wynebir gan y rheini sy’n ei wynebu, a’u helpu nhw i oresgyn yr heriau eraill yn eu bywydau.
  • Lleihau’r gwahaniaethu a’r rhagfarn a gyfeirir tuag at bobl ddigartref sy’n profi digartrefedd. Gwneir hyn drwy annog empathi a dealltwriaeth mewn modd a lywir gan drawma o fewn gwasanaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector a’r gymuned ehangach
  • Datblygu sylfaen dystiolaeth gadarn sy’n gallu llywio’r gwaith o gyflawni prosiect yn ogystal â llunwyr polisi a chomisiynwyr gwasanaeth eraill. Bydd y dystiolaeth yn dangos dulliau effeithiol o wneud achosion o ddigartrefedd yn rhai prin, byr ac yn rhai na fydd yn digwydd eto.

Rhaid i brosiectau gael eu cyflenwi gan bartneriaethau a arweinir gan fudiadau o’r trydydd sector a rhaid iddynt gynnwys un awdurdod lleol neu ragor. Fel y gwelwch chi o’r amcanion, mae’r Gronfa Gymunedol hefyd yn chwilio am brosiectau sy’n gweithio ar draws sectorau.

Bydd mudiadau sydd wedi cofrestru eu diddordeb gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn derbyn rhestr o fudiadau eraill â diddordeb wedyn er mwyn helpu i feithrin y partneriaethau sy’n Mynegi Diddordeb.

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa, y broses ymgeisio lawn, y meini prawf cymhwysedd a sut i gofrestru eich diddordeb gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ewch i’w gwefan yn: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/helping-end-homelessness

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy