People in Africa travel to a birth certificate registration event funded by the Welsh Government Wales and Africa grant scheme

Y grant sy’n cyllido dronau a thystysgrifau geni

Cyhoeddwyd : 21/10/22 | Categorïau: Cyllid |

Darllenwch am y prosiectau 12 mis ffantastig rydyn ni wedi’u cyllido drwy gylch 1 Cynllun Grant Cymru ac Affrica 2022-25.

Mae Cynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGGC, yn cefnogi mudiadau gwirfoddol ledled Cymru sy’n gweithio gyda phartneriaethau yn Affrica Is-Sahara.

Mae’r holl brosiectau wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ymdrechion Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (gwefan Saesneg yn unig) ac rydyn ni wrth ein boddau i weld grwpiau cymunedol bach a mudiadau o bob rhan o Gymru yn meithrin partneriaethau â grwpiau o Ghana, Kenya, Senegal, Tanzania, Zanzibar, a Zimbabwe.

Mae amser o hyd i ymgeisio am ail gylch y cyllid – o £1,000 i £25,000. Dyddiad cau 4 Tachwedd 2022.

Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch yma.

Dyma’r prosiectau rydyn ni wedi’u cyllido yng nghylch 1…

O DAN £10,000

Prosiect cofrestru genedigaethau – Niokolo Network, Senegal

Ble fyddech chi heb eich tystysgrif geni? Mae’r her hon yn wynebu plant yn Senegal. Canfu arolwg gan gymdeithas gymunedol Kamben (Saesneg yn unig) nad oedd hyd at hanner yr holl blant ym mhentrefi Parc Cenedlaethol Niokolo-Koba wedi’u cofrestru pan gawsant eu geni.

Mae canlyniadau gydol oes i hyn: ni allant fynd i’r ysgol, cael mynediad at ofal iechyd, dod o hyd i gyflogaeth ffurfiol nac hyd yn oed agor cyfrif banc.

Gwnaethom gyllido Rhwydwaith Niokolo yng Nghymru i weithio mewn partneriaeth â Kamden i drefnu digwyddiadau cofrestru genedigaethau gwledig, cryfhau strategaethau cyfathrebu yn Senegal a Chymru a gwella dinasyddiaeth weithredol fyd-eang. Dysgwch fwy.

Cymorth ar ôl COVID-19 – Elusen Prosiect Moses, Kenya

Gwnaeth dwy ysgol gymunedol wledig yn Endonyiosidai Kenya (gwefan Saesneg yn unig) – sy’n golygu Bryn Hyfryd – weld dirywiad cyflym yn nifer eu disgyblion o ganlyniad i effaith ddinistriol COVID-19.

Aethom ati ar unwaith i roi cymorth ariannol i Elusen Prosiect Moses, sy’n sefydlu ac yn cefnogi cysylltiadau addysgol a diwylliannol rhwng Cymru a Kenya. Gwnaethant gefnogi’r gymuned drwy ymyriadau tymor byr, gan gynnwys rhoi sylw i’r prinder dŵr a hwyluso addysg a oedd yn ymwneud â hylendid, a wnaeth arwain wedyn at fwy o bresenoldeb yn yr ysgol.

O DAN £15,000

Cynorthwyo plant ag anableddau – APT for Social Development, Kenya

O’r plant hynny sy’n byw ag anabledd yn Kenya, mae oddeutu 70% ohonynt yn byw o dan y ffin tlodi. Ni oes gan lawer o’r rheini sy’n byw ag anableddau corfforol difrifol fynediad at gyfarpar cymorth osgo, sy’n golygu eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar eu pennau eu hunain, yn gorwedd ar y llawr neu mewn gwely.

Gwnaeth APT for Social Development (Saesneg yn unig) dderbyn cyllid at gostau datblygu a gweithredu dau weithdy technoleg ar bapur gweithredol a phriodol yng nghefn gwlad Kenya. Gwnaeth y rhain helpu i ddatblygu dyfeisiau cymorth osgo pwrpasol o ddeunyddiau rhad lleol a chyflwyno hyfforddiant i therapyddion lleol a staff gweithdy.

Ymchwil a hyfforddiant Glawcoma – Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd, Ghana

Glawcoma yw’r prif achos o ddallineb anghildroadwy y gellir ei atal yn Affrica. Dyna pam y gwnaethom gyllido tîm o Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg Prifysgol Caerdydd i gydweithio â’r University of Cape Coast, UCC (Saesneg yn unig), i hyfforddi a pharatoi optometryddion mewn glawcoma a threialu datrysiad rhad, syml a chynaliadwy i ganfod y clefyd yn gynnar mewn cymunedau gwledig a thlawd.

O DAN £20,000

Diddymu Malaria – Prifysgol Aberystwyth, Zanzibar, Tanzania

Gwnaethom gyllido gwyddonwyr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Ddaear Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi datblygu technoleg drôn a ffôn clyfar i ddiddymu malaria ar ynysoedd lled-ymreolaethol Zanzibar erbyn 2023.

Gall y gwyddonwyr yn Aberystwyth ddod o hyd i’r pyllau dŵr y mae mosgitos sy’n cludo malaria yn eu defnyddio i fridio, sy’n golygu y gall timau ar y llawr fynd ati’n gywir wedyn i fapio’r rhai i’w trin, cyn i’r larfâu droi’n fosgitos llawn twf a dechrau lledaenu’r parasit malaria. Dysgwch fwy (Saesneg yn unig).

Ysgol zoom Kenya-Cymru – Challenge Aid, Kenya

Serch rhywfaint o gynnydd economaidd, mae oddeutu 46% o bobl Kenya yn byw mewn tlodi, a llawer yn byw mewn slymiau.

Mae Challenge Aid (Saesneg yn unig) a’i Ysgolion Gobaith yn cynnig cymorth addysgol i blant drwy ddarparu desgiau, cadeiriau, goleuadau, llyfrau gwaith a mwy. Gwnaeth ein cyllid adnoddi chwe chanolfan yn Nairobi â gliniaduron, taflunyddion a sgriniau ar gyfer gwersi Zoom a gyflwynwyd gan athrawon gwirfoddol, yma yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant HMS i athrawon yn ogystal â gwersi i fyfyrwyr.

– Prosiect adrodd storïau – Anabledd yng Nghymru ac Affrica (DWA), aml-wlad

Gwnaethom gyllido DWA i drefnu ‘Rhannu Ein Stori’, a fydd yn datblygu platfform cyhoeddus i bobl fyddar ac anabl ledled Cymru ac Affrica rannu eu profiadau, syniadau a’u harbenigedd wrth geisio datblygiadau cynhwysol i bobl anabl.

£25,000 (DYFARNIAD UCHAF)

Hyfforddiant rheoli llosgiadau i nyrsys – Interburns, Tanzania

Mae’r gofal i gleifion â llosgiadau wedi datblygu’n gyflym mewn gwledydd incwm uchel. Gwnaethom helpu i gyllido’r prosiect Interburns hwn er mwyn hyfforddi pum nyrs llosgiadau yn Tanzania, ac yn y pen draw, gwella ansawdd y nyrsio llosgiadau mewn ysbytai eilaidd a thrydyddol a galluogi sgiliau i gael eu lledaenu’n ehangach ledled yr ardal.

Hyfforddiant gardd faetheg i fenywod – Chomuzangari Women’s Cooperative, Zimbabwe

Mae Cymuned Chomzangari yn ardal Chivi, Talaith Masvingo, Zimbabwe. Mae hon yn ardal sy’n dioddef o sychder, gyda’r menywod yn bennaf gyfrifol am gynhaliaeth a llesiant cyffredinol yr aelwyd.

Bydd ein cyllid yn cynorthwyo Chomuzangari Women’s Cooperative i ehangu gardd faetheg bresennol, mynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud â’r newid hinsawdd a hyfforddi 60 o fenywod mewn bywoliaethau cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth pobl gynhenid a thechnegau ffermio modern o ran paratoi tir ac adeiladu tai gwydr a thai geifr.

RHAGOR O WYBODAETH

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a gwneud cais ar ein tudalen Cymru ac Affrica.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy