Gyda chymorth o’r Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE) wedi bod yn darparu gwasanaethau hanfodol i gymuned Abertawe BAME yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae CAE wedi bod yn darparu cymorth cyflogaeth ac arweiniad entrepreneuraidd i unigolion du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn Abertawe ers iddi agor yn 2017.
Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn ymweld â’r ganolfan i gael cymorth entrepreneuraidd, cyrsiau dysgu Saesneg, clinigau busnes a chyngor cyflogaeth.
Yn ogystal â darparu gwasanaethau o fewn y ganolfan gymunedol, mae’r CAE hefyd yn cynnal digwyddiadau wythnos fyd-eang entrepreneuriaeth yn flynyddol a gweithdai ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar gyfer y gymuned leol.
Diolch i’r ganolfan, mae gan 50 o bobl yr wythnos bellach fynediad i’r rhyngrwyd trwy’r cyfleusterau TG, mae 5 o bobl wedi dechrau gweithio’n llawn amser ac mae 19 o bobl wedi dechrau gwirfoddoli.
‘Ymdeimlad o berthyn’
Dywedodd Yolanda Barnes, Rheolwr Gweithrediadau: ‘Mae ein gwaith wedi helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn Abertawe trwy ddarparu amgylchedd diogel er mwyn i bobl BAME dderbyn ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ar bob agwedd o fywyd.
‘Boed hynny trwy helpu ceiswyr lloches sydd newydd gyrraedd y ddinas gyda chefnogaeth cyfieithu, neu arwain pobl ifanc leol trwy hyfforddiant entrepreneuriaeth, mae’r CAE yn cynnig ymdeimlad o berthyn i’r gymuned BAME.
‘Mae’r bobl sy’n ymweld â’n Canolfan yn teimlo’n gartrefol yn syth ac yn medru ymddiried ynom ni i weithio tuag at ddyfodol mwy disglair iddyn nhw. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches a gefnogwn, sy’n aml yn gallu teimlo wedi’u llethu gan y newid mewn lleoliad.’
Pan ddaeth y pandemig
Roedd y CAE yn ganolbwynt i’r gymuned, yn grymuso’r cymunedau BAME ac yn hybu cydlyniad cymunedol. Fodd bynnag, pan drawodd pandemig COVID-19 ym mis Chwefror, bu rhaid i’r ganolfan addasu i ffordd newydd o helpu eu cymuned.
Mewn ymateb i’r argyfwng, mae’r CAE a’i wirfoddolwyr bellach yn rhedeg gwasanaeth banc bwyd. Mae’r tîm hwn, yn ogystal â 6 o wirfoddolwyr, bellach yn casglu ac yn dosbarthu 83 o barseli bwyd i gartrefi BAME agored i niwed yn ac o gwmpas Abertawe.
Mae wedi datblygu’n wasanaeth hanfodol i’r gymuned, gan ddarparu nid yn unig y bwyd ond ymdeimlad o obaith hefyd.
Wrth adael y bwyd mae’r gwirfoddolwyr yn treulio peth amser yn sgwrsio â’r derbynwyr, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw’r holl gefnogaeth sydd ei angen arnynt a’u diweddaru â gwybodaeth gywir yn ymwneud â’r pandemig.
Ymyrraeth gyflym
Mae cyllid gan Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol CGGC a Llywodraeth Cymru wedi caniatáu CAE i brynu PPE er mwyn diogelu eu gwirfoddolwyr, yn ogystal â fan fwyd reweiddiedig er mwyn hwyluso gwaith y banc bwyd a chwrdd â’r cynnydd mewn galw am y gwasanaeth hwn.
Yng nghanol hyn i gyd, mae’r tîm hefyd wedi llwyddo i brynu ffonau symudol er mwyn galluogi’r staff i barhau i ddarparu cefnogaeth i weithwyr y gwasanaeth tra’u bod nhw’n gweithio o gartref.
Yn ogystal, mae’r CAE wedi agor dwy linell gymorth i gefnogi unigolion â materion iechyd meddwl, neu’r rheiny sydd, o bosibl, wedi colli’u swyddi neu sydd wed gorfod cau eu busnesau.
Aeth Yolanda Barnes, Rheolwr Gweithrediadau, yn ei blaen: ‘Bu’n llwyddiant ysgubol hyd yma – rydym wedi llwyddo i leihau’r baich i nifer o bobl BAME agored i niwed trwy sicrhau nad oes rhaid iddynt boeni mwyach ynglŷn â’i chael hi’n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd na dioddef yn dawel gyda’u hiechyd meddwl.
‘Fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ein prif gyllidwyr, megis CGGC. Yr hyn a greodd y mwyaf o argraff arna i, o ran CGGC, oedd pa mor gyflym y llwyddodd i’n helpu ni. Fe ganiataodd yr ymyrraeth gyflym yma ni i ddechrau arni’n syth er mwyn cynnig cymorth i ddefnyddwyr ein gwasanaeth!’
Darganfod sut all eich mudiad gwneud cais i’r Gronfa er mwyn sicrhau bod modd i chi barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl mewn angen yn ystod y cyfnod hwn.