Merch ifanc mewn siaced binc yn dal rhwyd fawr ac yn archwilio beth mae hi wedi ei ddarganfod gyda chydlynydd gweithgareddau helfa chwilod Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn Eglwys Llangywer ger y Bala

Y dyfodol rydym yn ei greu: gwersi o wirfoddoli mewn pandemig yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 30/01/23 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Mawrth 2020 oedd dechreuad cyfnod o newid aruthrol i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae adroddiad gan Natalie Zhivkova o CGGC yn cofnodi’r hyn rydym wedi’i ddysgu ar gyfer y dyfodol.

Ym mis Mawrth 2022, dwy flynedd ers dechrau argyfwng COVID-19, gwnaethom ni a rhanddeiliaid allweddol ddod ynghyd i edrych ar bopeth a ddigwyddodd yn ystod y pandemig. Gwnaethom ni fyfyrio ar y newidiadau o ran sut mae’r sector gwirfoddol yn gweithredu, sut rydyn ni’n rhyngweithio â phobl eraill, sut mae pobl yn ein gweld ni a hyd yn oed – pwy ydyn ni.

Nod ein hadroddiad newydd, Y dyfodol rydym yn ei greu: gwersi o wirfoddoli mewn pandemig yng Nghymru, yw ceisio cyflwyno’r safbwyntiau a’r ymagweddau yn sector gwirfoddol Cymru dwy flynedd ar ôl y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, eu cymharu â’r ymchwil sydd eisoes yn bodoli, gwneud argymhellion ar gyfer anghenion datblygu a chymorth yn y dyfodol ac amlygu cyfleoedd a heriau posibl yn y dyfodol agos.

Yma, edrychwn ni ar brif ganfyddiadau’r adroddiad:

CAMU YMLAEN PAN OEDD EI ANGEN MWYAF

Mewn adeg o angen mawr, cyflawnodd y sector. Daeth cymunedau ynghyd a chafodd gwirfoddoli ei gydnabod yn eang. Cafodd partneriaethau a chydweithrediadau eu ffurfio a’u cryfhau, rhoddodd cyllidwyr fwy o ffydd ynom, gwnaeth sectorau eraill edrych arnom ni’n wahanol a chyda gwerthfawrogiad newydd o’r hyn y gallwn ni ei wneud.

Profwyd ein terfynau i’r eithaf, newidiodd ein ffyrdd o weithio, gwnaethon ni ddysgu miloedd o wersi a dechrau meddwl mewn ffyrdd newydd. Ond fel sy’n digwydd yn aml ymhlith mudiadau gwirfoddol, pan gawson ni ein hwynebu gan her aruthrol, gyda llawer mwy o heriau o’n blaenau, fe welsom ni gyfle.

SEILWAITH A CHYDWEITHIO

Dylem barhau i gydweithio ar bob lefel a manteisio ar arbenigeddau ein gilydd. Mae angen i’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a chymunedau adeiladu ar y cydberthnasau a grëwyd yn ystod y pandemig a gweithio gyda’i gilydd i ailgodi a chynnal eu gwydnwch i’r dyfodol.

Mae risg yn rhan annatod o gydweithio. Dylen ni fod yn agored i gymryd risgiau bwriadol sy’n ein galluogi ni i arloesi, arbrofi a datrys problemau hirsefydlog. Caiff partneriaethau cryf eu meithrin dros amser ac mae angen buddsoddi adnoddau staff i’w cynnal. Mae ennyn ymddiriedaeth, cynefindra a dealltwriaeth pan fydd cydweithio’n opsiynol yn talu ar ei ganfed yng ngŵydd argyfwng, pan ddaw’n anorfod.

Mae seilwaith y sector gwirfoddol yn chwarae rhan allweddol mewn hybu a galluogi partneriaethau ledled y wlad.

GWIRFODDOLI ANFFURFIOL

Daeth gwirfoddoli anffurfiol ar hyd a lled cymunedau yng Nghymru yn amlwg iawn yn ystod y pandemig. Mae ei raddfa a’i effaith wedi bod yn syfrdanol ac yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i sefydliadau ffurfiol. Pan wnaeth y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus gydweithio â grwpiau cymunedol, bu’n fuddiol, ar y cyfan, i’r ddwy ochr. Bu gwirfoddolwyr anffurfiol yn ddolen bwysig i gymunedau, yn cyflwyno dangosyddion amserol o’r angen ac yn rhoi adborth gonest ar wasanaethau’r sector statudol a gwirfoddol, ac yn gyfnewid am hyn, cawsant arweiniad, hyfforddiant ac adnoddau.

Fel arfer, nid oes gan wirfoddolwyr anffurfiol ddiddordeb mewn dod yn rhan o strwythur ffurfiol ac addasu i’n ffordd fwy anhyblyg o weithio. Eu cryfder yw eu gallu i addasu a chyflymder eu gweithredu. Ni ddylai’r sector gwirfoddol geisio eu hefelychu; yn hytrach, dylen nhw gydweithio â nhw a dysgu o wirfoddolwyr cymunedol, gan estyn help llaw ar yr un pryd.

DIGIDOL

Technoleg ddigidol yw ein ffrind – dylen ni barhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig, gan ddefnyddio technoleg i symleiddio prosesau, hwyluso cydweithrediadau a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli mwy hyblyg. Fodd bynnag, dylen ni fod yn ofalus iawn nad ydyn ni’n gadael y rheini na allai fod â’r mynediad neu’r sgiliau ar ôl.

Ni ddylen ni chwaith anghofio’r buddion i bawb dan sylw o gael rhyngweithiad wyneb yn wyneb. Bydd dull gweithredu hybrid, gyda hyfforddiant, gwasanaethau a chyfleoedd gwirfoddoli ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ein galluogi i fod yn gynhwysol a chroesawgar i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Mae’r sector yn parhau i edrych ar adnoddau digidol a grëwyd yn bwrpasol ac yn dilyn y gwaith o roi Strategaeth Ddigidol Cymru Llywodraeth Cymru ar waith yn eiddgar.

BIWROCRATIAETH A HYBLYGRWYDD

Dylai pob un ohonom ni fod yn ceisio lleihau biwrocratiaeth, nid fel mesur argyfwng yn unig, ond i optimeiddio ein gwaith bob dydd. Dylai’r sector gwirfoddol, cyrff cyhoeddus a chyllidwyr ddysgu o’r cynnydd rydyn ni i gyd wedi’i wneud yn ystod y pandemig a pharhau i adolygu gweithdrefnau biwrocrataidd. Mae gweithdrefnau gweinyddol sy’n gymesur â’r gweithgaredd yn gwneud cyfleoedd gwirfoddoli’n ddeniadol i fwy o bobl, cydweithrediadau rhwng ac o fewn adrannau yn fwy hygyrch a chyllid yn fwy amserol.

TIRWEDD NEWYDD

Mae tirwedd y sector gwirfoddol wedi newid – mae angen i bob sector addasu iddi. Mae’r pandemig wedi croesawu mathau newydd o wirfoddolwyr ac wedi ei gwneud hi’n angenrheidiol i drawsnewid llawer o rolau gwirfoddoli ‘traddodiadol. Gwnaeth y cyfyngiadau o ran cadw pellter cymdeithasol wneud cyfleoedd digidol yn fwy amlwg o lawer, yn yr un modd â micro-wirfoddoli.

Mae darpar wirfoddolwyr yn disgwyl hyblygrwydd ac amrywiaeth nawr yn y rolau a gynigir, ac mae angen i’r sector barhau i gyflwyno opsiynau i gynnal y set ehangach o unigolion y llwyddom ni i’w denu yn ystod y pandemig.

Mae’r sector mewn perygl – gyda nifer fawr o staff a gwirfoddolwyr yn dioddef o orflinder, galw uchel parhaus am wasanaethau a llai o gyllid. Mae recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yn fater dybryd – bydd dealltwriaeth drylwyr o’r hyn sy’n cymell gwirfoddolwyr, rhoi pwyslais ar y buddion llesiant i bawb dan sylw, a manteisio i’r eithaf ar broffil uwch gwirfoddoli i ymgysylltu â’r sector preifat i gyd yn rhan o’r datrysiad. Ond, bydd hefyd angen buddsoddiad wedi’i dargedu yn y sector i helpu i fynd i’r afael â’r galwadau uchel am wasanaethau.

POLISI A CHYLLID

Ni ddylid gwastraffu’r holl brofiadau rydyn ni wedi’u cael a’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yng ngŵydd adfyd. Dylid defnyddio gwersi o gydweithio traws-sector, arferion hyfforddi a recriwtio a rennir, cysylltiadau â grwpiau cymunedol a’r ymateb i argyfyngau i adeiladu fframweithiau ar gyfer y dyfodol.

Dylid cynnal biwrocratiaeth weinyddol a chyllidol drwy ei gwerthuso a’i haddasu’n aml. Dylai cyllidwyr barhau i gynnig cronfeydd bach o gyllid hyblyg sy’n annog arloesi a chydweithio, ochr yn ochr â chyfleoedd cyllid craidd. Dylai gwirfoddoli fod ar agenda uwch-arweinwyr ar draws sectorau yng Nghymru.

Yr unig ffordd y gallwn ni roi’r gwersi rydyn ni wedi’u dysgu o’r pandemig ar waith yw trwy gael cefnogaeth ar draws pob lefel weithredu a mandad clir i wneud y canlynol:

  • Creu amgylchedd sy’n galluogi
  • Chwilio am gyfleoedd i hybu gwirfoddoli a chydweithio
  • Creu cyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan

Gallwch chi ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy