Y Dirprwy Weinidog yn canmol ymateb y sector i’r argyfwng coronafeirws wrth i ymchwiliadau newydd gael eu lansio

Cyhoeddwyd : 27/04/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae’r Dirprwy Weinidog Jane Hutt wedi cyhoeddi datganiad yn amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r sector gwirfoddol, elusennau a gwirfoddolwyr yn ystod argyfwng Covid-19.  

Yn y datganiad, mae’r Gweinidog yn cydnabod ac yn dathlu’r rôl mae’r sector a gwirfoddolwyr yn ei chwarae a’r gefnogaeth maent yn ei darparu wrth ddiogelu llesiant Cymru, ei phobl a’i chymunedau, gan gydnabod eucyfraniad gwerthfawr tu hwnt’.   

Aeth yn ei blaen i dynnu sylw at y ffrydiau cyllid sydd ar gael i’r sector yn ystod y cyfnod hwn, sef: 

  • Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, sy’n cefnogi mudiadau’r sector gwirfoddol yn y gymuned i gydlynu’r ymateb anhygoel a welwyd gan wirfoddolwyr ledled Cymru. Mae’r gronfa hon yn cynorthwyo mudiadau i dalu costau a threuliau eu gwirfoddolwyr

Gorffennodd y llythyr trwy ddweud, ‘I gloi, hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl grwpiau o wirfoddolwyr ac elusennau sy’n rhoi cefnogaeth i bobl Cymru ar hyn o brydmae pob un ohonoch yn wych’.  

Mae dau ymchwiliad newydd i effeithiau’r argyfwng ar Gymru wedi’u lansio. Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon bellach yn chwilio am dystiolaeth o effaith yr argyfwng ar fudiadau iechyd a gofal cymdeithasol, tra bo’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi agor ymchwiliad i effaith yr argyfwng ar economi Cymru.  

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy